Agenda item

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan y Pennaeth Cyllid.   

 

Cofnod:

(a)    Setliad Llywodraeth Cymru i Lywodraeth Leol 2018/19

Adroddodd y Pennaeth Cyllid oddeutu blwyddyn yn ôl crybwyllodd Llywodraeth Cymru bod dyraniad “ychwanegol” o £58m, ond nid oedd yn ychwanegol, oherwydd bod y grantiau i awdurdodau lleol yn lleihau’n sylweddol. 

 

Eleni, nodwyd bod datganiadau’r Ysgrifennydd Cabinet yn sôn am £104m sydd ddim yn “ychwanegol” go iawn, gan fod dyraniad Llywodraeth Leol i lawr 0.5% yn nhermau “arian”, heb ychwanegiad tuag at chwyddiant na gofynion uwch anorfod.  ‘Roedd £62m o’r dyraniad “ychwanegol” ar gyfer ysgolion, ond does dim “arian”.  Dywedir hefyd bod rhai grantiau yn trosglwyddo i’r setliad, ond eto, does dim “arian” ychwanegol.

 

Roedd bwriad i gynnal cyfarfodydd “Partnership Council” a “Phwyllgor Llywodraeth Leol” ym Mae Caerdydd wythnos diwethaf ond oherwydd y digwyddiadau trist bu i Lywodraeth Cymru gau am yr wythnos.  Hyderir y gellir derbyn eglurder am y grantiau mor fuan ag sy’n bosibl.

 

Deallir bod gan Llywodraeth Cymru arian ychwanegol ond bod yr arian hwn wedi ei flaenoriaethu i’r sector iechyd.

 

(b)   Setliad Cyngor Gwynedd 2018/19

 

Derbyniodd awdurdodau lleol Cymru doriad o 0.5% ar gyfartaledd, gyda Chyngor Gwynedd yn derbyn toriad o 0.1% mewn amrediad rhwng 0 a 1%.   Nodwyd bod y gwahaniaeth rhwng y 0.5% a’r 0.1% wedi’i ymrwymo eisoes gan y Cyngor er mwyn cyfarch gofynion gwario ar ofal cymdeithasol mewn ardal wledig.

 

Tynnwyd sylw bod setliad eleni yn un anodd eto ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, sydd yn barhad o effaith polisi “caledi” Llywodraeth San Steffan a fydd yn cael effaith ar wasanaethau a thrigolion ar draws Cymru.

 

Pwysleiswyd mai mwy o newyddion drwg sydd i ddod i’r dyfodol, gyda chwyddiant tua 2%, nodwyd bod setliad drafft 0.1% (i’w gadarnhau yn Rhagfyr) yn doriad  gwir o 2%, heb ddim i gwrdd â phwysau ychwanegol ar wasanaethau gofal cymdeithasol i nifer uwch o oedolion hŷn, a.y.b.

 

(c)   Sefyllfa Posibl 2019/20

 

Erbyn 2019/20, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad “dangosol o -1.5%.  Yr un adeg, disgwylir chwyddiant tâl sylweddol o gyfarch y targed “cyflog byw” ar gyfer staff y Cyngor a staff y cyflenwyr.  Gall hynny olygu effaith toriad real o oddeutu 5% erbyn 2019/20.

 

(ch)     Gofynion Ariannol Corfforaethol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2018/19

 

Erbyn 2018/19, nodwyd na fydd targed arbedion ychwanegol i ysgolion, fel gweddill gwasanaethau’r Cyngor, OND:

 

·         Rhaid gweithredu ar gynlluniau arbedion hanesyddol, sy’n cynnwys gwedill y £4.3m, lle roedd tua £200,000 i ddod o arbedion trefniadaeth ysgolion ychwanegol erbyn 2018/19

·         Gan nad yw hyn ar trac, diau y bydd rhaid cwtogi’r cwantwm yn briodol, sydd cyfwerth â thua 0.3%.

 

(d)   Gofynion Ariannol Adrannol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2018/19

 

Adroddwyd bod gorwariant sylweddol (£260,000) ar gludiant i ddisgyblion, yn bennaf tacsis i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.  Nodwyd bod y Pennaeth Addysg wedi cyflwyno “bid” i’r Cyngor ariannu’r pwysau anorfod yma i’r dyfodol, ac yn ôl-syllol, ond mae’n annhebygol y bydd y Cyngor yn cymeradwyo’r cais. Gan y bydd rhaid ei ariannu o rhywle, diau y bydd raid cwtogi’r cwantwm ar gyfer hynny hefyd.  Felly, gallasai hynny olygu bod ysgolion yn wynebu lleihad o hanner miliwn yn eu dyraniadau, sydd cyfwerth â thua 0.7% ychwanegol.

 

Fodd bynnag, yn unol â’r drefn arferol yng Nghyngor Gwynedd, byddir yn ariannu chwyddiant yng nghyllidebau ysgolion, felly bydd twf net yn nhermau real ac unrhyw doriad yn dryloyw.

 

(dd)   Gofynion Ariannol Corfforaethol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2019/20 a thu hwnt

 

Adroddwyd y byddai’n her ariannol enfawr I’r Cyngor ddarganfod bwlch hyd at £30m o arbedion dros dair blynedd.  Felly, rhwng ‘rwan a Hydref 2019, bydd holl wasanaethau’r Cyngor, gan gynnwys Addysg ar ran ysgolion, yn gorfod egluro effaith tebygol toriadau sylweddol yn eu cyllidebau.

 

Wedi ystyried yr holl opsiynau, ac wedi cael cadarnhad o’r setliad ymhen blwyddyn, bydd y Cyngor yn ymgynghori gyda’r cyhoedd ar rai dewisiadau rhwng Hydref a Thachwedd 2019.  Golygai’r dewisiadau hyn gynnwys lleihau’r cwantwm ysgolion erbyn 2019/20.

 

(e)    Gofynion Ariannol Adrannol a’r effaith ar gyllidebau ysgolion erbyn 2019/20

 

Adroddwyd bod yr Adran Addysg wedi sefydlu strwythur weinyddol yn y tair ardal ar gost ychwanegol o £275,000, yn amodol ar gyflwyno arbedion o swm cyffelyb o fewn tair blynedd o Fedi 2016.  Nodwyd y byddir angen rhan o’r arbedion hyn erbyn 2019.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.