Gan fod Cyngor
Gwynedd yn gweithredu fel corff arweiniol i Raglen Arfor gan dargedau adnoddau
Cronfa Arloesi Arfor Llywodraeth Cymru ar ran Cynghorau Gwynedd, Ynys Môn,
Ceredigion a Sir Gar penderfynwyd fod:
- Y Cabinet yn
cefnogi pecyn o brosiectau Rhaglen Arfor Gwynedd ac yn dirprwyo’r
penderfyniad i gymeradwyo ceisiadau
ar gyfer gwariant yng Ngwynedd i Bennaeth Economi a Chymuned mewn
ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid
- Y Cabinet yn
awdurdodi'r Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol i gytuno i gwblhau cytundeb rhwng awdurdod
priodol.