Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/03/2018 - Y Cyngor (eitem 8)

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Pa gamau mae Cyngor Gwynedd yn eu cymryd i orfodi datblygwyr sy’n berchen tir neu adeiladau yng Ngwynedd i edrych ar ôl eu safleoedd gan eu cadw yn daclus ac yn ddiogel?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae yna rywfaint o offer yn y bocs tŵls gan y Cyngor ar gyfer pethau fel hyn, ond yn amlwg, os ydym ni’n sôn am dir preifat, cyfrifoldeb y perchennog ydyw yn y bôn ond mae yna rywfaint o dŵls penodol.  Yn Neddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 mae yna bwerau gwarchod y cyhoedd os ydi rhywbeth yn creu perygl i iechyd i fedru gwneud rhywbeth amdano fo, i orfodi.  Hefyd mae yna bwerau o dan Adran 215 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Mae yna bwerau gorfodi os ydi rhywle yn flêr ofnadwy ond ‘rwy’n tybio efallai mai’r hyn sydd y tu ôl i hyn yw’r ffaith bod yr aelod wedi bod yn poeni am flerwch ar safle’r Colisiwm ym Mhorthmadog, ac ‘rwy’n meddwl, er bod hwnnw’n dir preifat, bod yna symudiad wedi bod yno a bod pethau wedi eu datrys bellach.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Beth mae’r Cyngor yn gallu wneud am adeiladau, e.e. adeilad yr Hen Felin neu adeilad Capel Seion yn fy ward i lle mae gan bobl leol bryder am ddiogelwch y cyhoedd am fod yr adeiladau yma yn denu plant a phobl ifanc i mewn iddynt a hefyd oes yna rywbeth rhagweithiol y gall y Cyngor ei wneud hefo safle, e.e. Tŷ Moelwyn ym Mhorthmadog i rwystro’r adeilad fynd i’r fath stad yn y lle cyntaf unwaith y bydd y staff Cyllid a Thollau wedi gadael yr adeilad?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“O ran diogelwch, mater yn benodol i’r tirfeddiannwr ydi gwneud yn siŵr bod y safle yn ddiogel.  Gall y Cyngor ddefnyddio disgresiwn y pwerau yma i fynd ar ôl y perchennog, os oes angen gwneud hynny, ond ‘rwy’n meddwl, fel gyda llawer o faterion fel hyn, mai mater ydyw o gysylltu hefo’r adran a hefo minnau i fynd ar ôl pethau fel hyn os ydyn nhw’n codi, ond yn sicr fe wnawn hynny os oes yna broblem.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Be ydy barn yr Aelod Cabinet ar ddyfodol cynghorau cymuned a thref ein Sir?”

 

Ateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Nid wy’n siŵr faint o bwys ydi o beth ydy fy marn i, ac mae gen i farn ers blynyddoedd lawer fel aelod o Gyngor Tref Dolgellau.  Mae’r ateb yna ac yn ddarllenadwy.  Mi roedd sôn ar un pryd bod y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn mynd i roi cyfrifoldeb am ad-drefnu cynghorau cymuned i’r cynghorau sir a phan wnes i glywed hynny, ‘roeddwn yn gwaredu, oherwydd fyddwn i ddim yn dymuno cael y cyfrifoldeb yna ar y Cyngor, ond hwyrach wedyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8


Cyfarfod: 01/03/2018 - Y Cyngor (eitem 8.)

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.