Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

23/09/2019 - PUBLIC TRANSPORT ref: 398    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/09/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/09/2019

Effective from: 23/09/2019

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad.

 


23/09/2019 - MEETING PROGRAMME AND FORWARD WORK PLAN ref: 397    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/09/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/09/2019

Effective from: 23/09/2019

Penderfyniad:

Cymeradwywyd enwau isod i arwain ar y gwahanol lifau gwaith a chytunwyd ar y  rhaglen amlinellol ar gyfer y tri chyfarfod nesaf o'r Is-grŵp.

 

Llif gwaith

Swyddogion Arweiniol

Cludiant Cyhoeddus (bysus) i gynnwys Cludiant Addysg

Peter Daniels (Sir Ddinbych), David Hesketh (Wrecsam)

Trafnidiaeth Garbon Isel

Dafydd Williams (Gwynedd), Geraint Edwards (Conwy), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Teithio Llesol

Peter Daniels (Sir Ddinbych), Dafydd Williams (Gwynedd)

Cydbwyllgor Corfforaethol

pawb

Trenau

Darren Williams (Wrecsam), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Cyfyngiadau 20mya a pharcio ar y droedffordd

Huw Percy (Ynys Môn), Stephen Jones (Sir y Fflint)

Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Geraint Edwards (Conwy), Huw Percy (Ynys Môn)

Diogelwch Ffyrdd (Addysg, Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd)

Darren Williams (Wrecsam), Huw Percy (Ynys Môn)

Priffyrdd Strategol (gwelliannau)

Cysylltu ag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru

 


23/09/2019 - MEETING PROTOCOL AND SG RESPONSIBILITIES ref: 396    Caniatawyd

Yn dilyn sefydlu’r Is-Fwrdd yn ffurfiol mae angen gosod trefniadau ffurfiol a chylch gorchwyl ar ei gyfer. O ganlyniad i’w statws fel is-bwyllgor ffurfiol golygai fod ystod o ofynion statudol a chyfansoddiadol yn gymwys. Nodwyd fod y rhain yn cynnwys elfennau o Gytundeb Llywodraethu 1 a’r amodau a fabwysiadwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ( “BUE”) wrth benderfynu sefydlu’r Is-Fwrdd.

 

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/09/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/09/2019

Effective from: 23/09/2019

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwywyd y Protocol.

 

Penderfynwyd y bydd y Swyddogion, yn ystod y pythefnos nesaf, yn enwebu Swyddog Arweiniol a fydd yn mynychu pwyllgorau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pan mae’r angen yn codi.

 


20/09/2019 - APPOINTMENT OF PROGRAMME DIRECTOR ref: 383    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Gwnaed yn y cyfarfod: 20/09/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/09/2019

Effective from: 20/09/2019

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i AW, a dirprwyo’r hawl i gytuno ar bwynt cychwyn o fewn y raddfa gyflog i Brif Weithredwr y Corff Atebol a Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint.