Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet

 

 

 

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda’r gwaith o baratoi adolygiad o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Adroddwyd bod y gwaith o baratoi’r Cynllun Gwella wedi cael ei rannu’n ddau ran, sef adolygu a pharatoi Datganiad Gweithredu. Wrth adolygu, ystyriwyd gwerthuso i ba raddau y cyflawnwyd amcanion y cynllun blaenorol, asesu cyflwr presennol y rhwydwaith a chanfod i ba raddau mae hawliau tramwy yn bodloni gofynion y cyhoedd. Er mwyn sefydlu darlun o’r sefyllfa gyfredol, o safbwynt cyflwr y rhwydwaith a chanfod barn y cyhoedd, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus drwy baratoi holiadur digidol. Ategwyd bod 1,386 o ymatebion dilys wedi eu derbyn, oedd yn nifer calonogol iawn.

 

Eglurwyd bod y datganiad gweithredu drafft (a oedd wedi ei gynnwys gyda’r adroddiad.) yn ceisio adnabod y prif themâu gwaith a’r camau gweithredu ar gyfer y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ac mai dyma fyddai sail ar gyfer paratoi rhaglenni gwaith manwl. Y gobaith yw sefydlu rhaglen waith realistig a chyraeddadwy yn ogystal ag osgoi rhai o wendidau’r cynllun blaenorol.

 

b)    Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod y rhaglen yn un heriol o ystyried rhaglen arbedion y Cyngor

·         Bod diffyg gwybodaeth am y mynediad sydd ar gael i’r cyhoedd

·         A yw’r gyllideb yn ymateb i flaenoriaethau ymatebwyr yr holiadur?

·         Anodd coelio nad oes mapiau o’r llwybrau ar gael ar wefan y Cyngor

·         A oes cynlluniau pellach ar gyfer y dyfodol wedi eu hystyried petai praesept Cynghorau Cymuned yn lleihau neu’n dod i ben?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfraniad y Parc Cenedlaethol a Llwybr yr Arfordir i’r rhwydwaith, amlygwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu £80k y flwyddyn ond nad oedd manylion manwl ar wariant y Parc Cenedlaethol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â blaenoriaethu themâu'r rhaglen waith, amlygwyd y byddai agweddau o bob thema yn cael sylw, ond bod hyn yn ddibynnol ar yr adnoddau fydd ar gael.

 

Mewn ymateb i sylw am y categorïau llwybrau a phetai blaenoriaeth yn cael ei roi i gategori 1, beth fyddai yn digwydd i gategori 4, amlygodd yr Aelod Cabinet mai anodd yw cadw balans rhwng y categorïau ac nad oedd unrhyw fwriad i anwybyddu categori 4. Ategwyd y byddai’r Uned yn parhau i archwilio, cydweithio a cheisio cadw  mynediad yn agored.

 

Mewn ymateb i sylw petai rhwystrau ar y categorïau isaf, amlygwyd bod angen rhannu'r wybodaeth er mwyn ceisio datrys y rhwystr. Ategwyd mai cyfrifoldeb y perchennog tir fydd adnewyddu giatiau a chamfeydd.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â datblygu mapiau ar y wefan, amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal a bod angen cefnogaeth Adran Gwefan y Cyngor i weithredu ymhellach. Nodwyd bod nifer wedi holi am y gwasanaeth ac felly'r gobaith yw datblygu mapiau i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â'r posibilrwydd i Gynghorau Cymuned  fethu ag ymdopi gyda chyfrifoldebau ychwanegol ac os oes deddfwriaeth statudol yn nodi bod angen i’r Cyngor sicrhau eu bod yn cynnal yr holl lwybrau, adroddwyd mai cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau mynediad. Pwysleisiwyd er hynny, mai categori 1 a 2 fyddai yn cael blaenoriaeth, oni bai bod tystiolaeth ddigonol yn dangos bod categori 3 a 4 yn cael mwy o ddefnydd.

 

Derbyniwyd y sylw na fydd modd dibynnu ar y Cynghorau Cymuned i wneud y gwaith gan fod y gofynion eu cyfrifoldebau yn cynyddu.

 

Mewn ymateb i sylw petai praesept  Cynghorau Cymuned ar gyfer cynnal a chadw llwybrau yn lleihau ac os oedd cynllun pellach yn ei le nodwyd bod yr Adran wedi ceisio gwarchod arian y Cynghorau Cymuned, ond anodd fyddai gwybod faint o arian sydd ar gael i’r dyfodol. Er hynny, ategwyd bod staff arbenigol gan yr uned fyddai yn cynnig hyfforddiant, defnydd o offer a chefnogaeth ac yr angen i ystyried y posibilrwydd o gydweithio gyda chynlluniau cymunedol megis Tref Werdd. Ategwyd nad oedd arian wrth gefn, ond byddai rhaid defnyddio arian y categoriau ac arfogi'r Cynghorau Cymuned i wneud y gwaith. Nodwyd hefyd bod y cynllun yn cael ei adolygu pob dwy flynedd i asesu os yw’r rhaglen yn rhy uchelgeisiol.

 

c)  Derbyniwyd yr adroddiad

 

Dogfennau ategol: