Agenda item

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd mai efo calon drom y gwneir y penderfyniadau anodd o ran toriadau ond mewn adeg o doriadau cenedlaethol, roedd rhaid i’r Cyngor wneud y penderfyniadau anodd yma. Diolchodd am waith trylwyr y cynghorwyr a chyfeiriodd at frwdfrydedd trigolion Gwynedd yn ystod ymgynghoriad Her Gwynedd a’u gwaith lobio dros yr wythnosau a misoedd diwethaf a oedd wedi bod yn hanfodol i allu dod i gasgliad ar y toriadau.

 

Cyfeiriodd at ddeiseb a dderbyniwyd cyn y cyfarfod. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Economi ei bod wedi derbyn deiseb yng nghyswllt y celfyddydau ‘Peidiwch â thorri’r celfyddydau yng Ngwynedd’ gyda 1,225 o enwau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn parthed costau uwchraddio drysau mynediad diogelwch i swyddfeydd y Cyngor, nododd y Pennaeth Cyllid bod bid am £60,000 wedi ei gyflwyno gan yr Adran Rheoleiddio er mwyn gwella diogelwch trefniadau mynediad i swyddfeydd o ganlyniad i ddigwyddiadau. Nodwyd yr ariennir y gwaith yn hafal gan yr Adran Rheoleiddio a’r arian bid.

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet Adnoddau argymhellion y Cabinet ar gyllideb 2016/17 a’r Dreth Gyngor. Pwysleisiodd bod rhaid i’r Cyngor osod cyllideb gytbwys a hyfyw. Tywysodd yr aelodau drwy’r adroddiad gan nodi bod y strategaeth yn ceisio gwarchod y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor i bobl Gwynedd a chadw’r cynnydd yn y Dreth Cyngor i’r lleiafswm. Eiliwyd y cynnig.

 

          Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau o’r nodyn a ddosbarthwyd ganddo yn manylu ar drefn ymdrin â’r mater hwn. Gwahoddwyd yr aelodau i ddatgan unrhyw welliannau i argymhelliad y Cabinet gan gyfeirio at rif y cynllun dan sylw a chan gofio fod yn rhaid i unrhyw welliant nodi sut y byddai’n sicrhau cyllideb hafal. 

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed y drefn o sefydlu cyllideb a gosod Treth Cyngor, nododd y Swyddog Monitro yn unol â’r drefn statudol bod y Cabinet yn argymell cyllideb a Threth Cyngor i’r Cyngor Llawn.

 

          Nododd aelod bod yr Aelodau Cabinet wedi derbyn mwy o wybodaeth na’r aelodau eraill i ddod i benderfyniad. Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr bod y Cabinet wedi derbyn gwybodaeth gynhwysfawrer mwyn iddynt fedru llunio rhestr o doriadau posib cyn rhyddhau’r rhestr i ymgynghori gyda’r cyhoedd. Derbyniodd mai crynodeb yn unig a roddwyd i’r aelodau pan ymgynghorwyd a hwynt yn yr haf y llynedd er mwyn ceisio peidio boddi aelodau a tharo balans priodol o ran y wybodaeth oedd ei angen. Nododd bod y wybodaeth ychwanegol ar gael i’r aelodau eraill pe dymunir.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Gwerthfawrogiad o waith y swyddogion a’r cyhoedd fel rhan o ymgynghoriad Her Gwynedd.

·         O ystyried bod y Cynllun Strategol yn nodi bod oddeutu 6.9 miliwn o ymwelwyr wedi ymweld â Gwynedd yn 2014 gan greu £975 miliwn mewn refeniw, a oedd ystyriaeth wedi ei roi i ail leoli'r canolfannau croeso?

·         Bod Gweithgor Craffu wedi argymell codi ffi am ddefnydd o doiledau’r Sir, ystyried un ai eu trosglwyddo i eraill neu agor rhai yn dymhorol ond nad oedd hyn wedi ei weithredu.

·         Bod Amgueddfa Lloyd George yn adnodd pwysig o ran addysg a thwristiaeth gyda deisebau ar-lein a galwadau gan Aelodau Cynulliad i gadw’r adnodd o bwysigrwydd cenedlaethol. A oedd ystyriaeth wedi ei roi i gysylltu â Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ei fabwysiadu fel rhan o’r Amgueddfa Genedlaethol?

·         Dylid tynnu 2 neu 3 swydd rheolwr llinell oddi ar strwythur staffio’r Cyngor yn hytrach na thorri canolfannau croeso a oedd yn holl bwysig i dwristiaeth. Os penderfynir cau’r canolfannau croeso dylid cadw’r ganolfan a leolir yn Neuadd Dwyfor.

·         Dim ond oddeutu 2% o bobl Gwynedd oedd wedi cymryd rhan yn ymgynghoriad Her Gwynedd.

·         Pryder o ran trefn y cyfarfod.

·         Bod Papur Gwyn Iechyd Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru yn argymell bod y Cyngor yn darparu nifer digonol o doiledau cyhoeddus felly pam fod y Cyngor am gau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y Sir?

·         Bod nifer o unigolion ddim wedi cwblhau’r holiadur ar-lein fel rhan o ymgynghoriad Her Gwynedd gan ei fod yn rhy gymhleth a bod nifer yr ymatebion a dderbyniwyd yn isel o ystyried yr ymarferiad costus hwn.

           

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd y Prif Weithredwr:-

·         O ran toiledau cyhoeddus, mai ond rhai o’r toiledau oedd yn economaidd bosib i godi ffi gan osod peiriannau talu ac os dymunir tynnu cynllun rhif 51 (Cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y Sir) allan o’r toriadau yna byddai’n rhaid ychwanegu cynllun arall i’r toriadau neu godi’r Dreth Cyngor. Roedd gwaith i’w wneud o ran pa doiledau cyhoeddus i’w cau a sut i wireddu’r toriadau ac efallai dylai’r Pwyllgor Craffu fod yn rhan o’r broses.

·         Y cydnabyddir y byddai effaith ar dwristiaeth wrth gynnwys rhai cynlluniau yn y rhestr toriadau ond pe tynnir cynllun o’r rhestr byddai rhaid bod cynllun arall yn cael ei ychwanegu neu godi’r Dreth Cyngor.

·         Nad oedd trafodaethau wedi eu cynnal efo Llywodraeth Cymru yng nghyswllt Amgueddfa Lloyd George ond argymhellir gohirio gweithredu ar y toriad tan 1 Ebrill 2017, er mwyn rhoi cyfle i’r Gwasanaeth gynnal trafodaethau gydag unrhyw gorff a fyddai’n dymuno cymryd cyfrifoldeb am yr amgueddfa.

·         Bod gwaith pellach i’w wneud ar rai o’rcynlluniau y cynhwysir yn y rhestr toriadau cyn y gellir eu gweithredu.

 

Cynigwyd gwelliant i dynnu cynllun rhif 12 (Lleihau 50% ar y grantiau a roddir i fudiadau gwirfoddol ar gyfer prosiectau penodol) a chynllun rhif 26 (Dileu grant Canolfan Noddfa) o’r rhestr toriadau a chynyddu'r Dreth Gyngor 4.03%.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai tynnu’r ddau gynllun o’r rhestr toriadau yn golygu cynnydd o 4.09% yn y Dreth Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys. Derbyniodd y cynigydd yr addasiad.

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan yr aelodau yng nghyswllt datgan buddiant, nododd y Swyddog Monitro ei fod wedi gwneud cais i’r aelodau ofyn am arweiniad ymlaen llaw. Ychwanegodd bod yr aelodau wedi derbyn hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ac mai mater i’r Cynghorydd unigol oedd penderfynu o ran datgan buddiant.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y gwelliant:-

 

O blaid: (8) Y Cynghorwyr Gwynfor Edwards, Aled Evans, Gwen Griffith, Aled Wyn Jones, Sion Wyn Jones, Dilwyn Morgan, Mike Stevens a Glyn Thomas.

 

Yn erbyn: (49) Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Stephen Churchman, Annwen Daniels, Lesley Day, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Trevor Edwards, Thomas Ellis, Alan Jones Evans, Jean Forsyth, Gweno Glyn, Simon Glyn, Selwyn Griffiths, Alwyn Gruffydd, Siân Gwenllian, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Anne Lloyd Jones, Charles W. Jones, Dyfrig Jones, Elin Walker Jones, John Wynn Jones, Beth Lawton, Dilwyn Lloyd, Dafydd Meurig, Linda Morgan, Dewi Owen, Michael Sol Owen, Caerwyn Roberts, Gareth A. Roberts, John Pughe Roberts, W. Gareth Roberts, Mair Rowlands, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gethin Glyn Williams, Hefin Williams, John Wyn Williams, Owain Williams, R. H. Wyn Williams, Mandy Williams-Davies ac Eurig Wyn.

 

Atal: (7) Y Cynghorwyr Chris Hughes, Aeron M. Jones, Brian Jones, Eric Merfyn Jones, Eryl Jones-Williams, June Marshall, Hefin Underwood.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ar y cynnig gwreiddiol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod penderfyniad y Cyngor i beidio cyflenwi biniau halen yn medru golygu cynnydd yn mhraeseptau Cynghorau Cymuned.

·         Bod y Cyngor wedi ymgynghori ar fwy o raddfa na chynghorau eraill yng Nghymru ac wedi pwyso a mesur y dystiolaeth er mwyn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus gan fod pobl Gwynedd yn ddibynnol arnynt.

·         Y cydnabyddir y byddai wedi bod o fudd i dderbyn nifer uwch o ymatebion i’r ymgynghoriad.

·         Roedd y toriadau yn anorfod oherwydd polisi Llywodraeth San Steffan.

·         Os ceir anawsterau o ran gwireddu’r toriadau yn dilyn gwneud gwaith pellach bod y Cabinet am dderbyn adroddiad.

·         A ellir nodi bwriad y Cyngor i godi “premiwm” ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi o flwyddyn ariannol 2017/18 ymlaen heb ddynodi canran?

·         Er mwyn gwarchod pobl fregus, roedd y Cabinet yn argymell peidio cynnwys cynllun rhif 34 (Torri 10% ar y Gwasanaethau Cefnogol a roddir i blant drwy Derwen) oherwydd y byddai’n effeithio’n andwyol ar wasanaeth Derwen a oedd yn gwireddu arbedion effeithlonrwydd eisoes.

·         Bod sawl cynllun efo gwaith i’w wneud arnynt cyn y gellir gwireddu’r toriadau ac anogir pawb sydd wedi cymryd rhan yn ymgynghoriad Her Gwynedd i barhau efo’r gwaith i ddarganfod ffyrdd amgen o gyflawni.

·         Bod cynnydd chwyddiant cyfansawdd o 67% ar y Dreth Cyngor ers 2005 o gymharu â chynnydd chwyddiant cyfansawdd cyffredinol o 37% yn yr un cyfnod, cydnabyddir bod y sefyllfa’n anodd a bod symudiad y Cyngor tuag at y cyflog byw i’w groesawu ond nid oedd craffu digon manwl wedi ei wneud ar y toriadau posib. Felly, ‘roedd aelod yn dymuno cynyddu’r Dreth Cyngor 3.5% a gofyn i’r Pwyllgorau Craffu yn ystod y 3 mis nesaf i ystyried y wybodaeth ac argymell ffordd ymlaen i’r Cabinet.

·         Cefnogol i gadw’r canolfannau croeso a’r toiledau cyhoeddus ond byddai’n golygu cynnydd uwch yn y Dreth Cyngor. Nid oedd manylion rhai o’r cynlluniau yn wybyddus felly byddai’r aelod yn atal ei bleidlais.

·         Bod angen i waith fynd rhagddo i gysoni'r hyn mae cymunedau a’r Cyngor yn cyflawni.

·         Bod nifer uchel o ymatebion i’r ymgynghoriad gan fudiadau a gwasanaethau ond bod lefel yr ymateb yn isel o ran cynlluniau a fyddai’n effeithio ar blant ac oedolion bregus felly yn falch bod y Cyngor am edrych ar eu hôl nhw.

·         A ellir cael esboniad pan fo rhai enwau yn y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i’r aelodau wedi eu dileu?

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd y swyddogion:-

·         O ran codi “premiwm” ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi, y byddai’n rhaid rhoi rhybudd pendant o ran y “premiwm” os am weithredu o flwyddyn ariannol 2017/18 ymlaen. Roedd Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac argymhellir aros i weld canlyniad yr ymchwiliad ac yna asesu’r sefyllfa gyda’r holl wybodaeth cyn dod i benderfyniad.

·         O ran y dyhead i gynyddu’r Dreth Cyngor 3.5% a gofyn i’r Pwyllgorau Craffu yn ystod y 3 mis nesaf i ystyried y wybodaeth ac argymell ffordd ymlaen i’r Cabinet, nid oedd yn welliant priodol gan fod gofyn cyfreithiol i osod cyllideb hafal ac fel y nodwyd ar y cychwyn, byddai’n rhaid nodi yn benodol sut y bwriedir cyfarch y bwlch ariannol.

·         Cydnabyddir bod anghysondeb o ran ariannu gan y Cyngor a’r Cynghorau Cymuned. Cynhelir cyfarfodydd efo Cynghorau Cymuned ar hyn o bryd a bydd gwaith yn cael ei wneud yn y dyfodol agos i edrych ar y sefyllfa wrth chwilio am arbedion effeithlonrwydd pellach a gallai’r Pwyllgorau Craffu efallai gymryd rhan yn y broses.

·         Bod data yn y wybodaeth ychwanegol megis cyfeiriadau e-bost personol wedi eu cuddio er mwyn cydymffurfio a rheolau diogelu data gan fod y dogfennau yn gyhoeddus.

 

Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y cynnig:-

 

O blaid: (58) Y Cynghorwyr Craig ab Iago, Annwen Daniels, Lesley Day, Gwynfor Edwards, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Trevor Edwards, Alan Jones Evans, Aled Evans, Jean Forsyth, Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen Griffith, Selwyn Griffiths, Siân Gwenllian, Annwen Hughes, Chris Hughes, John Brynmor Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones, Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Charles W. Jones, Dyfrig Jones, Elin Walker Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn Jones, Beth Lawton, June Marshall, Dafydd Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Michael Sol Owen, W. Roy Owen, W. Tudor Owen, Caerwyn Roberts, Gareth A. Roberts, John Pughe Roberts, W. Gareth Roberts, Mair Rowlands, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Mike Stevens, Gareth Thomas, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Ann Williams, Eirwyn Williams, Elfed Williams, Gethin Glyn Williams, Gruffydd Williams, Hefin Williams, John Wyn Williams, R. H. Wyn Williams, Mandy Williams-Davies ac Eurig Wyn.

 

Yn erbyn: (9) Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Thomas Ellis, Alwyn Gruffydd, Louise Hughes, Jason Humphreys, Aeron M. Jones, Sion Wyn Jones, Dilwyn Lloyd ac Owain Williams.

 

Atal: (2) Y Cynghorwyr Eryl Jones-Williams a Glyn Thomas.

 

          PENDERFYNWYD:

 

1.      Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynir gan y Cabinet fel y’i nodir yn yr adroddiad, fydd yn golygu cynyddu’r Dreth Cyngor 3.97% ar gyfer 2016/17. 

 

2.      Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 6 Tachwedd 2015, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2016/17 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a)    49,932.37 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.

 

(b)    Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

     526.68

 

Llanddeiniolen

   1,809.82

Aberdyfi

     925.62

Llandderfel

     489.47

Abergwyngregyn

     116.15

Llanegryn

     153.55

Abermaw (Barmouth)

   1,085.90

Llanelltyd

     272.58

Arthog

     607.53

Llanengan

   1,958.38

Y Bala

     760.10

Llanfair

     305.07

Bangor

   3,640.77

Llanfihangel y Pennant

     204.16

Beddgelert

     306.95

Llanfrothen

     209.90

Betws Garmon

     130.77

Llangelynnin

     390.27

Bethesda

   1,641.55

Llangywer

     133.74

Bontnewydd

     439.05

Llanllechid

     336.18

Botwnnog

     436.07

Llanllyfni

   1,376.49

Brithdir a Llanfachreth

     397.62

Llannor

     891.25

Bryncrug

     331.06

Llanrug

   1,122.86

Buan

     225.99

Llanuwchllyn

     300.51

Caernarfon

   3,449.47

Llanwnda

     771.51

Clynnog Fawr

     432.03

Llanycil

     195.06

Corris

     293.73

Llanystumdwy

     861.68

Criccieth

     911.69

Maentwrog

     273.75

Dolbenmaen

     582.77

Mawddwy

     331.44

Dolgellau

   1,183.41

Nefyn

   1,382.45

Dyffryn Ardudwy

     788.20

Pennal

     219.60

Y Felinheli

   1,105.05

Penrhyndeudraeth

     749.49

Ffestiniog

   1,675.41

Pentir

   1,022.55

Y Ganllwyd

       80.70

Pistyll

     239.92

Harlech

     745.00

Porthmadog

   1,934.14

Llanaelhaearn

     430.45

Pwllheli

   1,700.31

Llanbedr

     307.34

Talsarnau

     305.16

Llanbedrog

     678.35

Trawsfynydd

     500.78

Llanberis

     766.49

Tudweiliog

     440.50

Llandwrog

     989.69

Tywyn

   1,554.84

Llandygai

     958.16

 

Waunfawr

     545.21

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3.     Bod y symiau a ganlyn yn cael eu pennu yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2016/17 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)  £340,323,810 

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)  £111,524,200

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)  £228,799,610

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

(ch) £166,696,539

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)  £1,243.74

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned).

 

(dd) £1,826,710

Sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r cynghorau cymuned).

 

(e)  £1,207.16

Sef y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2) fel  swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig).

 

(f) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor –

 

Aberdaron

 1,224.25

 

Llanddeiniolen

 1,215.45

Aberdyfi

 1,232.62

Llandderfel

 1,225.34

Abergwyngregyn

 1,224.38

Llanegryn

 1,233.21

Abermaw (Barmouth)

 1,255.05

Llanelltyd

 1,231.01

Arthog

 1,221.15

Llanengan

 1,232.69

Y Bala

 1,232.16

Llanfair

 1,230.11

Bangor

 1,298.22

Llanfihangel y Pennant

 1,235.35

Beddgelert

 1,234.85

Llanfrothen

 1,232.41

Betws Garmon

 1,217.10

Llangelynnin

 1,227.15

Bethesda

 1,241.72

Llangywer

 1,237.07

Bontnewydd

 1,242.46

Llanllechid

 1,229.47

Botwnnog

 1,218.63

Llanllyfni

 1,235.09

Brithdir a Llanfachreth

 1,222.25

Llannor

 1,224.17

Bryncrug

 1,231.96

Llanrug

 1,229.42

Buan

 1,223.75

Llanuwchllyn

 1,240.44

Caernarfon

 1,264.70

Llanwnda

 1,230.75

Clynnog Fawr

 1,225.68

Llanycil

 1,224.08

Corris

 1,227.53

Llanystumdwy

 1,224.57

Criccieth

 1,244.45

Maentwrog

 1,227.80

Dolbenmaen

 1,224.32

Mawddwy

 1,223.75

Dolgellau

 1,249.41

Nefyn

 1,243.31

Dyffryn Ardudwy

 1,232.53

Pennal

 1,234.48

Y Felinheli

 1,238.83

Penrhyndeudraeth

 1,252.52

Ffestiniog

 1,290.72

Pentir

 1,236.37

Y Ganllwyd

 1,245.57

Pistyll

 1,230.08

Harlech

 1,229.98

Porthmadog

 1,234.56

Llanaelhaearn

 1,265.24

Pwllheli

1,248.62

Llanbedr

 1,242.95

Talsarnau

 1,239.93

Llanbedrog

 1,232.22

Trawsfynydd

 1,233.12

Llanberis

 1,233.25

Tudweiliog

 1,220.78

Llandwrog

 1,246.06

Tywyn

 1,255.40

Llandygai

 1,228.24

 

Waunfawr

 1,229.17

 

sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.

 

4.      Nodi ar gyfer y flwyddyn 2016/17 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:

 

 

Band A

Band B

Band C

Band D

Band E

Band F

Band G

Band H

Band

I

 

160.08

186.76

213.44

240.12

293.48

346.84

400.20

480.24

560.28

 

5.      Wedi pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2016/17 ar gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.