5 Cais Rhif C17/0807/15/LL - Tir ger Ffordd Ty Du, Llanberis , Caernarfon PDF 245 KB
Diwygio amod 1 o ganiatad cynllunio C14/0240/15/MG er
caniatau dyluniad amgen ar gyfer y tai a ganiatawyd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Kevin Morris Jones
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0240/15/MG er caniatáu dyluniad
amgen ar gyfer y tai a ganiatawyd
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y Pwyllgor Cynllunio wedi
ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017. Atgoffwyd y Pwyllgor Cynllunio bod y
datblygiad eisoes wedi dechrau a bod caniatâd cynllunio ar gyfer 11 tŷ
wedi ei sicrhau am byth ac mai diwygio manylion y cynllun yn unig sydd dan ystyriaeth
fel rhan o’r cais hwn. Yn sgil sylwadau
yn y Pwyllgor diwethaf paratowyd cymhariaeth arwynebedd llawr tai gyda
dyluniadau newydd a’r tai blaenorol a chyfeiriwyd at y canlyniadau ym
mharagraff 5.7 o’r adroddiad. Fel y gwelir bod maint y dyluniadau yn eithaf
tebyg er ychydig bach yn llai ar gyfartaledd na’r tai a ganiatawyd eisoes. Ar y
cyfan credir bod y dyluniad yn fwy cyfoes
ac o bosib o ddyluniad mwy pensaernïol na’r gwreiddiol. Trwy dorri ar
lefelau'r to a defnyddio cysgodfannau ceir yn hytrach na modurdai fe fyddant yn
llai swmpus na’r dyluniadau blaenorol gan greu naws fwy agored ar gyfer y stad.
Byddai’r deunyddiau megis llechi, pren a rendr yn gweddu’n briodol i’r safle a
gydag adeiladau eraill o gwmpas yr ardal.
Yn
dilyn ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ystyrir bod y newidiadau
a gynigwyd fel rhan o’r cais yn dderbyniol ac argymhelliad y swyddogion
cynllunio ydoedd caniatau’r cynlluniau
diwygiedig.
(b)
Nododd yr Aelod Lleol (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi ei fod yn y cyfarfod ar 6
Tachwedd 2017 wedi gwneud llawer o sylwadau am yr ymgeisydd a’i fod yn dymuno
tynnu’r sylwadau hynny’n ôl ac ymddiheuro. Nododd mai parcio oedd y broblem yn
Llanberis ac wrth fod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r problemau parcio a hefyd yn
trio ei orau i gael llefydd parcio i drigolion Fron Goch ‘roedd yr Aelod yn
gefnogol i’r cais.
(c)
Cynigwyd
ac eilwyd i ganiatau’r cais.
(ch) Mewn ymateb i ymholiad gan
Aelod ynglyn â’r dyluniadau, nododd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y
dyluniadau ar gyfer yr holl dai ‘run
fath ond gydag ychydig bach o wahaniaeth yn y cysgod-fannau.
(d)
Nododd Aelod ei fod yn
anghytuno yn llwyr a chyfeiriwyd at ymatebion o’r ymgynghoriadau cyhoeddus a oedd
yn nodi nad yw’r dyluniad newydd yn cydweddu hefo chymeriad adeiladau presennol
Llanberis ac o’r herwydd nododd na
fyddai’n cefnogi’r cais.
Penderfynwyd: Caniatáu newid amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0240/15/MG i gyfeirio at y cynlluniau diwygiedig.
Nodyn : Bod yr holl amodau eraill ar
ganiatadau cynllunio C14/0240/15/MG a C11/1103/15/AM yn parhau i fod yn
berthnasol.
5 Cais Rhif C17/0807/15/LL - Tir ger Ty Du Road, Llanberis , Caernarfon PDF 240 KB
Diwygio amod 1 o ganiatad cynllunio C14/0240/15/MG er
caniatau dyluniad amgen ar gyfer y tai a ganiatawyd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Kevin Morris Jones
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Diwygio
amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0240/15/MG er caniatáu dyluniad amgen ar gyfer
y tai a ganiatawyd.
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan bwysleisio mai dyluniad yr 11 tŷ a oedd eisoes wedi eu
caniatáu ynghyd â man newidiadau i’r trefniant o fewn y safle oedd dan
ystyriaeth. Nodwyd bod egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei dderbyn gyda
chaniatâd cynllunio wedi ei roi ac wedi ei sicrhau trwy ddechrau ar y gwaith o
fewn y cyfnod angenrheidiol.
Nodwyd mai bwriad
y cais oedd newid dyluniad y tai i ddyluniad mwy cyfoes trwy rannu toeau’r tai
gan greu dau lethr ar wahanol lefelau a chael gwared â’r modurdai cysylltiol a
oedd yn rhan o’r dyluniad gwreiddiol a chael cysgod-fannau ar gyfer moduron (carports).
Eglurwyd y bwriedir cadw’r tai o fewn yr un lleiniau a gytunwyd yn flaenorol gyda’r
holl dai yn ddeulawr. Fe fyddai gan y tai newydd elfennau sylweddol o wydr yn
yr edrychiadau blaen a chefn gyda'r defnydd o garreg, rendr a chladin pren ar y
waliau allanol.
Roedd rhai mân newidiadau i drefniant mewnol y safle gan gynnwys y trefniant
mynediad o ffordd Fron Goch lle byddai dim ond un fynedfa gerbydol yn
gwasanaethu un o’r tai newydd yn hytrach na’r ddwy fynedfa a gytunwyd yn
flaenorol.
Credir fod y dyluniad newydd a gynigir yn fwy cyfoes ac yn llai swmpus gan
wneud naws fwy agored i’r stad.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio
ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Os byddai preswylwyr Fron Goch yn cael
eu hatal rhag parcio lle gwneir yn bresennol, ni fyddai ganddynt lle parcio;
·
Gobeithio nad oedd y datblygwr wedi
torri unrhyw goed gwarchodedig a holi pwy oedd yn cadw golwg ar y coed;
·
Bod y Cyngor wedi nodi mewn llythyr y
byddent yn cyd-weithio efo trigolion o ran datrysiad parcio. Pryd fyddai hyn yn
digwydd?
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y cais hwn ar gyfer newid
dyluniad yn unig;
·
Roedd dyluniad gwreiddiol y
tai yn safonol a heb roi ystyriaeth i’r lleoliad, diwygiwyd y dyluniad gan
ddefnyddio deunyddiau a oedd yn cyd-fynd efo’r ardal leol;
·
Bod dwysedd y tai wedi eu
lleihau gan dynnu ystafell wely o uwchben y modurdy;
·
Mynediad i un o’r tai wedi ei
newid i fod o fewn y safle yn hytrach na o Fron Goch gan leihau’r nifer o dai
gyda mynediad o Fron Goch;
·
Bod nifer o wrthwynebiadau yn
faterion nad oedd yn berthnasol i’r cais gerbron;
·
Yn gobeithio creu mannau
parcio ychwanegol o fewn safle’r cais ar gyfer trigolion lleol ar ôl gorffen y
datblygiad.
(ch) Gwrthwynebwyd
y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
· Bod y dyluniad ddim yn gweddu ac allan o gymeriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5