skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu rhai materion ariannol gan gynnwys adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 21 Tachwedd 2017. Nododd bod cydweithio agos rhwng yr Adran Gyllid a’r Adrannau i sicrhau rheolaeth gadarn. Eglurodd bod yr Aelodau Cabinet perthnasol a Phenaethiaid yr Adrannau a oedd yn gorwario, yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet i drafod y sefyllfa. Manylodd ar gynnwys cofnodion cyfarfod y Cabinet a rannwyd gyda’r aelodau yn y cyfarfod.

 

         Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Byddai’n rhaid i’r aelod gysylltu efo Pennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cadarnhad o’r ganran a dderbynnir wrth werthu deunydd ailgylchu. Eglurwyd bod y prisiau a dderbynnir am ddeunyddiau ailgylchu wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar ac nid oedd hyn yn unigryw i’r Cyngor hwn;

·        Bod y rhesymau am y gorwariant wedi eu nodi yn yr adroddiad ac nid oedd yn golygu diffyg darparu gwasanaethau;

·        Nad oedd y ffigyrau o ran faint oedd wedi manteisio ar y cyfle i gael hyd at 4 bin gwastraff gardd yn hysbys iddynt, fe ddylai’r aelod gysylltu efo Pennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cadarnhad. Eglurwyd bod y ffi a godir am gasgliadau gwastraff gardd yn golygu fod dewis preswylwyr os i’w dderbyn am fod yn gost niwtral i’r Cyngor, ac yn golygu arbediad os oedd preswylwyr yn manteisio ar y ddarpariaeth neu ddim. Nodwyd yn dilyn penderfyniad y Cyngor Llawn, yn sgil ymgynghoriad Her Gwynedd, i leihau amlder torri gwair roedd Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn gorwario oherwydd bod yr Adran yn torri gwair yn fwy aml na hyn a benderfynwyd;

·        O ran rhagweld costau cludiant yn yr Adran Addysg oherwydd plant yn symud i mewn i’r ardal, nodwyd yr anawsterau a oedd yn golygu ei fod yn anodd rhagweld. Gellir darogan patrwm nifer disgyblion i’r Uwchradd o’r Cynradd yng nghyswllt cludiant, ond bod eithriad o ran disgyblion anghenion dysgu ychwanegol pan fo’r ysgol leol ddim efo’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol. Golygai bod disgyblion yn teithio’n bellach, gyda nifer yn teithio o Dde Meirionnydd i Ysgol Hafod Lon. Nodwyd bod yr Adran Addysg a’r Adran Amgylchedd i ystyried y mater gyda golwg ar ddarganfod datrysiadau amgen;

·        Bod gostyngiad yn y grant roedd y Cyngor yn ei dderbyn ar gyfer darparu brecwast am ddim mewn Ysgolion, o ganlyniad roedd y Cyngor yn codi ffi o £4 yr wythnos am yr elfen gofal yn y bore er mwyn galluogi parhau efo’r ddarpariaeth oedd ar gael mewn rhai ysgolion;

·        Mewn cyd-destun, gwariant gros dros £5m, nid oedd y gorwariant o £146,000 o dan y pennawd ‘Arlwyaeth a Glanhau’ yn yr Adran Addysg yn swm enfawr,

·        Bod y Cynghorwyr a’r Cyngor yn ymwybodol o’r sefyllfa ariannol a bod cynllunio ariannol doeth y Cyngor hwn yn cael ei gydnabod fel ymarfer dda gan Swyddfa Archwilio Cymru ac eraill.  

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.

Dogfennau ategol: