Agenda item

(a)       Aelod Lleol:

 

1. Adroddiad ar y 'barrier'

2. Dyfodol y pontwn

3 .Cais am 'ardal weithgareddau wedi ei rhaffu i ffwrdd'

4. Cais i cynnal cystadleuath lleol i dylunio (ac adeiladu) 'caban traeth' unigryw i Bermo (yn lle defnyddio storage container haearn, fel yr arfer).

5. Statws adnoddau(peiriannau ayyb) y harbwr

6. Diffyg presenoldeb ar dyddiau digwyddiadau.

 

 

(b)       Cyngor Tref Abermaw:

 

1.    Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch yr harbwr

2.    Ffrydiau incwm

3.    Parcio ar y ffordd ger y Compownd

 

(c)       Cyngor Cymuned Arthog

 

1.    Y diweddaraf am reoli Pwynt Penrhyn

2.    Llithrfa De Penrhyn Drive

 

 

(ch)     Clwb Hwylio Meirionnydd:

 

1.    Trafod man ymdrochi agored o fewn ardal yr harbwr

2.    Ychydig iawn o le sydd i gychod ‘Fin Keel’

3.    Posib defnyddio matin sgwrio concrid i unioni’r disgyniad yng ngwaelod y llithrfa.

 

 

(d)       Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw:

 

1.    Pontŵntrosglwyddiad cyfrifoldeb a chynnal a chadw

2.    Angorfeyddmynd ag angorfeydd i’r lan bob gaeaf.

3.    Parth Gwahardd Cychod Pŵer / Cychod Dŵr Personoladfer y bwiau i farcio’r parth ymdrochi i sicrhau lle mwy diogel i ymdrochi

 

 

 

 

 

Cofnod:

(a)          Cais am ardal weithgareddau wedi ei rhaffu i ffwrdd

Adroddod y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cais ar gyfer dynodi ardal weithgareddau wedi ei rhaffu ffwrdd yn yr harbwr ar gyfer defnydd gweithgareddau hamdden. 

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo i ymchwilio i’r mater gan ofyn i’r unigolion a wnaed y cais gysylltu â’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod eu syniadau ymhellach.

 

(b)          Cais i gynnal cystadleuaeth lleol i ddylunio (ac adeiladu) “caban traeth” unigryw i Abermaw

Adroddod y Cadeirydd bod angen rhywbeth mwy esthetig na’r hyn sydd yn bodoli’n barod ac a fyddai o fudd twristiaeth. 

 

Penderfynwyd:          Cymeradwyo’r syniad mewn egwyddor ac i unigolion sydd â diddordeb yn yr uchod i gysylltu gyda’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod ymhellach unrhyw syniadau a ddaw i law.

 

(c)          Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch yr Harbwr

Derbyniwyd cwyn gan aelod o’r cyhoedd am gelfi pysgota ar yr harbwr ac nad oedd lle i’r plant ddal crancod.  Nodwyd bwysigrwydd i’r pysgotwyr gadw celfi pysgota yn y compownd.

 

Penderfynwyd:          Gofyn i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drafod gyda’r pysgotwyr i sicrhau bod y cawelli yn cael eu cadw gan adael bwlch i bobl fedru cerdded o’u hamgylch.

 

(ch)     Ffrydiau Incwm

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw fodd i fedru cynyddu incwm i’r harbwr?  Nodwyd bod llawer mwy o ganŵs a caiacs i’w gweld ac a oedd yr awdurdod yn codi ffi arnynt? 

 

Mynegodd aelod bod cymaint o fynd a dod gan gychod yn ardal yr Harbwr ac y byddai cynyddu defnydd yn y dŵr o amgylch yr harbwr yn creu risg o ddiogelwch.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y ceisir annog gweithgareddau yn yr Harbwr ond ni chodir ffi gan na fyddai’n gost effeithiol yn wyneb y ffaith y byddai’n costio mwy i weinyddu’r trefniadau o gasglu’r ffioedd.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(d)          Parcio ar y ffordd ger y compownd

Nodwyd y byddai’r contractwyr yn cael cynnig cyntaf o ran parcio ar y tir uchod.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(dd)     Cynnal a chadw angorfeydd a ffurflenni adrodd yn ôl

 

Adroddwyd y byddir yn trafod y mater uchod gyda’r staff perthnasol ym mis Tachwedd i’w wyntyllu.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(e)          Y diweddaraf am reoli Pwynt Penrhyn

Adrododd y Cyng. Julian Kirkham ar yr hyn drafodwyd yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Arthog yn ddiweddar a’u bod yn gwneud cais i Adran Priffyrdd y Cyngor am gymorth ar gyfer:

  • Paentio mannau parcio wrth y man troi a’r man pasio
  • Gosod peiriant talu ac arddangos yn yr ardal barcio, gyda'r ysgrifen canlynol i’w gynnwys ar yr arwyddion taliadau "Mae arian o'r peiriant talu ac arddangos hwn yn mynd i gadw toiledau'r Friog ar agor”
  • Gosod rhwystr cyfyngiad uchder cryf. Byddai angen gosod arwyddion rhybudd ar y ffordd i'r Friog ac ar Ogledd Penrhyn Drive  hefyd, er gwybodaeth i yrrwyr cerbydau mawr
  • Atgyweirio arwydd "Cadw'n Glir" ar ben y ffordd i lawr i'r giât.
  • Gyda chaniatâd y Swyddog Morwrol, gosodwyd giât i gau’r ardal ar frig y llithrfa er mwyn atal faniau, ac ati, barcio yn y ffordd lle mae pobl yn lansio cwch
  • Arwydd wedi'i wneud yn arbennig i ddisodli'r un dros dro.
  • Nodwyd ymhellach bod y trigolion o’r farn nad yw perchnogion faniau gwersyll yn cyfrannu ychydig neu ddim i economi leol yr ardal, ac maent yn dueddol i gymryd dau le parcio ac yn anwybyddu'n llwyr rhybudd y Cyngor "Dim Aros Dros Nos" ac yn waeth na hynny nid oes unrhyw gyfleusterau toiledau ym Mhwynt Penrhyn.  Nodwyd ymhellach bod  Rheilffordd Fairboure wedi gosod gatiau i ddiogelu mynediad i’r twnel.  Teimla’r Cyngor Cymuned yn gryf bod angen gwarchod yr amgylchedd ac wrth geisio eu cyfyngu i barcio lle nad oes cyfleusterau ar eu cyfer byddai’r problemau yn lleihau.   

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, tra’n derbyn bod yr uchod yn rhwystredig nid oedd gan y Gwasanaeth Morwrol unrhyw bwerau cyfreithiol i symud y faniau gwersylla. 

 

 

     Penderfynwyd:     Derbyn a nodi’r uchod.

 

(f)     Llithrfa De Penrhyn Drive

Nodwyd bod Cyngor Cymuned Arthog o’r farn mai’r peth olaf sydd angen yn y lleoliad hwn yw llithrfa.  Byddai hyn yn ymestyn ei ddefnydd i ganiatáu i gerbydau gael mynediad anghyfyngedig i'r blaendraeth. Yn gyffredinol, mae'r rhan honno o Fairbourne yn draeth diogel, ac yn lle diogel i nofio. Byddai cerbydau sy'n gwibio i fyny ac i lawr yn beryglus iawn i'r cyhoedd ac yn gyfle i lansio cychod a badau dwy personol heb ganiatâd.

Gofynnir am fynediad i gerddwyr yn unig ar ffurf hyd o, e.e. mat cnau coco, ond lled cwpl o goets babanod neu debyg er mwyn i deuluoedd allu cyrraedd y traeth. Byddai angen arwydd ee. “ddim yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn” i’w osod yn y lleoliad. Byddai gosod llwybr “igam ogam”  yn amhosibl oherwydd symudiad y graean bas.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod cwch bwrpasol ar gael yn yr Harbwr ar gyfer mynd allan i Pwynt Penrhyn i sicrhau nad oes unrhyw gychod yn lansio oddi yno.

 

O safbwynt y ramp, tra’n derbyn bod angen gwneud gwelliannau yno, eglurwyd bod llawer o symudiadau ar y traeth ond fe fyddir yn trafod y mater ymhellach gyda Mr Julian Kirkham.

 

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(g)  Ychydig iawn o le sydd i gychod

Nodwyd bod llai o le ar gael i gychod “Fin Keel”.

 

(h)  Posib defnyddio matin sgwrio concrid i unioni’r disgyniad yng ngwaelod y llithrfa

 

Mewn ymateb, nododd yr Harbwr Feistr y byddai’n ystyried opsiynau i’r awgrym uchod. 

 

Penderfynwyd:   Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(i)     Angorfeydd – cais i fynd a’r angorfeydd i’r lan bob gaeaf

Pryderai Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw am nifer yr angorfeydd sydd wedi methu yn yr harbwr y tymor hwn. O ganlyniad, nid yn unig bod effaith hyn yn ymwneud â diogelwch ond hefyd gydag effeithiau posib ar bremiynau yswiriant i’r dyfodol.  Gofynnwyd a ddylid tynnu’r angorfeydd i’r lan bob gaeaf, fel a wneir yn Aberdyfi ac a fyddai’n syniad adfer y bwiau i farcio’r ardal ymdrochi eto?

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn ddelfrydol y dylai’r uchod ddigwydd ond ei fod yn anodd yn Abermaw oherwydd ansawdd gwaelod y môr a’r ffaith nad oedd digon o le i’w cadw yn ddiogel.

 

Ychwanegodd yr Harbwr Feistr bod angorfeydd Aberdyfi yn llawer iawn llai ac yn ysgafnach ac yn draddodiadol roedd rhai Abermaw wedi cael eu gadael am y gaeaf.  Rhagwelir anhawster ychwanegol yn y trefniadau o’u gosod yn ôl ac i dderbyn y gwaith gweinyddol angenrheidiol ar eu cyfer.

 

Gellir annog cwsmeriaid i’w codi ond ni ellir eu gorfodi a rhaid ceisio gwella safon ac ansawdd yr angorfeydd sydd yna’n barod.  Apeliwyd ar y mudiadau i bwysleisio wrth defnyddwyr bod angen eu harchwilio yn rheolaidd.

 

      Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(j)    Parth Gwahardd Cychod Pwêr / Cychod Dŵr Personol

Nodwyd ar un adeg bod llinell o fwiau oddi ar daeth Abermaw yn marcio parth gwahardd i gychod pŵer gan felly sicrhau lle mwy diogel i ymdrochi.  Os oes bwiau yno ai peidio, byddai unrhyw forwr doeth sy’n gyfrifol am gwch un ai yn cadw yn ddigon pell o’r ardal yma neu’n mynd ymlaen yn ofalus iawn.  Yn anffodus nid yw pawb yn gwneud hyn.  A oes achos felly dros adfer y bwiau i farcio’r parth ymdrochi?

 

Mewn ymateb, nid oedd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig o’r farn y byddai adfer y bwiau yn gwneud cymaint o wahaniaeth yn Abermaw ac nad oedd risg i’r cyhoedd. 

 

     Penderfynwyd:     Derbyn a nodi’r uchod.

 

(a)  Angorfeydd i’r cychod hwylio “Keel”

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Rob Triggs, awgrymwyd y dylai ef, yr Harbwr Feistr, Mr Mike Ellis a Mr Dave Niven drafod y mater ymhellach.

 

Penderfynwyd:    Derbyn a nodi’r uchod.