Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/10/2019 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/10/2019
Effective from: 31/10/2019
Penderfyniad:
1) Cymeradwyo
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd ar gyfer Dinas Bangor
am gyfnod o dair blynedd, yn unol â'r Gorchymyn Arfaethedig drafft a atodwyd
i’r adroddiad.
2) Diddymu
Gorchymyn Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus Dynodedig ar gyfer ardaloedd
Bangor a Chaernarfon Cyngor Gwynedd 2004 (y Gorchymyn Presennol) wrth sefydlu'r
GDMC i'r graddau ei fod yn berthnasol i Fangor;
3) Awdurdodi
Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i ymgymryd â chyflwyno'r Gorchymyn
Arfaethedig a diddymu'r Gorchymyn Cyfredol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/10/2019 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/10/2019
Effective from: 31/10/2019
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2019 o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £17.85
miliwn, sef :
Defnydd o £8.304 miliwn o
amryw ffynonellau i ariannu llithriadau o 2018/19
Cynnydd yn y defnydd o
£5.936 miliwn o
fenthyca
£3.411 miliwn yn
y grantiau a chyfraniadau
£82
mil o dderbyniadau cyfalaf
£154
mil o Gronfeydd adnewyddu ac eraill
Lleihad o £37 mil o
gyfraniadau refeniw
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/10/2019 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/10/2019
Effective from: 31/10/2019
Penderfyniad:
1)
Derbyn yr
Adroddiad Monitro Blynyddol Terfynol yn Atodiad 1 ar gyfer ei gyflwyno ymlaen i
Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019.
2)
Rhoi’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
ymgymryd ag unrhyw newidiadau golygyddol a gweinyddol terfynol i’r Adroddiad
Monitro Blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
3)
Rhoi’r
hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd mewn ymgynghoriad a’r Aelod Cabinet
Amgylchedd i ymgymryd ag unrhyw
newidiadau sydd yn deillio o faterion sydd yn codi gan Gyngor Sir Ynys Môn.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/10/2019 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/10/2019
Effective from: 15/10/2019
Penderfyniad:
1) Ar sail yr
adroddiad, yr asesiad risg a’r cyngor arbenigol sydd wedi ei dderbyn, awdurdodi
gwireddu cynllun Isadeiledd Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr.
2) Awdurdodi’r
Pennaeth Economi a Chymuned, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid a’r
Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, i negodi ac arwyddo cytundeb gyda Snowdonia Aerospace LLP fydd yn
gwarchod buddiannau’r Cyngor cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys cyfyngiadau
ar gyfer defnydd sifil o’r ganolfan yn unig.
3) Bod y
cytundeb yn sicrhau y defnydd sifil o’r datblygiad drwy gynnwys
cymal fydd yn gwahardd defnydd milwrol o’r adeiladau
sydd yn cael eu gwella drwy’r prosiect
arian Ewropeaidd
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/10/2019 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/10/2019
Effective from: 31/10/2019
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2019 o’r Gyllideb Refeniw, gan:
1)
Nodi
fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, a chan
fod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r
Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn
cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb, fel sydd yn digwydd ym maes
gofal Plant.
2)
Gofyn i’r Aelod Cabinet ar gyfer Plant a Phobl
Ifanc, ynghyd â'r Pennaeth Adran Plant a Theuluoedd, i fynd at wraidd
gorwariant yr Adran a chymryd camau i ddod a’r sefyllfa o fewn rheolaeth ac o
fewn y gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gan adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb.
3)
Caniatáu yr Adran Amgylchedd i neilltuo (£220k)
o danwariant yr adran yn dilyn adolygiad barnwrol diweddar o gynllun cyfalaf yn
ymwneud â Ffordd fynedfa Llanbedr, o ganlyniad i resymau tu hwnt i reolaeth y
Cyngor, gan ei roi mewn cronfa benodol i'r pwrpas.
4)
Gweithredu’r trosglwyddiadau canlynol ar
gyllidebau Corfforaethol,
-
(£240k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf.
-
(£995k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a
chadw.
-
tanwariant net o (£1,632k) ar gyllidebau
Corfforaethol i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i leddfu'r risg
gorwariant adrannau'r Cyngor yn 2019/20.