Adeiladu tŷ fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell
Cofnod:
Adeiladu tŷ fforddiadwy.
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi bod mapiau cynigion CDLl ar gyfer
pentref Llanbedrog yn dangos bod y safle yn gorwedd
y tu allan
i ffin datblygu'r
pentref ac ystyrir bod y bwriad cyfystyr a chodi tŷ newydd
yng nghefn gwlad. Er gwaethaf
dadleuon yr ymgeisydd nid oedd
swyddogion wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod y safle yn ffurfio estyniad
rhesymegol i ffin datblygu'r pentref.
Nodwyd
y cyflwynwyd manylion a thystiolaeth i ddangos fod yr
ymgeisydd mewn angen tŷ fforddiadwy
ac yn cadarnhau bodlonrwydd i dderbyn
rhwymedigaeth drwy gytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cyfyngu
daliadaeth a phris y tŷ pe’i gwerthid
yn y dyfodol er mwyn sicrhau
ei fod yn
parhau yn dŷ fforddiadwy.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a nodwyd bod yr ymgeisydd wedi
cyflwyno cynlluniau diwygiedig a oedd yn lleihau arwynebedd
llawr y tŷ i 100m2.
Nodwyd
ei fod yn
debygol na
fyddai codi tŷ ar y safle
yn creu datblygiad
a fyddai yn cael effaith niweidiol
sylweddol ar y tirlun ehangach. Eglurwyd bod y safle yn bresennol yn
rhan o gae amaethyddol mwy a oedd yn ymestyn
at yr arfordir gerllaw ac yn cynnig
preifatrwydd a llonyddwch i ddeiliaid y ddau
dŷ presennol
gerllaw.
Roedd
yn ymddangos bod y llain bwriedig ynghyd a’r tŷ
bwriedig wedi ei wasgu cyn
agosed i’r ffin datblygu a phosibl er ceisio
cyfarfod gofynion polisi gan greu
safle cyfyng a datblygiad annerbyniol ac ystyrir na
fyddai’n creu estyniad rhesymegol i’r anheddle. Teimlir
felly y byddai caniatáu’r cais yn achosi
elfen o aflonyddwch ar y cymydog oherwydd
gweithgareddau defnydd preswyl eiddo newydd
a mynd a dŵad i mewn ac allan o’r llain felly roedd y bwriad yn groes
i bolisi PCYFF 2 a PCYFF 3 o’r CDLl.
Nodwyd
bod y cynllun yn dangos y bwriedir creu mynedfa gerbydol
i’r gogledd ar hyd terfyn
y safle er mwyn cysylltu gyda
ffordd mynediad preifat o fewn ystâd o 12 o Dai Fforddiadwy cyfagos. Ni ystyrir y byddai defnyddio ffordd yr ystâd
fel mynediad i wasanaethu un
tŷ ychwanegol yn amharu ar
ddiogelwch ffyrdd.
Argymhellwyd
y dylid gwrthod y cais ar sail:
·
Bod y bwriad yn groes i
PCYFF 1 o’r CDLl a oedd yn ymwneud
â bod y safle yn ffurfio estyniad rhesymegol i ffin
datblygu'r pentref;
·
Byddai caniatáu’r cais yn achosi
aflonyddwch annerbyniol gan gael
effaith niweidiol ar fwynderau trigolion
cyfagos.
(b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei bod yn cytuno efo sylwadau’r
swyddogion a’u bod wedi cyflwyno adroddiad
i’r Gwasanaeth Cynllunio a oedd yn dod i’r
un darganfyddiadau a’r swyddogion;
·
Nad oedd tystiolaeth o ran yr angen am dŷ fforddiadwy;
·
Cwestiynu a fyddai’r tŷ yn fforddiadwy oherwydd ei faint, lleoliad a’i ddyluniad;
·
Cwestiynu prisiad o £250,000 o’r
tŷ wedi ei gwblhau.
(c) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei bod wedi cyflwyno gwybodaeth i’r Gwasanaeth Cynllunio yn ymateb
i’r adroddiad gerbron;
·
Ei bod yn dychwelyd i’r pentref
er mwyn i’w
phlentyn dderbyn addysg Gymraeg a’i fagu mewn
cymdeithas Gymreig ger ei deulu;
·
Ei fod yn anodd cael
tŷ fforddiadwy oherwydd prisiau tai yn lleol gyda
nifer uchel o dai haf yn
y pentref;
·
Bod Cyngor Cymuned Llanbedrog yn gefnogol i’r
bwriad a ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan drigolion ystâd Cysgod y Cwmwd;
·
Ei bod wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig a oedd yn lleihau
maint y tŷ;
·
Na fyddai
llawer mwy o aflonyddwch o ganlyniad i’r datblygiad;
·
Byddai caniatáu’r cais yn helpu
teulu i ddod
yn nôl i’w
cynefin.
(ch)
Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod
y cais.
Nododd aelod ei fod
mewn egwyddor eisiau cefnogi’r cais ond ymddangosir
wrth ystyried cynnwys yr adroddiad
na fyddai’r
tŷ yn gymwys fel tŷ
fforddiadwy. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu bod yr ymgeisydd wedi
cyflwyno cynlluniau diwygiedig a’u bod yn cydymffurfio â’r gofynion o ran maint tŷ fforddiadwy.
Awgrymodd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth Cynllunio oherwydd bod materion yn codi o ran lleoliad
a pherthynas y tŷ efo’r tai wrth
ymyl a’r effaith ar fwynderau
preswyl y dylid ystyried cynnal ymweliad safle.
Cynigwyd gwelliant i ohirio’r
cais er mwyn
cynnal ymweliad safle a derbyn gwybodaeth o ran y ffin datblygu. Eiliwyd y gwelliant.
Nododd aelod bod maint y tŷ wedi gostwng
i gydymffurfio â’r gofynion o ran maint tŷ fforddiadwy
a’i fod o blaid caniatáu’r cais.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn cynnal ymweliad safle a derbyn gwybodaeth o ran y ffin datblygu.
Dogfennau ategol: