Agenda item
- Cyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Dydd Llun, 6ed Tachwedd, 2017 1.00 y.h. (Item 5.7)
- Y cefndir i eitem 5.7
Diwygio amod 1 o ganiatad cynllunio C14/0240/15/MG er
caniatau dyluniad amgen ar gyfer y tai a ganiatawyd
AELOD LLEOL: Cynghorydd Kevin Morris Jones
Cofnod:
Diwygio
amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0240/15/MG er caniatáu dyluniad amgen ar gyfer
y tai a ganiatawyd.
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais, gan bwysleisio mai dyluniad yr 11 tŷ a oedd eisoes wedi eu
caniatáu ynghyd â man newidiadau i’r trefniant o fewn y safle oedd dan
ystyriaeth. Nodwyd bod egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei dderbyn gyda
chaniatâd cynllunio wedi ei roi ac wedi ei sicrhau trwy ddechrau ar y gwaith o
fewn y cyfnod angenrheidiol.
Nodwyd mai bwriad
y cais oedd newid dyluniad y tai i ddyluniad mwy cyfoes trwy rannu toeau’r tai
gan greu dau lethr ar wahanol lefelau a chael gwared â’r modurdai cysylltiol a
oedd yn rhan o’r dyluniad gwreiddiol a chael cysgod-fannau ar gyfer moduron (carports).
Eglurwyd y bwriedir cadw’r tai o fewn yr un lleiniau a gytunwyd yn flaenorol gyda’r
holl dai yn ddeulawr. Fe fyddai gan y tai newydd elfennau sylweddol o wydr yn
yr edrychiadau blaen a chefn gyda'r defnydd o garreg, rendr a chladin pren ar y
waliau allanol.
Roedd rhai mân newidiadau i drefniant mewnol y safle gan gynnwys y trefniant
mynediad o ffordd Fron Goch lle byddai dim ond un fynedfa gerbydol yn
gwasanaethu un o’r tai newydd yn hytrach na’r ddwy fynedfa a gytunwyd yn
flaenorol.
Credir fod y dyluniad newydd a gynigir yn fwy cyfoes ac yn llai swmpus gan
wneud naws fwy agored i’r stad.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio
ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Os byddai preswylwyr Fron Goch yn cael
eu hatal rhag parcio lle gwneir yn bresennol, ni fyddai ganddynt lle parcio;
·
Gobeithio nad oedd y datblygwr wedi
torri unrhyw goed gwarchodedig a holi pwy oedd yn cadw golwg ar y coed;
·
Bod y Cyngor wedi nodi mewn llythyr y
byddent yn cyd-weithio efo trigolion o ran datrysiad parcio. Pryd fyddai hyn yn
digwydd?
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y cais hwn ar gyfer newid
dyluniad yn unig;
·
Roedd dyluniad gwreiddiol y
tai yn safonol a heb roi ystyriaeth i’r lleoliad, diwygiwyd y dyluniad gan
ddefnyddio deunyddiau a oedd yn cyd-fynd efo’r ardal leol;
·
Bod dwysedd y tai wedi eu
lleihau gan dynnu ystafell wely o uwchben y modurdy;
·
Mynediad i un o’r tai wedi ei
newid i fod o fewn y safle yn hytrach na o Fron Goch gan leihau’r nifer o dai
gyda mynediad o Fron Goch;
·
Bod nifer o wrthwynebiadau yn
faterion nad oedd yn berthnasol i’r cais gerbron;
·
Yn gobeithio creu mannau
parcio ychwanegol o fewn safle’r cais ar gyfer trigolion lleol ar ôl gorffen y
datblygiad.
(ch) Gwrthwynebwyd
y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y dyluniad ddim yn gweddu
ac allan o gymeriad y pentref;
·
Syndod bod gwaith ar y safle
wedi cychwyn cyn derbyn penderfyniad ar y cais;
·
Nad oedd y datblygwr yn rhoi
ystyriaeth i’r amgylchedd a’i fod yn ymddangos nad oedd y Cyngor wedi trafod
torri amodau gan y cwmni;
·
Bod newid i’r dyluniad i
leihau’r gost i’r datblygwr;
·
Bod pridd yn ddiweddar wedi
mynd i’r afon ac i’r llyn gan achosi llygredd. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru
wedi rhoi mesuriadau grym;
·
Bod risg llifogydd i strydoedd
cyfagos yn deillio o’r bwriad;
·
Ei fod yn tybio y byddai’r tai
yn rhy ddrud i bobl leol, felly tebygolrwydd y byddent yn dai haf. Roedd angen
am dai i bobl leol yn Llanberis.
(d) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod caniatâd cynllunio
mewn lle ac mai’r caniatâd yna a oedd yn cael ei weithredu ar hyn o bryd.
Pwysleisiodd mai cais o ran newid dyluniad yn ogystal a newid mynedfa i warchod
gwreiddiau coed a oedd gerbron. Nododd bod swyddogion yn monitro gweithgareddau
ar y safle ond nad oedd y materion hyn yn berthnasol i’r cais yma.
Cynigiwyd
ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle.
Gofynnodd
aelod i’r swyddogion gynnwys gwybodaeth gymharol o ran y cais gwreiddiol yn yr
adroddiad dilynol i’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: