5 Cais Rhif C16/0507/20/LL - Swyddfeydd Menai Marina, Hen Gei Llechi, y Felinheli PDF 289 KB
Codi estyniad deulawr i'r swyddfa presennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd a codi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio presennol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth W Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi estyniad deulawr i'r swyddfa bresennol er mwyn darparu toiledau,
cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd â chodi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r
maes parcio presennol.
(a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017 er mwyn cynnal ymweliad
safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017.
Cyfeiriodd at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd mewn ymateb
i bryderon y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys:
·
Bod y cyfleusterau presennol
(cawodydd, toiledau, swyddfa) mewn lleoliad gwael yn rhy bell i fwrdd o brif
hwb y gweithgareddau wrth giatiau’r loc ac yn rhy bell o’r basn Menai allanol.
Byddai’r bwriad yn gwella gwasanaeth y busnes yn sylweddol.
·
Ar hyn o bryd roedd y cychod
yn cael eu codi o’r dŵr gyda chraen ar rent ac yn cael eu storio ar y maes
parcio dros y gaeaf. Roedd y cwmni yn teimlo nad oedd hyn yn sefyllfa
ddelfrydol ac yn tynnu oddi wrth fwynderau gweledol yr ardal ac yn lleihau
parcio i gwsmeriaid. Byddai’r datblygiad yn sicrhau maes parcio gwell a
byddai’r cychod ond yn cael eu storio a chodi o’r dŵr yn y rhan weithredol
o’r doc wrth weithdy presennol yr iard gychod.
·
Prif fwriad y datblygiad oedd
gwella cyfleusterau’r marina a hefyd gwella a lleihau effaith unrhyw
weithgareddau’r marina ar fwynderau preswyl yr ardal.
Nodwyd bod y bwriad yn
dderbyniol o ran egwyddor a bod edrychiad y datblygiad yn dderbyniol yn ei
gyfanrwydd fel un datblygiad. Ystyriwyd bod yr effeithiau a oedd yn
gysylltiedig â’r bwriad yn dderbyniol yn agos i dai preswyl, yn enwedig wrth
ystyried defnydd presennol y tir.
Nodwyd nad oedd gan yr
ymgeisydd unrhyw wrthwynebiad i osod amod yn atal y maes parcio rhag cael ei
ddefnyddio ar gyfer storio cychod. Ystyriwyd y gall gosod amod o’r fath gynnig
gwelliant i’r ardal gan nad oedd rheolaeth o’r maes parcio yn bresennol a
dylai’r amod leihau'r angen i berchnogion cychod barcio ar ochr y lôn trwy
gadw’r maes parcio ar gyfer ceir yn unig.
Roedd y datblygiad yn
dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a
roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y
prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn):-
·
Effaith ar barcio a
thrafnidiaeth, problemau yn yr ardal yma eisoes a byddai craen yn cael hi’n
anodd mynd a dod;
·
Bod angen cysidro’r 87 tŷ
a effeithir gan y datblygiad;
·
Bod adnoddau cysylltiol ar y
safle eisoes ond bod y cyn-berchennog wedi eu llesu. Derbyn y byddai’r adnoddau
cysylltiol newydd yn hwylusach ond y byddai’n ychwanegu at y problemau parcio a
thrafnidiaeth;
·
Bod y cais yn or-ddatblygiad
o’r safle.
(c) Cynigiwyd a eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Nododd
aelod y roedd yn pryderu o ran yr effaith ar y tai cyfagos ond yn dilyn ymweld
â’r safle o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol.
Nododd aelod y byddai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
5 Cais Rhif C16/0507/20/LL - Swyddfeydd Menai Marina, Hen Gei Llechi, y Felinheli PDF 284 KB
Codi estyniad deulawr i'r swyddfa presennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd a codi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio presennol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth W Griffith
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Codi
estyniad deulawr i'r swyddfa bresennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy
o le swyddfa ynghyd a chodi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio
presennol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y datganiad dylunio a
mynediad yn esbonio byddai’r adeilad yn hwyluso gwyliadwriaeth naturiol mewn
lleoliad canolig rhwng y porthladd i’r de orllewin a’r system porthladd i’r
dwyrain. Hefyd bwriedir gweithredu giatiau’r porthladd o’r adeilad. Byddai’r
adeilad hefyd yn darparu cyfleusterau newydd yn cynnwys toiledau a chawodydd i
ddefnyddwyr y marina mewn lleoliad canolig.
Tynnwyd sylw bod newid perchnogaeth ers cyflwyno’r cais.
Derbyniwyd llythyr gan y perchennog newydd yn datgan ei fwriad i barhau gyda’r
cais.
Nodwyd bod safle'r cais yn gyfan gwbl y tu mewn i ffin
datblygu Felinheli. Ychwanegwyd bod safle’r cais hefyd yn gwneud defnydd o dir
a ddatblygwyd o’r blaen a bod hyn yn cael ei annog trwy Bolisi Cynllunio Cymru
a’r CDLl.
Derbyniwyd nifer o sylwadau yn gwrthwynebu ar sail fod yr
adeilad yn ddatblygiad dominyddol, a oedd yn rhy fawr a byddai’n cael effaith
negyddol ar gymeriad y marina a oedd yn cynnwys adeiladau rhestredig. Ar y llaw
arall, derbyniwyd sylwadau o blaid y datblygiad yn cydnabod byddai’r bwriad yn
cynnig gwelliant gweledol i’r ardal trwy gael gwared ar y cabanau symudol ac y
byddai’r ardal yn llawer mwy deniadol.
Nodwyd wrth asesu lleoliad, uchder a swmp adeiladau cyfagos
a oedd yn cynnwys tai tri llawr, bloc o fflatiau a gwesty sylweddol yng
nghyd-destun lefelau naturiol y dirwedd, ni ystyriwyd byddai’r datblygiad yn
strwythur dominyddol nac yn rhy fawr i’r safle. Ystyriwyd hefyd fod y dyluniad
a’r deunyddiau yn dderbyniol i’r lleoliad. Ni ystyriwyd ychwaith y byddai’r
datblygiad yn niweidiol i osodiad yr adeiladau rhestredig cyfagos. Ystyriwyd y
byddai’n rhesymol ac yn angenrheidiol i osod amod i sicrhau nad oedd yr unedau
manwerthu yn cael eu codi heb y swyddfeydd er mwyn sicrhau edrychiad boddhaol
i’r datblygiad a gwarchod mwynderau gweledol yr ardal.
Ystyriwyd bod yr effeithiau yn
gysylltiedig gyda swyddfeydd, cyfleusterau mwynderol ac unedau manwerthu bychan yn gallu fod
yn dderbyniol yn agos i
dai preswyl,
yn enwedig wrth roi ystyriaeth
i ddefnydd presennol y tir. Er mwyn gwarchod
mwynderau preswyl y tai cyfagos, ystyriwyd
ei fod yn
rhesymol i gyfyngu oriau agor
y siopau rhwng 8yb a 8yh
bob dydd a hefyd rhwystro unrhyw ddanfoniadau tu allan i’r oriau
yma hefyd.
Ategwyd y cais gan asesiad
canlyniad llifogydd ac roedd Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi cadarnhau fod canlyniadau
posib yn gallu cael eu
rheoli'n ddigonol ar y safle hwn
yn dibynnu ar osod amodau
yn ymwneud â lefel llawr gorffenedig
yr unedau manwerthu, ymgorffori mesurau atal difrod
llifogydd i’r adeilad presennol a’i estyniad a chytuno ar a gweithredu
cynllun gweithredu llifogydd.
Nodwyd bod y cynlluniau yn dangos bwriad i ehangu’r maes parcio er mwyn gwasanaethu’r datblygiad. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad yn seiliedig ar osod amod yn gwahardd defnyddio'r maes ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5