Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2017/23.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu holl waith yn paratoi’r adroddiad.  Ymddiheurwyd bod cynllun yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol wedi’i adael allan o’r Cynlluniau Adran trwy amryfusedd.  ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn copi ar wahân a byddai’r ddogfen wedi’i hymgorffori yn y fersiwn terfynol o Gynllun y Cyngor fydd yn cael ei gyhoeddi.  Byddai angen cywiro rhai mân wallau golygyddol hefyd ynghyd ag ychwanegu paragraff yn datgan bod yr holl faterion yn y cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Ariannol y Cyngor, er y gallai fod yn amhosib’ gwireddu’r holl flaenoriaethau oherwydd y cyd-destun ariannol.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod rhieni wedi derbyn neges destun gan bennaeth ysgol gynradd ar ôl 9yb ar ddau achlysur yn ddiweddar yn dweud bod yr ysgol yn cau oherwydd diffyg nwy ac yn gofyn iddynt ddychwelyd i nôl eu plant.  Holwyd pam na allai’r rhieni gael gwybod am sefyllfaoedd fel hyn ynghynt gan fod yr ysgol yn gwybod am y broblem nwy cyn 9yb.  Atebodd yr Arweinydd mai mater i’r Llywodraethwyr oedd hyn.

·         Holwyd a oedd gan Dîm Derwen gynlluniau i ymestyn eu meini prawf i sicrhau bod pob plentyn ag anableddau yng Ngwynedd yn gallu manteisio ar wasanaeth arbenigol sy’n cael ei gynnig ganddynt.  Nododd yr Arweinydd y byddai’n cyfeirio’r cwestiwn ymlaen i’r Tîm ac y byddai’r aelod yn derbyn yr ateb yn uniongyrchol.

·         Holwyd faint o bwysau mae’r Cyngor yn rhoi i sicrhau cyflenwad digonol o dai ar rent.  Atebodd yr Arweinydd fod mater tai yn flaenoriaeth sylfaenol ganddo a bod trafodaethau wedi digwydd eisoes gyda chymdeithasau tai i symud hyn ymhellach.  O adnabod lle mae’r angen a beth ydi’r angen, gellid ymchwilio i sut y gall y Cyngor gynorthwyo’r cymdeithasau tai ac ‘roedd yn awyddus i weld adeiladau ar eu traed ac wedi eu gosod. 

·         Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr Arweinydd nad rhestr o ddymuniadau’n unig oedd y cynllun a bod yna lawer mwy o fanylder i’w gael ar y cynlluniau unigol na’r hyn a gynhwyswyd yn y ddogfen.  Cynllun gweithredu ydoedd ac ‘roedd yna ddatblygu ar fanylion.  Byddai’n cael ei ddatblygu’n gyson ac o bosib’ y byddai yna newid cyfeiriad.

·         Holwyd a gysylltwyd â’r Adran Gynllunio ynglŷn â Blaenoriaeth Gwella 4 – Sicrhau mwy o gyflenwad o dai addas ar gyfer ein trigolion.  Atebodd yr Arweinydd fod y polisi cynllunio wedi’i drafod fel mater cwbl ar wahân.  ‘Roedd materion cynllunio yn effeithio ar faterion fel hyn, ond nid oedd gan y Cyngor ddewis ond gweithredu o fewn ei bolisïau.  ‘Roedd y cwestiwn cynllunio wedi codi yn y trafodaethau ar dwf economaidd ac ‘roedd cynllunio yn cyffwrdd â phopeth.  Os oedd polisïau cynllunio’r Cyngor yn rhy gaeth, ‘roedd lle i adolygu rhain hefyd a gallai’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd edrych arnynt.

·         Mynegwyd pryder bod polisïau cynllunio lleol yn aml yn cael eu cyfyngu gan bolisïau cenedlaethol a hynny’n cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniadau Arolygwyr Cynllunio.

·         Croesawyd y cynllun peilot ‘Plant yn Gyntaf’ yn ardal Maesgeirchen, Bangor a mynegwyd dymuniad i weld y cynllun yn cael ei ymestyn i ardaloedd difreintiedig eraill ym Mangor fel Stad Maestryfan, Tai Stesion a Choed Mawr.  Atebodd yr Arweinydd ei fod yn tybio bod y cynllun hwn wedi’i ariannu gan y Llywodraeth ac felly’n ddibynnol ar gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ond ei fod yn derbyn y sylw.

·         Mynegwyd siomedigaeth mai ond 86 o’r 245 o dai a ganiatawyd ym Mhenrhosgarnedd oedd yn dai fforddiadwy.

·         Nodwyd bod y cynllun yn cyfeirio at yr hyn mae’r adrannau unigol wedi’i gyflawni a mynegwyd dymuniad i weld mwy o bwyslais ar gydweithio rhwng yr adrannau. 

·         Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Arweinydd bod ganddo lwyr ffydd bod ail-fodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid am roi gwell darpariaeth i gyfarch anghenion pobl ifanc y sir, ond y bydd angen cadw golwg ar sut mae’n gweithredu a beth fydd canlyniad y trefniadau newydd.

·         Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd yr Arweinydd na allai warantu y byddai Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy yn agored am byth, ond y mawr obeithiai y byddai’n parhau.  ‘Roedd yn fwy o gyfrifoldeb cenedlaethol nag yn gyfrifoldeb i’r Cyngor hwn yn unig, a phe gallai’r Cyngor gynnig unrhyw gymorth i sicrhau dyfodol yr amgueddfa, byddai’n gwneud hynny.  Holwyd pa gynnydd a wnaed o ran chwilio am arian tuag at sefydlu’r adeilad fel amgueddfa genedlaethol.  Atebodd yr Arweinydd y gallai ddod yn ôl gyda mwy o fanylion ar unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd.

·         Holwyd sut y byddai tynnu arian oddi ar y Mudiad Ffermwyr Ifanc yn gwella cefnogaeth i blant a phobl ifanc yng nghefn gwlad.  Atebodd yr Arweinydd y byddai’r drefn newydd yn targedu mwy o bobl ifanc nag oedd yn cael eu cynnwys yn flaenorol.  Ychwanegodd fod y Cyngor wedi ymestyn eu cynhaliaeth am flwyddyn yn barod ac yn mynd i ymestyn am 9 mis arall a hefyd wedi cynnig cefnogaeth y Gwasanaeth Adfywio i geisio eu cynorthwyo i wynebu’r toriad.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2018/23.

 

Dogfennau ategol: