5 Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli PDF 286 KB
Adeiladu tŷ fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Adeiladu
tŷ fforddiadwy.
(a)
Adroddodd y Rheolwr Cynllunio bod yr Adran wedi
derbyn cynlluniau diwygiedig yn ymwneud ag edrychiad a dyluniad y tŷ
arfaethedig uchod ac o ganlyniad felly gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio
ymdrin â’r cais er mwyn cynnal ail-asesiad.
PENDERFYNWYD gohirio’r
cais.
5 Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli PDF 276 KB
Adeiladu tŷ
fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Angela Russell
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Adeiladu
tŷ fforddiadwy.
Ar
gais y swyddogion gohiriwyd y penderfyniad oherwydd bod llythyr wedi dod i law
yn codi amheuaeth dros fforddiadwyaeth y tŷ bwriededig oherwydd ei
leoliad. Amlygwyd bod angen
gwell dealltwriaeth am werth marchnad agored y tŷ, beth sydd
ar werth yn lleol ac os
oedd cyfiawnhad am eithriad gwledig.
PENDERFYNWYD gohirio y cais.
5 Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli PDF 270 KB
Adeiladu tŷ fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Adeiladu tŷ fforddiadwy.
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod mapiau cynigion CDLl ar gyfer
pentref Llanbedrog yn dangos bod y safle yn gorwedd
y tu allan
i ffin datblygu'r
pentref ac ystyrir bod y bwriad cyfystyr a chodi tŷ newydd
yng nghefn gwlad. Er gwaethaf
dadleuon yr ymgeisydd nid oedd
swyddogion wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod y safle yn ffurfio estyniad
rhesymegol i ffin datblygu'r pentref.
Nodwyd
y cyflwynwyd manylion a thystiolaeth i ddangos fod yr
ymgeisydd mewn angen tŷ fforddiadwy
ac yn cadarnhau bodlonrwydd i dderbyn
rhwymedigaeth drwy gytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cyfyngu
daliadaeth a phris y tŷ pe’i gwerthid
yn y dyfodol er mwyn sicrhau
ei fod yn
parhau yn dŷ fforddiadwy.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cyflwyno cynlluniau diwygiedig a oedd yn lleihau arwynebedd
llawr y tŷ i 100m2.
Nodwyd
ei fod yn
debygol na
fyddai codi tŷ ar y safle
yn creu datblygiad
a fyddai yn cael effaith niweidiol
sylweddol ar y tirlun ehangach. Eglurwyd bod y safle yn bresennol yn
rhan o gae amaethyddol mwy a oedd yn ymestyn
at yr arfordir gerllaw ac yn cynnig
preifatrwydd a llonyddwch i ddeiliaid y ddau
dŷ presennol
gerllaw.
Roedd
yn ymddangos bod y llain bwriedig ynghyd a’r tŷ
bwriedig wedi ei wasgu cyn
agosed i’r ffin datblygu a phosibl er ceisio
cyfarfod gofynion polisi gan greu
safle cyfyng a datblygiad annerbyniol ac ystyrir na
fyddai’n creu estyniad rhesymegol i’r anheddle. Teimlir
felly y byddai caniatáu’r cais yn achosi
elfen o aflonyddwch ar y cymydog oherwydd
gweithgareddau defnydd preswyl eiddo newydd
a mynd a dŵad i mewn ac allan o’r llain felly roedd y bwriad yn groes
i bolisi PCYFF 2 a PCYFF 3 o’r CDLl.
Nodwyd
bod y cynllun yn dangos y bwriedir creu mynedfa gerbydol
i’r gogledd ar hyd terfyn
y safle er mwyn cysylltu gyda
ffordd mynediad preifat o fewn ystâd o 12 o Dai Fforddiadwy cyfagos. Ni ystyrir y byddai defnyddio ffordd yr ystâd
fel mynediad i wasanaethu un
tŷ ychwanegol yn amharu ar
ddiogelwch ffyrdd.
Argymhellwyd
y dylid gwrthod y cais ar sail:
·
Bod y bwriad yn groes i
PCYFF 1 o’r CDLl a oedd yn ymwneud
â bod y safle yn ffurfio estyniad rhesymegol i ffin
datblygu'r pentref;
·
Byddai caniatáu’r cais yn achosi
aflonyddwch annerbyniol gan gael
effaith niweidiol ar fwynderau trigolion
cyfagos.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei bod yn cytuno efo sylwadau’r
swyddogion a’u bod wedi cyflwyno adroddiad
i’r Gwasanaeth Cynllunio a oedd yn dod i’r
un darganfyddiadau a’r swyddogion;
·
Nad oedd tystiolaeth o ran yr angen am dŷ fforddiadwy;
·
Cwestiynu a fyddai’r tŷ yn fforddiadwy oherwydd ei faint, lleoliad a’i ddyluniad;
·
Cwestiynu prisiad o £250,000 o’r
tŷ wedi ei gwblhau.
(c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5