Agenda item
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant.
Cofnod:
Nodwyd yn unol â
phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2017, roedd y Pennaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant yn bresennol i drafod trefniadau DoLS.
Nododd y Pennaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr Uwch Reolwr Galluogi wedi bwriadu bod yn
bresennol yn y cyfarfod ond ei bod yn rhoi cyflwyniad i Vaughan Gething AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r gwaith
integreiddio efo iechyd yn Ysbyty Alltwen.
Nododd y Pennaeth ei fod yn rhoi sicrwydd
i’r Pwyllgor bod yr Adran yn cymryd y mater o ddifrif ac yn ymrwymo'r adnoddau
staffio y gellir ei roi tuag at y gwaith. Eglurodd bod ymateb i lwyth gwaith yn
deillio o asesiadau DoLS yn heriol a bod y Llywodraeth efallai’n synhwyro bod y
trefniadau yn fwy trwm na fwriadwyd yn wreiddiol. Nododd bod symudiad i weithio
o fewn 5 Ardal Llesiant wedi effeithio ar gyflawniad asesiadau. Cadarnhaodd bod
trefniadau yn eu lle i ryddhau swyddogion a oedd efo’r achrediad Best Interest
Assessors (BIA) am ddiwrnod pob mis i gynnal un asesiad. Nododd bod y
rhestr aros am asesiad yn lleihau yn raddol ond bod swyddogion yn gorfod ymateb
i achosion brys a bod llawer o achlysuron lle'r oedd rhaid ail-ymweld yn dilyn
cynnal asesiad sylfaenol.
Tynnodd sylw bod
rhaid ystyried effaith posib blaenoriaethu’r gwaith yma dros elfennau eraill o
waith ddydd i ddydd yr Adran. Pwysleisiodd bod trefniadau a capasiti staffio y
Tim Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mewn lle a’i fod yn hyderus y gellid codi momentwm
y gwaith i geisio lleihau’r rhestr aros.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y
Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:
·
Gellir rhannu gwybodaeth am berfformiad cwblhau
asesiadau DoLS ar ddiwedd Chwarter 3 efo aelodau’r Pwyllgor;
·
Er bod 29 o staff yr Adran wedi cymhwyso fel
swyddogion BIA, roedd absenoldeb salwch tymor hir, cytundebau gwaith rhan
amser, cyfnodau mamolaeth a phenodiadau i swyddi eraill yn golygu mai tua 20 o
swyddogion oedd ar gael ar gyfer cyflawni asesiadau;
·
Bod capasiti staffio llawn yn yr Uned Diogelu a
gellir asesu os oedd y trefniadau presennol yn llwyddo o fewn oddeutu 6 mis;
·
Bod y sefyllfa o ran rhestr aros ar gyfer asesiadau
DoLS yn gyffredin ymysg cynghorau ar draws Cymru. Roedd rhai cynghorau wedi
ymrwymo adnoddau newydd er mwyn cael eu rhestrau aros i lawr yn sylweddol;
·
Gallai canolbwyntio adnoddau ar leihau’r rhestr
aros effeithio rhyw gymaint ar yr amserlen o integreiddio gwasanaethau gydag
iechyd. Roedd rhestr aros uchel am wasanaethau yn Ne Meirionnydd ac yn anodd
recriwtio staff gofal wedi cymhwyso. Byddai newid yr amserlen yn cael effaith
felly roedd angen cael balans. Derbyn bod nifer ar y rhestr aros am asesiadau
DoLS yn risg ond byddai blaenoriaethu’r gwaith yn cael effaith ar restrau aros
eraill. Roedd rhaid pwyso a mesur a bod yn rhesymegol;
·
Nad oedd ateb delfrydol
ond fe roddir blaenoriaeth i achosion brys. Adnabyddir yr achosion risg uchel
ac ymateb iddynt. Pwysleisio bod y rhan fwyaf ar y rhestr aros am asesiadau
DoLS yn rhai ail-ymweld.
Nododd y Rheolwr Archwilio bod amserlen ail
asesiad yn gallu amrywio gyda rhai achosion yn teilyngu ail asesiad o fewn mis
o’r asesiad gwreiddiol yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn. Ychwanegodd bod y
Cyngor yn cynnal hyfforddiant ar gyfer cartrefi preswyl preifat gan arwain at
gynnydd mewn nifer o gyfeiriadau am asesiadau DoLS felly roedd yn anorfod bod y
rhestr aros yn mynd i gynyddu.
Ategodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant y sylwadau uchod gan nodi bod anghenion yn gallu newid a pan fo un
achos yn codi mewn rhai cartrefi preswyl preifat bod oddeutu 30 cais am asesiad
DoLS yn cael eu cyflwyno, unwaith roeddent yn cael eu cyflwyno roedd angen
rhoi’r sylw priodol iddynt.
PENDERFYNWYD:
(i)
derbyn yr
adroddiad;
(ii)
bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau yn derbyn diweddariad gan yr Uwch
Reolwyr perthnasol o fewn 6 mis ar drefniadau
DoLS.
Dogfennau ategol: