skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer isbwerdy newydd, cyfarpar cysylltiol, tirweddu a ffordd mynediad newydd

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Stephen W. Churchman

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

         Cais ar gyfer is-bwerdy newydd, cyfarpar cysylltiol, tirweddu a ffordd mynediad newydd.

 

(a)  Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle i’r de-ddwyrain o Fryncir ar dir gymharol wastad ac yn cynnwys caeau pori gydag ardal o laswelltir corsiog.  Nodwyd bod llinell drydan uwchben 400kv Pentir – Trawsfynydd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol y safle a cheir mynediad o’r gogledd drwy ffordd fynediad fferm.  Ceir Llwybr Troed Cyhoeddus yn mynd drwy’r safle a bydd angen ei wyro i hwyluso’r is-orsaf. Golygir addasu’r fynedfa newydd o’r brif gefnffordd (A487) er mwyn hwyluso traffig adeiladu fynd i mewn ac allan o’r safle. 

 

Cyfeiriwyd at y polisïau perthnasol ynghyd â’r ymgynghoriadau cyhoeddus a thynnwyd sylw at sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd a oedd yn datgan y byddai angen gosod amod cynllunio statudol yn ymwneud â chyflwyno cynllun ac adroddiad o waith archeolegol.  Yn ogystal, dosbarthwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod e-bost gan yr Aelod Lleol a oedd yn datgan nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r cais mewn egwyddor ac yn derbyn ei bwysigrwydd strategol, ond y byddir yn croesawu mesurau lliniarol ar gyfer oriau gwaith er mwyn lleihau unrhyw ardrawiad i’r cymdogion.  Nodwyd hefyd, nad oedd gan y Cyngor Cymuned unrhyw wrthwynebiad. 

 

 

Adnabuwyd safle’r cais fel y lleoliad ffafriol i’r is-orsaf newydd allan o restr fer o ddewisiadau lleol. Ystyrir bod yr angen wedi ei brofi ac egwyddor y bwriad a dewis o lleoliad yn dderbyniol.

 

Ystyria’r swyddogion cynllunio bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt mwynderau gwledol, cyffredinol a phreswyl.  O safbwynt materion trafnidiaeth gellir cymeradwyo’r cais yn amodol i amod cynllunio sy’n gofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw i’r newidiadau i’r fynedfa i’r gefnffordd a chyflwyno Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu cyn gall y datblygiad ddechrau.  Ystyrir bod materion bioamrywiaeth yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amod priodol.

 

Yn dilyn yr holl ystyriaethau cynllunio, ni ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisïau perthnasol ac ni fyddai’r bwriad yn cael unrhyw effaith niweidiol yn hir dymor ac felly argymhellwyd i’w ganiatáu yn unol â’r amodau a restrir yn yr adroddiad yn ogystal â’r amodau ychwanegol canlynol:

·         Amod sicrhau gwyro / gwarchod y llwybr

·         Amod Archeolegol

·         Amod amser gweithio

 

(b)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatáu’r cais.

 

(c)   Nododd Aelod na fyddai’n cefnogi’r cais hwn,   o ystyried y peilonau, meliynau gwynt, gwaith trin dŵr a fodolai’n barod ac sy’n hagru’r ardal, gyda’r cais hwn yn ychwanegiad at y diwydiannau hynny.  

 

Penderfynwyd:          Caniatáu gyda’r amodau canlynol:

 

1.         5 mlynedd

2.         Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd.

3.         Gorffeniad i'w gytuno (gan gynnwys lliw y ffens)

4.         Cytuno cynllun i waredu dŵr brwnt a dŵr wyneb

5.         Cytuno cynllun rheoli amgylcheddol adeiladu

6.         Cytuno cynllun rheoli traffig adeiladu a derbyn cymeradwyaeth Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar faterion mynediad (ac unrhyw amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i hyn).

7.         Cwblhau’r tirweddu o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn cwblhau’r bwriad.

8.         Sicrhau gwyro / gwarchod y llwybr

9.         Amod Archeolegol

10.       Amser Gweithio

 

Nodyn Dŵr Cymru

 

 

Dogfennau ategol: