Agenda item

Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod yn fforddiadwy.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Adeiladu 5 o dai unllawr gydag un i fod yn dŷ fforddiadwy.

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan  egluro bod y cais wedi bod gerbron Pwyllgor Cynllunio 25 Medi 2017 lle penderfynwyd gohirio y cais er mwyn i‘r aelodau ymweld â’r safle ac i’r ymgeisydd gael cyfle i ymateb i’r rhestr aros am randiroedd a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Nefyn. 

 

Eglurwyd bod y tir oedd hefyd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10 o dai annedd deulawr.  Fel rhan o’r caniatâd hwnnw, roedd bwriad cadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd ac mae amod ar y caniatâd cynllunio hwnnw C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma yn cael ei ddefnyddio fel rhandiroedd.

 

Amlygwyd bod yr ymgeisydd (yn Medi 2016) wedi cynnal arolwg o’r rhandiroedd yn Y Ddol (dafle dros dro) i asesu faint o’r 21 oedd mewn defnydd.  O’r wybodaeth a gyflwynwyd dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd cynllunio oedd yn cael eu defnyddio.  I’r gwrthwyneb roedd Cyngor Tref Nefyn wedi nod bod 37 enw ar restr aros am randiroedd. Ni dderbyniwyd copi o’r rhestr aros yma. Cyfeiriwyd at y dystiolaeth oedd ar gael ac sut ‘roedd hwn wedi ei asesu yng nghyd y galw am randiroedd a’r cyd-destun polisi.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Nefyn ac felly rhaid oedd ystyried yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer tai o dan Bolisi TAI 2 CDLL.  Nodwyd bod y polisi  yn gefnogol i ddarparu tai o fewn ffin ddatblygu canolfannau gwasanaeth lleol.   Fel rhan o’r cais amlygwyd bod yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo cytundeb 106 yn clymu un o’r tai fel uned fforddiadwy.  Byddai hyn yn gyfwerth ac 20% o’r tai ac sydd yn fwy na’r gofyn ar gyfer Nefyn, ac ystyriwyd yn sgil arwyddo cytundeb 106 tai fforddiadwy byddai yn clymu un o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy, y byddai’r bwriad yn bodloni gofynion Polisi TAI 15.  Yn ychwanegol, byddai 4 o’r unedau gydag arwynebedd llawr mewnol o oddeutu 56 medr sgwâr sydd oddi fewn i’r uchafswm maint tai fforddiadwy unllawr dwy ystafell wely a argymhellir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy sef 80 medr sgwâr. 

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

·         Bod angen gwarchod rhandiroedd Maes y Garn oherwydd pwysigrwydd y safle o fewn hanes Nefyn

·         Mai safle dros dro yn unig oedd Y Ddol a byddai dymuniad i ddychwelyd i Maes y Garn unwaith y byddai’r cais cynllunio wedi ei gwblhau

·         Nad oedd tir Y Ddol yn addasyn dir gwael, gwlyb gyda nifer o’r garddwyr wedi colli cnydau dros y tymor diwethaf

·         Bod gwelliannau i safle Y Ddol wedi ei gweithredu, ond nid oedd hyn wedi gwella cyflwr y tir

·         Yn dilyn hysbysiad yn Llanw Llŷn - 16 o unigolion wedi dangos diddordeb yn hytrach na  3 - y wybodaeth yn anghywir

 

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwynt canlynol gan Aelod unigol:

 

·         Bod y datblygiad o fewn y ffin

 

(d)          Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gofynion i’r dyfodol  o ystyried y Ddeddf Llesiant lle y gallai’r ymgeisydd gyfrannu at wella safon rhandiroedd Y Ddol, amlygodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod yr ymgeisydd wedi dangos parodrwydd i wella’r safle ac ymrwymiad i gyfraniad ariannol.

 

(dd)      Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gwahaniaethau rhwng Maes y Garn a thir Y Ddol o ran perchnogaeth, amlygwyd mai tir preifat oedd Maes y Garn a thir o dan berchnogaeth Cyngor Gwynedd oedd Y Ddol lle mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddarparu'r tir - byddai mwy o warchodaeth i dir Y Ddol

 

(e)         Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwy fydd yn byw yn y tai, amlygwyd bod pobl leol wedi dangos dymuniad i fyw ynddynt. O ran eu maint, eglurwyd eu bont yn dai fforddiadwy o safbwynt eu natur a’u lleoliadar safle sydd yn gyfleus ar gyfer gwasanaethau yn y pentref.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo cytundeb 106 ar gyfer clymu un o’r tai fel fforddiadwy ac i gytuno ar ddull priodol i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at wella cyfleusterau llecyn agored / chwarae yn y gymuned, a hefyd i amodau -

 

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol gyda’r cynlluniau.

3.     Cytuno llechi to.

4.     Cytuno wyneb allanol.

5.     Tynnu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer estyniadau ac adeiladau cwrtil ar gyfer y fforddiadwy.

6.     Amod Dŵr Cymru

7.     Llefydd parcio i’w cwblhau yn unol gyda chynlluniau ac i fod yn weithredol cyn i’r tai gael eu meddiannu am y tro cyntaf.          

 

Dogfennau ategol: