Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro.
Cofnod:
Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Monitro yn
gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar dri chais am oddefeb cyffredinol
gan aelodau ardal Bangor mewn cysylltiad ag adolygiad o ddarpariaeth addysg yn
ardal Bangor y mae’r Cyngor yn ei gynnal.
Cyn ystyried y ceisiadau unigol, rhoddodd y Swyddog Monitro amlinelliad
o’r broses trefniadaeth ysgolion. Atgoffodd y Pwyllgor ei fod wedi gosod
canllawiau i’w hun ar gyfer ymdrin â cheisiadau o’r fath ac wedi caniatáu
goddefebau yn y gorffennol i alluogi aelodau i gymryd rhan mewn trafodaethau
lleol.
Datganodd Aled Jones (Aelod Annibynnol) fuddiant yn y mater a gadawodd
y cyfarfod.
Manylwyd ar y tri chais yn unigol, sef:-
·
Cais gan
y Cynghorydd Dafydd Meurig, yn gofyn am hawl i siarad yn unig oherwydd bod ei
chwaer yn gweithio i Feithrinfa Caban y Faenol Cyf, sydd wedi ei leoli ar dir
Ysgol y Faenol, Bangor. Mae yn Aelod
Lleol dros Arllechwedd, a bydd yn cynrychioli buddiannau’r ysgol sydd yn ei
ward, sef Ysgol Llandygai. Byddai
buddiant yn codi pe bai trafodaeth ar fater a fyddai’n debygol o effeithio ar
Feithrinfa Caban y Faenol yn benodol.
·
Cais gan y Cynghorydd Elin Walker Jones, yn gofyn am hawl i siarad
yn unig oherwydd ei bod yn Llywodraethwraig yn Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan
(efo cyfrifoldeb am anghenion addysgol arbennig) a hefyd yn rhiant efo dau blentyn
yn Ysgol Tryfan, ac yn gyn-riant yn Ysgol y Garnedd. Eglurwyd mai’r ffaith ei
bod yn rhiant â phlant yn Ysgol Tryfan oedd yr unig gysylltiad oedd yn arwain
at fuddiant sy’n rhagfarnu.
·
Cais gan y Cynghorydd Menna Baines, yn gofyn am
hawl i siarad yn unig oherwydd bod ganddi blant sy’n ddisgyblion yn Ysgol
Tryfan ac yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol y Garnedd. Mae hefyd yn Llywodraethwr ar Ysgol y Faenol.
Eglurwyd mai’r ffaith ei bod yn rhiant â phlant yn Ysgol Tryfan oedd yr unig
gysylltiad oedd yn arwain at fuddiant sy’n rhagfarnu.
Ystyriwyd a phleidleisiwyd ar y tri fesul un
a chafwyd o blaid caniatáu’r tri chais am oddefeb ar yr un telerau ac y
caniatawyd ceisiadau o’r fath yn y gorffennol.
PENDERFYNWYD
1.
Caniatáu goddefeb ynglŷn â’r buddiant i’r
Cynghorydd Dafydd Meurig i
siarad, ond nid i bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor, mewn
perthynas â’r broses o adolygu darpariaeth addysg ardal Bangor, ond na chant
siarad, na bod yn bresennol na phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet
nac unrhyw un o’i bwyllgorau a’i bod yn ofynnol iddynt ddatgan yn glir ymhob
cyfarfod y maent yn cymryd rhan ynddo eu bod wedi cael goddefeb, gan egluro
union natur y cyfyngiadau arnynt, a bod hynny’n cael ei nodi yng nghofnodion y
cyfryw gyfarfodydd.
2.
Caniatáu goddefeb ynglŷn â’r buddiant i’r
Cynghorydd Elin Walker Jones i siarad, ond nid i
bleidleisio, mewn cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor, mewn perthynas â’r
broses o adolygu darpariaeth addysg ardal Bangor, ond na chant siarad, na bod
yn bresennol na phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un
o’i bwyllgorau a’i bod yn ofynnol iddynt ddatgan yn glir ymhob cyfarfod y maent
yn cymryd rhan ynddo eu bod wedi cael goddefeb, gan egluro union natur y
cyfyngiadau arnynt, a bod hynny’n cael ei nodi yng nghofnodion y cyfryw
gyfarfodydd.
3.
Caniatáu goddefeb ynglŷn â’r buddiant i’r
Cynghorydd Menna Baines i siarad, ond nid i bleidleisio, mewn
cyfarfodydd dan nawdd y Cyngor, mewn perthynas â’r broses o
adolygu darpariaeth addysg ardal Bangor, ond na chant siarad, na bod yn
bresennol na phleidleisio mewn cyfarfod o’r Cyngor, Cabinet nac unrhyw un o’i
bwyllgorau a’i bod yn ofynnol iddynt ddatgan yn glir ymhob cyfarfod y maent yn
cymryd rhan ynddo eu bod wedi cael goddefeb, gan egluro union natur y cyfyngiadau
arnynt, a bod hynny’n cael ei nodi yng nghofnodion y cyfryw gyfarfodydd.
Dogfennau ategol: