I dderbyn diweddariad llafar gan Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE ar y materion canlynol:
· Fframwaith Arolygu newydd ESTYN – goblygiadau i weithdrefnau monitro CYSAG Gwynedd
· Cwricwlwm am Oes– ymateb i argymhellion “Dyfodol Llwyddiannus”
Cofnod:
(a) Ffurflen Hunan Arfarniad
Drafft
Cyfeiriodd yr
Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE at dudalennau 32-33
yn y Rhaglen a oedd yn cynnwys
ffurflen hunan arfarniad a anfonir at ysgolion i’w cyflwyno
ar gyfer monitro gan CYSAG
Atgoffwyd yr
Aelodau bod Fframwaith Arolygu
ESTYN wedi newid ers Medi 2017, mewn cydweithrediad â chydweithwyr a swyddogion CYSAG, roedd yr Ymgynghorydd
Cefnogi Gwelliant GwE wedi addasu’r ffurflen
ac fe gyflwynwyd y drafft i’r Aelodau, er canfod eu
barn o’r cynnwys.
Eglurwyd bod maes
arolygu 1 yn y Fframwaith newydd yn cyfeirio at safonau addysg grefyddol gan ofyn
pa mor dda mae’r disgyblion yn gwneud cynnydd mewn addysg grefyddol,
sef bod yn ymwybodol o safonau’r disgyblion.
Cyfeiria’r ail faes at Les ac agweddau
at ddysgu - efallai bod
CYSAG yn awyddus i wybod sut
mae disgyblion yn teimlo tuag
at addysg grefyddol yn yr Ysgol, a ydynt yn mwynhau’r
pwnc ac yn cyfrannu at eu datblygiad at ddinasyddion llwyddiannus
Ym maes
arolygu 3 cyfeirir at brofiadau mae plant yn cael. Rhoddir cyfle i gyfeirio
at y gwersi -
a yw’r disgyblion yn cael croestoriad
o grefyddau, ydynt yn mynd ar
ymweliadau a fyddai yn helpu plant i wella addysg
grefyddol.
O safbwynt Gofal, cymorth ac arweiniad mewn addysg grefyddol – h.y. beth yw
effaith yr addysg grefyddol, gofynnir i ysgolion
nodi i ba
raddau mae addysg grefyddol yn dod a chymuned
at ei gilydd, a yw’r disgyblion yn cael profiadau
eang yn eu
cymunedau.
Yng nghyd-destun
Arweinyddiaeth a rheolaeth,
gofynnir i ba raddau mae
athrawon yn craffu ar addysg
grefyddol, a ydynt yn adnabod y cryfderau
a gwendidau i sicrhau bod addysg grefyddol yn gyson
dda.
Gofynnwyd am farn
y Pwyllgor o gynnwys y ffurflen
ddrafft uchod ac mewn ymateb amlygwyd
y pwyntiau canlynol:
(a) Y byddai’r ffurflen yn cael
ei throsglwyddo i Benaethiaid pwnc
i’w chwblhau ac nid o reidrwydd yn cael ei
chwblhau gan Bennaeth ysgol
(b) Bod y gofyn yn ormod eleni
wrth i Benaethiaid
orfod ddygymod â’r Fframwaith Arolygu newydd. Gwyntyllwyd y syniad i gadw’r
ffurflen yn ôl am flwyddyn gan fod Penaethiaid
yn gorfod ymdopi hefo trefn
newydd beth bynnag.
(c)
A
yw’r cwestiynau braidd yn gyffredinol,
h.y. pa dystiolaeth fydd yn cael
ei ddefnyddio i ymateb i’r
cwestiynau ac a yw hunan ddatblygiad y plentyn yn cael
ei golli?
(d) Bod pob
pwnc arall yn cael eu
bandio o fewn chwarteli yn CA3 heblaw addysg grefyddol. Fodd bynnag cyflwyna ysgolion ddata i GwE ond nid
oedd yn hawdd
tracio ar lefel ehangach.
(e) Nad oedd
addysg grefyddol yn cael sylw
pob blwyddyn mewn ysgolion cynradd
fel hunan arfarniad pynciol
Nododd un aelod
y byddai’n barod i gwblhau’r ffurflen
ar ran Ysgol Eifionydd.
Penderfynwyd: Y byddir
yn rhoi dewis
i ysgolion pa ffurflen i’w chwblhau
ond efallai dewis ambell Ysgol i’w dreialu yn
y flwyddyn newydd.
(b) Cwrs TGAU Astudiaeth Grefyddol
Newydd
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r diffyg mewn
gwerslyfrau i’r cyrsiau TGAU a Safon Uwch sef bod y llyfrau yn hwyr
yn cael eu
cyhoeddi, bron i flwyddyn ar
ôl cychwyn y cwrs sydd yn
ychwanegu at bwysau gwaith athrawon.
Cyfeiriwyd bod llythyr wedi ei anfon ar
23 Mehefin 2017 at Gydbwyllgor
Addysg yn mynegi pryder a chais i sicrhau
bod ysgolion yn derbyn adnoddau cyfrwng Cymraeg mewn da bryd, ond
ni dderbyniwyd ymateb.
Mynegwyd pryder
pellach bod athrawon yn mynd i
gael ei beirniadu
yn y canlyniadau.
Penderfynwyd: Gofyn
i’r Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol:
(a) Anfon llythyr i’r Gweinidog dros Addysg ynghyd â’r
Comisiynydd Iaith Gymraeg i ddatgan
pryder o’r sefyllfa uchod.
(b) Gyfeirio’r mater er sylw pellach gan Bwyllgor
Craffu Addysg ac Economi’r Cyngor.
(c)
Addysg Grefyddol a’r cwricwlwm newydd
Adroddodd yr Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant GwE ar gyfer paratoi
at y cwricwlwm newydd fod grŵp o ysgolion arloesi sydd yn gyfrifol
am ddatblygu’r cwricwlwm Dyniaethau wedi ymchwilio i gwricwla
gwledydd eraill ac wedi derbyn arweiniad
gan arbenigwyr allanol. Nodwyd ymhellach bod y Llywodraeth wedi comisiynu arbenigwyr i baratoi papurau
ar “yr hyn
sy’n bwysig” mewn addysg grefyddol
(Barbara Wintersgill), hanes
(Dr Elin Jones), Daearyddiaeth (Elinor
Rawling) a busnes (Prifysgol Caerdydd). Comisiynwyd Cymdeithas CYSAGau Cymru i baratoi
adroddiad hefyd a nododd Miss Bethan James ei bod wedi cyfrannu at y gwaith hwn. Nodwyd bod Barbara Wintersgill wedi adnabod 6 syniad megis:
1.
Parhad, Newid ac Amrywiaeth / Continuity, Change and Diversity
2.
Geiriau a Thu Hwnt /
Words and Beyond
3.
Bywyd Da / A good Life
4.
Gwneud Synnwyr o Brofiadau Bywyd / Making Sense of
Life’s Experiences
5.
Dylanwad, Cymuned, Diwylliant a Phwêr / Influence, Community, Culture and Power
6.
Y Darlun Mawr / The Big Picture
Roedd Gweithgor Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi
adnabod 3 peth pwysig:
1.
Ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd a’r cwestiynau a godir ohonynt
2.
Credoau, dysgeidiaethau
ac ymarferion
3.
Archwilio ac ymatebion personol
ac fe fyddir yn
cyflwyno adroddiad i’r Grŵp Dyniaethau
ar 13 Tachwedd.
(ch) E-gylchgrawn Addysg Grefyddol
Nodwyd bod rhifyn 4 yn ymwneud
â’r amgylchedd ar wefan HWB.
Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch i’r Ymgynghorydd
Cefnogi Gwelliant GwE am y diweddariad uchod.