Agenda item

Creu 13 llety gwyliau deulawr gyda parcio cysylltiedig ac ardal mwynderol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Creu 13 llety gwyliau deulawr gyda pharcio cysylltiedig ac ardal mwynderol

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais amlinellol ydoedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl. Nodwyd y byddai’r unedau i gyd wedi eu lleoli ar bwys llethr serth ar derfyn dwyreiniol safle cefn gwlad sydd wedi ei leoli tu allan i ffin datblygu’r pentref mewn dyffryn coediog o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llŷn a rhwng dwy Heneb Gofrestredig. Ymddengys o LANDMAP fod cyffiniau’r cais wedi ei adnabod fel ardal weledol Mynydd Tir y Cwmwd sydd o safon weledol “Uchel”.  Roedd y safle yn cael ei ystyried yn dirlun sensitif iawn. 

O ran lleoli datblygiadau newydd, datgan Polisi PCYFF 1 CDLl mai tir o fewn ffiniau datblygu trefi a phentrefi fydd y prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd gyda’r polisi yn anelu i ddatgan yn glir fwriad yr Awdurdod Cynllunio Lleol i beidio â chefnogi datblygiadau diangen yng nghefn gwlad.  Ystyriwyd hefyd polisi TWR 2 CDLl sydd yn cefnogi llety gwyliau hunanwasanaeth parhaol newydd, addasu adeiladau presennol neu ymestyn sefydliadau llety presennol os yw’r dyluniad, gosodiad a gwedd y datblygiad o safon uchel ac yn cydymffurfio gyda’r meini prawf.  

 

Tynnwyd sylw at bryderon sylweddol yr Uned AHNE ynglŷn â’r cais er mai cais amlinellol ydoedd.  Fodd bynnag, ystyriwyd y byddai datblygiad o faint a graddfa yma yn sicr o gael ardrawiad gweledol mewn dyffryn tawel o’r fath.

 

Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn ymddangos yn drefol ac allan o le mewn safle gweladwy, tawel, di-lygredd ac yn gwbl ddatgymalog o’r pentref agosaf. O ystyried y buddion economaidd posib, ni fyddai yn gorbwyso’r ffaith bod y datblygiad hwn yn ddatblygiad gwbl anaddas yng nghefn gwlad o fewn safle sensitif er nad oedd effaith niweidiol ar drigolion cyfagos na gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol ystyriwyd nad oedd y bwriad oedd ar safle yng nghefn gwlad yn dderbyniol mewn egwyddor a’i fod yn groes i bolisïau lleoli oedd yn ymwneud gyda lleoli datblygiadau a chreu unedau hunan gwasanaethol newydd.

        

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(b)       Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y cais wedi goresgyn 4 allan o 6 o’r meini prawf

·         Bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno

·         Bod yr adroddiad technegol yn dderbyniol gan yr uned trafnidaieth, bioamrywaith

·         Bod y bwriad yn agos i’r ffin ddatblygu ac felly yn ‘dderbyniol’

·         Bod y cais yn cydymffurfio gyda 4 allan o 5 o ystyriaethau polisi TWR2

·         Bod yr effaith ar y tirwedd ehangach yn ‘isel’ ac nid yn ‘arwyddocaol’

·         Bod y cynllun oedd yn cael ei gynnig yn dderbyniol

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

 (ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod rhaid ystyried sylwadau AHNE a CADW

·         Bod y cais yn groes i ofynion polisiau cenedlaethol a lleol

 

         PENDERFYNWYD gwrthod y cais

 

         Rhesymau:

1.        Mae'r bwriad yn groes i ofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor Gwynedd (2011) a Pholisïau PCYFF 1 a TWR 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn parthed lleoli datblygiadau a chreu llety gwyliau hunan gwasanaethol newydd, gan nad yw'r bwriad wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu nac yn cael ei ystyried yn safle a ddatblygwyd o'r blaen addas.

 

2.         Byddai’r datblygiad hwn, oherwydd ei osodiad trefol, ei faint a’i raddfa fawr yn ddatblygiad gwbl anaddas yng nghefn gwlad o fewn safle sensitif gan achosi niwed arwyddocaol i dirwedd yr AHNE a mwynderau gweledol yr ardal, felly yn groes i Bolisi AMG 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn  a Phennod 5 Polisi Cynllunio Cymru 2016

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 1.00pm a daeth i ben am 4.30pm.

 

Dogfennau ategol: