Agenda item

(a)  Cefnogaeth ychwanegol i Ysgol Tywyn

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg 

 

(b)  Gwybodaeth cryno o wasanaeth rhwydwaith ysgolion

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Technoleg Gwybodaeth a Thrawsnewid  

 

(c)   Diweddariad Talu-ar-lein

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg  

 

(d)   Diweddariad ymgynghoriad Clwb Brecwast

 

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod gan Uwch Reolwr Gwasnaeth Adnoddau Addysg  

 

Cofnod:

(a)  Eitem 5 – Cyllideb a Diffyg Ariannol Ysgol Tywyn   

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn dilyn cais gan Gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd Tywyn am gefnogaeth i’r sefyllfa o ddiffyg ariannol hanesyddol, bod trafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd ar y ffordd ymlaen.  Ychwanegwyd nad oedd y mater hyd yma wedi ei drafod gan Tim Arweinyddiaeth y Cyngor.

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)  Eitem 8 (b)  - Gwasanaeth Rhwydwaith Ysgolion

 

Derbyniwyd cyflwyniad, ar ffurf sleidiau, gan yr Uwch Rheolwr TG a Thrawsnewid, gan roi hanes y rhyngrwyd o’i ddyfodiad yn 1969 ac erbyn heddiw bod y defnydd wedi cynyddu a dyfeisiadau wedi symud yn eu blaen yn aruthrol.    O dan raglen grant Dysgu yn y Gymru Ddigidol, darparwyd cysylltiad band eang ar gyflymder o 10Mbps i ysgolion cynradd a 100Mbps i ysgolion uwchradd.  

 

Eglurwyd esblygiad y rhwydwaith i’r ysgolion a’r gwelliannau mae’r rhwydwaith PSBA ar gyfer y sector gyhoeddus yng Nghymru wedi ei gael a manteision cynyddol i’r dyfodol.

 

O ran pwy sy’n gyfrifol am beth, eglurwyd fel a ganlyn:

 

·         Bod CYNNAL yn darparu cefnogaeth i’r cyfarpar sy’n cysylltu i’r rhwydwaith a gweinyddu’r hidlo

·         Bod y Cyngor yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth rhwydwaith, rheoli cytundeb BT, di-wifr, diogelwch, hidlo a datblygu gwasanaeth newydd (megis ffonau)

·         Bod BT yn gyfrifol am seilwaith y rhwydwaith PSBA

 

 

O safbwynt dyraniad costau o £540,000, byddai’n seiliedig ar y pedwar elfen isod:

 

·         Cyswllt uniongyrchol

·         Rhwydwaith

·         Cynnal a chadw i gynnwys meddalwedd

·         Cefnogaeth staff canolog – ymateb i broblemau ac i ddatblygu’r rhwydwaith

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebodd yr Uwch Reolwr TG a Thrawsnewid i’r ymholiadau fel a ganlyn:

 

(i)            bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth bron iawn yn ei le, a thrwy amlygu’r hyn a fwriedir hyderir y bydd ysgolion yn cytuno i ddarpariaeth drwy’r awdurdod i gael at rwydwaith ddibyniadwy ac yn hyn o beth fe ellir cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i hwyluso rhaglen Dyfodol Llwyddiannus

(ii)           o safbwynt oedran y cyfarpar y byddai’n rhaid ychwanegu ar ôl oddeutu 10 mlynedd (mae’r cyfarpar yn 4 oed yn barod)

(iii)          yng nghyd-destun ariannu unrhyw ychwanegiad i’r cyfarpar yn oddeutu 2021-2023, byddai’n ofynnol i ysgolion gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y costau

 

Mewn ymateb i (ii) a (iii) uchod, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Addysg yr angen i roi cynllun at ei gilydd yn fuan a’r angen hefyd i rybuddio ysgolion ymlaen llaw o debygolrwydd o gostau gan bod technoleg yn newid mor gyflym.

 

Penderfynwyd:          Derbyn, nodi a diolch am y cyflwyniad.

 

(c)  Eitem 9 – Talu ar Lein

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod gwasanaeth talu-ar-lein bellach wedi ei gyflwyno i ysgolion cynradd a’r rhan helaeth o staff  yr ysgolion wedi derbyn hyfforddiant.  Croesawyd y gwasanaeth ac ychydig iawn o sylwadau a dderbyniwyd megis nad oedd rhieni yn gallu gweld balansau / credyd.  Penderfynwyd i ddefnyddio cyfarpar “SIMS  Dinner Money” gyda’r awdurdod yn ariannu’r modiwl.  ‘Roedd oblygiadau i ail-hyfforddi Clercod Arian Cinio ond y byddai’r modiwl yn fanteisiol oherwydd y byddai’n lleihau’r gaith cyfrifo a balansio.  Nodwyd bod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda CYNNAL ar gyfer hyfforddiant ac y byddir yn ymgorffori hyfforddiant gyda hyfforddiant a drefnir ar gyfer casglu arian clybiau brecwast (gweler isod).

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(ch)  Eitem 10 – Ymgynghoriad Clwb Brecwast

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg bod y Cabinet yn ei gyfarfod ar 3 Hydref 2017 wedi penderfynu codi ffi o 80c am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast.  Fe fyddai’n ofynnol i lunio llythyr unigryw ar gyfer pob ysgol i amlinellu’r trefniadau, amseroedd, dull talu, a.y.b. gyda’r llythyr i bwysleisio bod dyletswydd statudol i gynnig brecwast am ddim ac mai am yr elfen amser gwarchod y byddir yn codi’r ffi.  

 

Ychwanegwyd y bydd angen cynnig hyfforddiant i staff ysgolion (Clercod Arian) ar gyfer casglu’r arian ac i’w gynnal yr un pryd â hyfforddiant “SIMS Dinner Money”.  Fe fyddir yn trafod gydag Undebau’r Staff ategol yr elfennau uchod.  Yn ogystal, fe fyddai’r drefn yn cynnig cytundeb parhaol i’r Goruchwylwyr Clwb Brecwast gyda’r hawl i dâl salwch. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Bennaeth ynglyn â gweinyddu’r drefn a’r angen i sicrhau bod manylion yn glir mewn cynllun busnes, esboniwyd y byddir yn  casglu’r arian ar lein a chydnabuwyd y bydd newid i’r drefn ac anogwyd ysgolion i gysylltu â’r Adran Addysg os rhagwelir bod unrhyw fater o bryder i’w ddatrys.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.