skip to main content

Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Pa gamau mae Cyngor Gwynedd yn eu cymryd i orfodi datblygwyr sy’n berchen tir neu adeiladau yng Ngwynedd i edrych ar ôl eu safleoedd gan eu cadw yn daclus ac yn ddiogel?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae yna rywfaint o offer yn y bocs tŵls gan y Cyngor ar gyfer pethau fel hyn, ond yn amlwg, os ydym ni’n sôn am dir preifat, cyfrifoldeb y perchennog ydyw yn y bôn ond mae yna rywfaint o dŵls penodol.  Yn Neddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 mae yna bwerau gwarchod y cyhoedd os ydi rhywbeth yn creu perygl i iechyd i fedru gwneud rhywbeth amdano fo, i orfodi.  Hefyd mae yna bwerau o dan Adran 215 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Mae yna bwerau gorfodi os ydi rhywle yn flêr ofnadwy ond ‘rwy’n tybio efallai mai’r hyn sydd y tu ôl i hyn yw’r ffaith bod yr aelod wedi bod yn poeni am flerwch ar safle’r Colisiwm ym Mhorthmadog, ac ‘rwy’n meddwl, er bod hwnnw’n dir preifat, bod yna symudiad wedi bod yno a bod pethau wedi eu datrys bellach.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Beth mae’r Cyngor yn gallu wneud am adeiladau, e.e. adeilad yr Hen Felin neu adeilad Capel Seion yn fy ward i lle mae gan bobl leol bryder am ddiogelwch y cyhoedd am fod yr adeiladau yma yn denu plant a phobl ifanc i mewn iddynt a hefyd oes yna rywbeth rhagweithiol y gall y Cyngor ei wneud hefo safle, e.e. Tŷ Moelwyn ym Mhorthmadog i rwystro’r adeilad fynd i’r fath stad yn y lle cyntaf unwaith y bydd y staff Cyllid a Thollau wedi gadael yr adeilad?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“O ran diogelwch, mater yn benodol i’r tirfeddiannwr ydi gwneud yn siŵr bod y safle yn ddiogel.  Gall y Cyngor ddefnyddio disgresiwn y pwerau yma i fynd ar ôl y perchennog, os oes angen gwneud hynny, ond ‘rwy’n meddwl, fel gyda llawer o faterion fel hyn, mai mater ydyw o gysylltu hefo’r adran a hefo minnau i fynd ar ôl pethau fel hyn os ydyn nhw’n codi, ond yn sicr fe wnawn hynny os oes yna broblem.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Be ydy barn yr Aelod Cabinet ar ddyfodol cynghorau cymuned a thref ein Sir?”

 

Ateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Nid wy’n siŵr faint o bwys ydi o beth ydy fy marn i, ac mae gen i farn ers blynyddoedd lawer fel aelod o Gyngor Tref Dolgellau.  Mae’r ateb yna ac yn ddarllenadwy.  Mi roedd sôn ar un pryd bod y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn mynd i roi cyfrifoldeb am ad-drefnu cynghorau cymuned i’r cynghorau sir a phan wnes i glywed hynny, ‘roeddwn yn gwaredu, oherwydd fyddwn i ddim yn dymuno cael y cyfrifoldeb yna ar y Cyngor, ond hwyrach wedyn bod yna ddadl dros wneud hynny.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Ydi o’n amser i ni fel Cyngor Gwynedd ofyn am newid radical yn y ffordd mae cynghorau cymuned a thref yn gweithredu yn ein cymunedau yng Ngwynedd a Chymru?”

 

Ateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Rydw i’n hoff o newidiadau radical, ac rydw i’n cytuno â’r aelod, os oes ad-drefnu llywodraeth leol i fod, mae yna le i ni gychwyn hefo cynghorau tref a chymuned ac mae yna ymdrechion wedi digwydd yn wirfoddol, ond enghreifftiau prin ydyn nhw, ar draws y sir ac ar draws Cymru.  Mae yna lefydd yng Nghymru lle nad oes cyngor cymuned o gwbl ac mae na gwestiwn ynglŷn â’u gwerth.  Pan mae’r agenda rhanbartholi yn mynd yn ei flaen fel y mae, ac nid ydym yn siŵr i ba gyfeiriad (‘rydym ni’n disgwyl clywed rhywbeth gan y Gweinidog newydd) mae yna bryder bod yr atebolrwydd democrataidd yna yn mynd yn bellach a phellach o’r etholwyr.  Gallech ddadlau bod y Cyngor yma yn rhy bell oddi wrth ei etholwyr ond credaf bod rhaid i ni gael cynghorau o faint priodol lle gallant gyflogi a gweithredu.  Pan ‘rydych chi’n rhoi cyfrifoldeb i gyngor, mae’n mynd yn fwy na siop siarad wedyn, mae’n mynd yn fwy gweithredol, ond mae cael yr atebolrwydd yna yn bwysig.   ‘Rwyf wedi cyfeirio at ein safbwynt ni fel cyngor sir.  Credaf fod gennym ni le i weithio ac i ddatblygu syniadau ar yr ardaloedd llesiant sydd gennym lle dylem ni fod yn defnyddio rheini fel fforwm i glywed barn leol a rhannu gwybodaeth yn lleol ond nid wyf yn siŵr – efallai ein bod ni’n cymysgu dau beth yma.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

Pam na chaniateir i aelodau gael rhifau ffôn uniongyrchol rhai swyddogion a’u bod felly’n gorfod cysylltu drwy’r ganolfan alwadau?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

“Byddwch i gyd yn ymwybodol bod y Cyngor wedi datblygu’r Porth Aelodau fel modd i rannu gwybodaeth efo cynghorwyr.  Bu grŵp o gynghorwyr yn gweithio efo swyddogion er mwyn adnabod y wybodaeth bwysicaf i’w chynnwys ar y porth, ac un o’r gofynion a gafodd ei adnabod yr adeg hynny gan yr aelodau oedd yr angen am restr gyfredol o swyddogion fesul maes cyfrifoldeb, gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn uniongyrchol i allu cysylltu efo nhw.  Mae rhestr o swyddogion ar lefel rheolwyr wedi ei adnabod a’i chynnwys ar y Porth ac mae’r wybodaeth yn cael ei diweddaru’n gyson gan adrannau er mwyn sicrhau ei bod yn gyfredol, pan efallai bod swyddogion yn newid.

 

Gall aelodau ddewis cysylltu efo swyddogion drwy ddefnyddio’r ganolfan alwadau os ydynt yn dymuno gwneud hynny, neu trwy e-bost.  Mae modd gweld rhifau ffôn swyddogion hefyd ar gyfeirlyfr yr e-bost ar y Surface.  Fodd bynnag, ‘rwy’n annog yr aelodau i ddefnyddio’r rhestr swyddogion sydd ar y porth aelodau yn y lle cyntaf os oes mater sydd angen sylw ganddynt.  Hefyd, ‘rwy’n ymwybodol bod is-grŵp o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn edrych ar ddatblygu’r Porth ymhellach i’w wneud yn haws i aelodau ei ddefnyddio.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Mike Stevens

 

“Oes modd i ni fel cynghorwyr gael rhifau ffôn pob swyddog yn rhywle ar y Porth fel y gallwn gysylltu â hwy yn uniongyrchol?”

 

Ateb gan y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Rowlands

 

“Mae llawer o swyddogion yn gwneud gwaith maes a ddim ar gael yn eu swyddfeydd ar bob awr o’r dydd a dyna pam weithiau ‘rydym yn cysylltu ar lefel y rheolwyr.  Ond ‘rwy’n derbyn eich pwynt.  Fe edrychwn i mewn i’r mater i weld sut gallwn ddatblygu’r hyn sydd gennym ar y porth yn barod i’w wneud yn haws i aelodau gyrraedd mwy o staff.”