Codi estyniad deulawr i'r swyddfa presennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd a codi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio presennol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth W Griffith
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Codi
estyniad deulawr i'r swyddfa bresennol er mwyn darparu toiledau, cawodydd a mwy
o le swyddfa ynghyd a chodi 3 uned manwerthu (A1) ac ehangu'r maes parcio
presennol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y datganiad dylunio a
mynediad yn esbonio byddai’r adeilad yn hwyluso gwyliadwriaeth naturiol mewn
lleoliad canolig rhwng y porthladd i’r de orllewin a’r system porthladd i’r
dwyrain. Hefyd bwriedir gweithredu giatiau’r porthladd o’r adeilad. Byddai’r
adeilad hefyd yn darparu cyfleusterau newydd yn cynnwys toiledau a chawodydd i
ddefnyddwyr y marina mewn lleoliad canolig.
Tynnwyd sylw bod newid perchnogaeth ers cyflwyno’r cais.
Derbyniwyd llythyr gan y perchennog newydd yn datgan ei fwriad i barhau gyda’r
cais.
Nodwyd bod safle'r cais yn gyfan gwbl y tu mewn i ffin
datblygu Felinheli. Ychwanegwyd bod safle’r cais hefyd yn gwneud defnydd o dir
a ddatblygwyd o’r blaen a bod hyn yn cael ei annog trwy Bolisi Cynllunio Cymru
a’r CDLl.
Derbyniwyd nifer o sylwadau yn gwrthwynebu ar sail fod yr
adeilad yn ddatblygiad dominyddol, a oedd yn rhy fawr a byddai’n cael effaith
negyddol ar gymeriad y marina a oedd yn cynnwys adeiladau rhestredig. Ar y llaw
arall, derbyniwyd sylwadau o blaid y datblygiad yn cydnabod byddai’r bwriad yn
cynnig gwelliant gweledol i’r ardal trwy gael gwared ar y cabanau symudol ac y
byddai’r ardal yn llawer mwy deniadol.
Nodwyd wrth asesu lleoliad, uchder a swmp adeiladau cyfagos
a oedd yn cynnwys tai tri llawr, bloc o fflatiau a gwesty sylweddol yng
nghyd-destun lefelau naturiol y dirwedd, ni ystyriwyd byddai’r datblygiad yn
strwythur dominyddol nac yn rhy fawr i’r safle. Ystyriwyd hefyd fod y dyluniad
a’r deunyddiau yn dderbyniol i’r lleoliad. Ni ystyriwyd ychwaith y byddai’r
datblygiad yn niweidiol i osodiad yr adeiladau rhestredig cyfagos. Ystyriwyd y
byddai’n rhesymol ac yn angenrheidiol i osod amod i sicrhau nad oedd yr unedau
manwerthu yn cael eu codi heb y swyddfeydd er mwyn sicrhau edrychiad boddhaol
i’r datblygiad a gwarchod mwynderau gweledol yr ardal.
Ystyriwyd bod yr effeithiau yn
gysylltiedig gyda swyddfeydd, cyfleusterau mwynderol ac unedau manwerthu bychan yn gallu fod
yn dderbyniol yn agos i
dai preswyl,
yn enwedig wrth roi ystyriaeth
i ddefnydd presennol y tir. Er mwyn gwarchod
mwynderau preswyl y tai cyfagos, ystyriwyd
ei fod yn
rhesymol i gyfyngu oriau agor
y siopau rhwng 8yb a 8yh
bob dydd a hefyd rhwystro unrhyw ddanfoniadau tu allan i’r oriau
yma hefyd.
Ategwyd y cais gan asesiad
canlyniad llifogydd ac roedd Cyfoeth Naturiol
Cymru wedi cadarnhau fod canlyniadau
posib yn gallu cael eu
rheoli'n ddigonol ar y safle hwn
yn dibynnu ar osod amodau
yn ymwneud â lefel llawr gorffenedig
yr unedau manwerthu, ymgorffori mesurau atal difrod
llifogydd i’r adeilad presennol a’i estyniad a chytuno ar a gweithredu
cynllun gweithredu llifogydd.
Nodwyd bod y cynlluniau yn dangos
bwriad i ehangu’r maes
parcio er mwyn gwasanaethu’r datblygiad. Nid oedd gan yr
Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad yn seiliedig
ar osod amod
yn gwahardd defnyddio'r maes
parcio fel storfa gychod. Derbyniwyd nifer fawr o wrthwynebiadau ar sail materion a phroblemau parcio a oedd eisoes
yn bodoli yn yr ardal
ac effaith y datblygiad arfaethedig ar hynny.
Yn dilyn trafodaethau pellach derbyniwyd sylwadau gan y perchennog newydd, yn datgan na fyddai unrhyw wrthwynebiad i osod amod
yn atal y maes parcio rhag
cael ei ddefnyddio
ar gyfer storio cychod. Ystyriwyd hefyd ei fod yn
briodol i sicrhau fod y maes parcio ar gael i
gwsmeriaid y siopau newydd ynghyd â defnyddwyr y marina trwy amod. Ystyriwyd y gall gosod amod o’r
fath gynnig gwelliant i’r ardal
gan nad
oedd rheolaeth o’r maes parcio
yn bresennol a dylai’r amod leihau'r
angen i berchnogion
cychod barcio ar ochr y lôn
trwy gadw’r maes parcio ar
gyfer ceir yn unig.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor o fwyafrif o drigolion Hen Gei Llechi;
·
Byddai unrhyw ddatblygiad newydd yn golygu gor-ddatblygiad
o’r safle;
·
Bod yr aelod lleol a’r
Cyngor Cymuned yn gefnogol i’w
gwrthwynebiad;
·
Nid oedd yr adroddiad yn
rhoi ystyriaeth i’r cais cynllunio
a ganiatawyd yn 2010, er nad oedd
wedi ei ddatblygu
mi fyddai yn y dyfodol agos;
·
Byddai’r datblygiad yn effeithio
ar gymeriad yr ardal;
·
Bod problemau parcio eisoes yn
yr ardal.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod yr adnoddau cysylltiol ar
y safle eisoes ond bod y cyn-berchennog wedi eu llesu;
·
Effaith ar barcio a
thrafnidiaeth, problemau yn yr ardal yma eisoes;
·
Bod camarwain o ran y maes
parcio, defnyddir i gadw cychod. Lle fyddai’r cychod yn cael eu cadw pe gosodir
amod yn atal eu cadw yno?
·
Bod adeiladau mawr yn cymryd
drosodd yr ardal;
·
Bod angen cysidro’r 87 tŷ
a effeithir gan y datblygiad;
·
Gofyn i’r Pwyllgor ystyried
gwrthod y cais.
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nododd y Rheolwr Cynllunio:
·
Nid oedd y Cyngor Cymuned
wedi gwrthwynebu ond eu bod wedi cynnig sylwadau fel y nodwyd yn yr adroddiad;
·
Bod newid perchnogaeth
wedi bod ac nid oedd yr adnoddau cysylltiol gwreiddiol ar gael i ddefnyddwyr
felly ni ellir rhoi ystyriaeth iddynt. Roedd yr adnoddau cysylltiol bwriedig wedi eu lleoli mewn lle amlwg a gwell ar gyfer
defnyddwyr;
·
Ystyriwyd nad oedd y
datblygiad yn or-ddatblygiad o’r safle;
·
Bod yr amod yn atal y
maes parcio rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer storio cychod yn glir. Pe byddai
angen symud cwch o’r dŵr allan ar graen roedd modd cadw’r maes parcio’n
glir ar gyfer y cyfnod perthnasol. Gellir gofyn i’r ymgeisydd am fwy o
wybodaeth pe dymunir.
Cynigwyd i wrthod y cais
yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd ei fod yn
or-ddatblygiad o’r safle, byddai’r bwriad yn ychwanegu
at y problemau parcio a thrafnidiaeth bresennol, effaith ar adeiladau
rhestredig ac effaith ar fwynderau trigolion
lleol. Eiliwyd y cynnig.
Nododd
yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio mai rôl cynllunwyr
oedd asesu ceisiadau a’r holl
wybodaeth a ddaw i law a chyflwyno argymhelliad cadarn. Nododd y rhoddwyd ystyriaeth i sylwadau
lleol. Awgrymodd y dylid ystyried cynnal ymweliad safle gan mai’r
prif bryder oedd maint y datblygiad.
Nododd y byddai’n hynod o anodd cyfiawnhau
gwrthod ar sail materion parcio a thrafnidiaeth o ystyried sylwadau’r Uned Drafnidiaeth. O safbwynt materion dyluniad, maint y datblygiad, yr effaith weledol
ac effaith ar adeiladau rhestredig gerllaw, dylid efallai eu hystyried
ar y safle cyn dod i benderfyniad. Nodwyd y gellir yn y cyfamser gofyn
i’r ymgeisydd gadarnhau manylion ymarferol o ran symud y cychod.
Cynigwyd
gwelliant i gynnal ymweliad safle, gofyn i’r
ymgeisydd am wybodaeth bellach o ran y sefyllfa gyda’r adnoddau cysylltiol presennol yn ogystal â chadarnhad
am ddefnydd y maes
parcio a sut y bwriedir symud y cychod o’r doc i’r tir yn
y dyfodol. Eiliwyd y gwelliant.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle, gofyn i’r ymgeisydd am wybodaeth bellach o ran y sefyllfa gyda’r adnoddau cysylltiol presennol yn ogystal â chadarnhad am ddefnydd y maes parcio a sut y bwriedir symud y cychod o’r doc i’r tir yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: