Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyflwyno adborth o gyfarfod y Gweithgor ar 23 Hydref 2017.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad Is-Gadeirydd y Pwyllgor
ar gyfarfod o’r gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017 i ystyried
archwiliad ‘Plas Maesincla’ a dderbyniodd categori barn B ynghyd ag
archwiliadau a dderbyniodd gategori barn C, sef -
a)
Tan y Marian
b)
Plas Ogwen.
Gwahoddwyd swyddogion i fynychu’r cyfarfod
er mwyn trafod y materion oedd yn codi o’r archwiliadau a’r gwaith a wnaed ers
cyhoeddi’r adroddiadau archwilio er mwyn cryfhau’r rheolaethau mewnol dan sylw.
Adroddwyd yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor
yng nghyfarfod 28 Medi, bu i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a
Phennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fynychu cyfarfod y Gweithgor i
ystyried y themâu a amlygwyd yn gyson o archwiliadau ar Gartrefi Preswyl.
Cyfeiriodd aelod at baragraff 2.7.9 o’r
adroddiad “Mynegodd y Pennaeth Oedolion Iechyd a Llesiant bod 7 allan o 11 o
gartrefi Cyngor Gwynedd wedi derbyn sylwadau neu argymhellion gan AGGCC o safbwynt eu lefelau staffio. Mae
2 allan o’r 7 yn ddiffyg cydymffurfiaeth. Disgwylir y bydd 10 allan o 11 yn
derbyn sylwadau am eu lefelau staffio - yr unig eithriad yw Plas Maesincla.”
Holodd beth a wneir i ymateb i hyn.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Oedolion,
Iechyd a Llesiant y derbyniwyd ychwaneg o adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Cyfeiriodd at un cartref preswyl a
oedd yn cyd-fynd â’r gofynion o ran lefelau staffio oherwydd bod gwlâu yn cael
eu cadw’n wag. Eglurodd bod absenoldebau mamolaeth staff a dwysedd anghenion 2
unigolyn yn golygu bod rhaid cadw’r gwlâu’n wag er mwyn cydymffurfio o ran
lefelau staffio. Nododd bod un cartref preswyl arall wedi gwneud newidiadau i
ddelio efo’r materion yn codi o archwiliad yr AGGCC a bod hynny’n anorfod yn arwain at orwariant.
Ymhelaethodd y Pennaeth ei fod wedi bod
gerbron cyfarfod y Cabinet ar 21 Tachwedd 2017 i drafod gorwariant yr Adran.
Nododd nad oedd rota staffio cartrefi preswyl wedi esblygu i ymateb i’r
niferoedd cynyddol o unigolion sy’n dod i gartrefi preswyl efo anghenion dwys.
Eglurodd bod gwaith archwilio mewnol yn codi materion sydd angen sylw a oedd yn
beth da er mwyn gallu ymateb a sicrhau ansawdd gwasanaeth. Nododd bod angen
newid trefniadau meddyginiaeth yn y cartrefi a bod bid yn mynd trwy’r broses
bidiau ar hyn o bryd yng nghyswllt cynyddu rota. Cadarnhaodd y rhoddir mwy o
adnoddau mewn rhai cartrefi preswyl i ymateb i broblemau penodol a bod rhaid
gwneud dewisiadau gyda Rheolwyr a Dirprwy Reolwyr yn blaenoriaethu gwaith ar
lawr y cartrefi yn hytrach na chwblhau gwaith gweinyddol ond bod hyn yn medru
arwain at feirniadaeth gan archwilwyr allanol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed
gwlâu gwag, nododd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant bod gwlâu oedd ar
gael yng nghartrefi preswyl y Cyngor yn amrywio o 21 i 40. Roedd y cartref
preswyl a gyfeiriwyd ato efo tua 30 gwely gyda 6 yn wag a rhestr aros o rhwng
10 i 15 unigolyn. Nododd y gellir efallai darparu gofal mewn ffordd arall a bod
angen y capasiti yn y cartref ar gyfer unigolion efo anghenion mwy dwys.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: