skip to main content

Eich Cynghorwyr

Mae Cynghorwyr Lleol yn cael eu hethol gan y gymuned er mwyn penderfynu sut mae'r Cyngor yn cyflawni ei amryw ddyletswyddau. Maent yn cynrychioli'r budd cyhoeddus yn ogystal ag unigolion sydd yn byw o fewn y ward mae ef neu hi yn ei gynrychioli.

Maent yn cynnal cyswllt yn rheolaidd gyda'r cyhoedd trwy gyfarfodydd y Cyngor, galwadau ffôn, a sesiynau galw i mewn.

Mae Cynghorwyr yn derbyn cyflog am eu gwaith. Yn ôl y gyfraith mae'n ofynnol i bob Aelod o'r Cyngor lenwi ffurflen datgan buddiant, gyda'r manylion yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.

Mae nifer o Gynhorwyr Gwynedd wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol sydd yn adrodd ar eu gweithgareddau mewn blwyddyn. Gellir gweld yr adroddiadau blynyddol trwy ddilyn y ddolen yma

Er mwyn canfod eich cynghorydd, dilynwch y ddolen isod: