Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig a Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Penderfynwyd i
i.
Bod y
Cabinet yn rhoi sêl bendith i benderfyniad yr adran Economi a Chymuned i ymrwymo
£250,000 o’i Cronfa Cydariannu tuag at cynllun oddeutu £25,000,000 i ddatblygu
isadeiledd priodol i gefnogi datblygiad Canolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr.
ii. Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo £250,000 arall i’r cynllun ymlaen llaw o’r Cynllun Rheoli Asedau arfaethedig.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
eitem gan y Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd i:
i.
Bod y
Cabinet yn rhoi sêl bendith i benderfyniad yr adran Economi a Chymuned i
ymrwymo £250,000,o’i Cronfa Cydariannu tuag at cynllun oddeutu £25,000,000 i
ddatblygu isadeiledd priodol i gefnogi datblygiad Canolfan Awyrofod Eryri yn
Llanbedr.
ii.
Bod
Cyngor Gwynedd yn ymrwymo £250,000 arall i’r cynllun ymlaen llaw o’r Cynllun
Rheoli Asedau arfaethedig.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nod fod angen buddsoddiad
pellach ar y lleoliad. Amcangyfrifir y gall datblygu Canolfan Awyrofod Eryri,
Llanbedr yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer datblygu a threialu cerbydau a reolir
o bell arwain bell arwain at greu 100 o swyddi. Nodwyd i alluogi datblygiad y
safle mae angen buddsoddiad pellach gan gynnwys gwelliannau i’r cyfleusterau ar
y maes awyr a ffordd mynediad newydd yn osgoi canol pentref Llanbedr.
Pwysleisiwyd fod y Maes Awyr yn ased sylweddol a all
ddatblygu economi Meirionnydd drwy greu swyddi gwerth uchel. Mae’r safle yn
ogystal yn rhan o Ardal Fenter Eryri, ac mae Cyngor wedi bod yn gweithio yn
agos a’r cwmni sy’n gweithredu’r safle a Llywodraeth Cymru i’w ddatblygu.
Pwysleisiwyd mai Llywodraeth Cymru sy’n berchen y safle ac maent wedi llesu'r
safle i gwmni Snodonia Aerospace ar gytundeb hirdymor.
Pwysleisiwyd yn glir fod cyfraniad Gwynedd yn mynd yn gyfan
gwbl ar wella mynediad i’r safle fydd yn cynnwys gwelliannau i lonydd lleol.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
- Nodwyd fod
llawer o unigolion a mudiadau yn holi os bydd buddsoddiad i’r cwmnïau sydd wedi
ei lleoli ar y safle - gan fod cwmnïau sydd yn datblygu arfau, Pwysleisiwyd eto
y bydd arian y Cyngor yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r ffordd ac nid ar y
lleoliad ei hun.
- Nodwyd fod
Meirionydd wedi gweld gwymp yn nifer y swyddi Gwerth Uchel yn ystod y
blynyddoedd diwethaf, nodwyd fod angen buddsoddi mewn isadeiledd er mwyn cael
swyddi gwerth uchel a galluogi pobl leoli i aros yn yr ardal. Ychwanegwyd fod
10 cwmni lleol yn defnyddio’r safle ac mae’r ffordd bresennol yn un gwael,
angen buddsoddi yn y ffordd i alluogi cwmni lleol i ehangu.
- Holwyd pam
mai Cyngor Gwynedd a fydd yn cymryd y rôl Arweiniol - nodwyd oherwydd mai
oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr arian gan Ewrop, ac felly yn methu
rhoi'r arian iddynt eu hunain ac nid oes profiad gan y Cwmni sy’n rhedeg y
safle ac felly'r Cyngor yw’r unig opsiwn.
- Holwyd beth
mae’r cwmni sydd a’r les yn ei wneud - nodwyd fod y cwmni yn y broses o
ddatblygu cynllun busnes er mwyn gallu llogi rhannau o’r lleoliad i gwmnïau
lleol, i uwchraddio safleoedd ar y safle ac maent yn gwneud cais i fod yn
Ganolfan Awyrofod. Nodwyd eu bod yn anelu i gynnal y safle ac i ddyrchafu
gwerth y safle a chael mwy o denantiaid.
- Trafodwyd
er gyfer rheolaeth y dyfodol ac a fydd y datblygiadau yn parhau i orfod dilyn
rheolau cynllunio’r Cyngor - nodwyd y bydd ac ni fydd y buddsoddiad ar y ffordd
yn effeithio ar y drefn.
- Nodwyd nad
oedd unrhyw sôn am Gynllun i ddatblygu arfau / drones yn yr adroddiad gan holi
os oes unrhyw gynlluniau i wneud hyn. Nodwyd fod cwmni QinetiQ, sydd yn gwneud
gwaith ym maes drones, yn denant ar y safle ond nad yw’r safle yn benodol
iddynt hwy.
- Nodwyd o
ran y Cyngor fod gwneud gwelliannau i’r ffordd yn fargen dda - gan ei fod yn
gyfraniad at greu mwy o swyddi yn lleol.
- Holwyd beth
oedd barn pobl leol Llanbedr i’r cais - nodwyd eu bod wedi bod yn gofyn am
ffordd osgoi'r pentref ers 1950au a'u bod yn annog i’r Cyngor symud ymlaen a’r
Cais.
Awdur:Sioned Williams a Dafydd Williams
Dogfennau ategol: