Agenda item

Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod yn dŷ fforddiadwy.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Adeiladu 5 o dai unllawr gydag un i fod yn dŷ fforddiadwy.

        

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod tir cyffiniol i’r gorllewin, oedd hefyd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10 o dai annedd deulawr. Eglurwyd fel rhan o’r caniatâd roedd bwriad i gadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd a bod amod ar ganiatâd cynllunio C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma yn cael ei ddefnyddio fel rhandiroedd.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin ddatblygu Nefyn a’i fod wedi ei glustnodi fel llecyn agored / cae chwarae i’w warchod yn y CDLl gyda’r safle yn y gorffennol wedi ei ddefnyddio fel rhandiroedd. 

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd yr ystyriwyd y bwriad o ran Polisi ISA 4 o’r CDLl a oedd yn ymwneud â diogelu llecynnau agored presennol. Adroddwyd fel rhan o’r cais cyflwynwyd dogfen Crynodeb o Dystiolaeth ar Lecyn Agored. Roedd yr asiant hefyd fel rhan o’r cais wedi crynhoi’r wybodaeth a gasglwyd fel rhan o’r Datganiad Cynllunio, Dyluniad a Mynediad. Cafodd y wybodaeth yma eu paratoi gan yr asiant ac roedd yn crynhoi’r broses ac ymdrechion yr ymgeisydd i ganfod tystiolaeth o’r galw am randiroedd yn Nefyn.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi gwneud arolwg o’r rhandiroedd yn Y Ddôl er mwyn asesu faint o’r 21 oedd mewn defnydd yn Medi 2016. O’r wybodaeth a gyflwynwyd dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd cynllunio oedd yn cael eu defnyddio. 

 

Gan fod yr ymgeisydd wedi cael ar ddeall drwy lythyr gan Gyngor Tref Nefyn fod problemau draenio ar safle rhandiroedd Y Ddôl bu iddo geisio mynediad i safle’r Ddol i asesu’r anghenion draenio ac i weld os oedd modd eu datrys. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan ei fod yn parhau i fod yn barod i asesu draeniad y tir i weld os gall gynorthwyo i wella’r rhandiroedd ar safle’r Ddôl petai’r cyfle yn codi.

 

Gellir gweld fod y sefyllfa o ran rhandiroedd yn Nefyn wedi newid ers i’r cais am y 10 tŷ gael ei ganiatáu gyda chaniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer 21 o randiroedd ar safle’r Ddol.  Ymddengys o’r wybodaeth a gyflwynwyd nad oedd y rhandiroedd yma wedi eu llenwi ac er bod o bosibl resymau dros hyn roedd potensial yma ar gyfer 21 o randiroedd. Deallir fod y tir yma ar les i Gyngor Tref Nefyn gan Gyngor Gwynedd am 15 mlynedd o Hydref 2014.

 

Nodwyd bod cynnwys Nodyn Cyngor Technegol 16 yn nodi na ellir cael yr un math o warchodaeth i randiroedd mewn perchnogaeth breifat ac a fyddai ar gyfer rhai oedd yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol. Ystyrir fod ymdrech deg wedi ei wneud gan yr ymgeisydd i geisio gwybodaeth am yr anghenion o safbwynt darpariaeth rhandiroedd yn Nefyn a hefyd i geisio cyfrannu tuag at wella’r cyfleusterau ar safle’r Ddol.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan y byddai’n fodlon arwyddo cytundeb 106 yn clymu un o’r tai fel uned fforddiadwy. Byddai hyn yn gyfwerth ac 20% o’r tai ac yn fwy na’r gofyn ar gyfer Nefyn fel y nodir ym Mholisi TAI 15 o’r CDLl. Ystyrir yn sgil arwyddo cytundeb 106 tai fforddiadwy yn clymu un o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy y byddai’r bwriad yn bodloni gofynion Polisi TAI 15.

 

Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth yn hwyr yn y dydd gan Gyngor Tref Nefyn yn nodi rhestr o’r rhai gyda rhandir yn Y Ddôl a hefyd rhestr aros pobl a oedd yn aros am randiroedd. Nodwyd nad oedd swyddogion na’r ymgeisydd wedi cael cyfle i asesu’r wybodaeth felly argymhellir gohirio’r cais er mwyn ystyried y wybodaeth newydd. Awgrymwyd pe byddai’r cais yn cael ei gohirio y dylid ystyried cynnal ymweliad safle.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Byddai’r bwriad yn cyfarch yr angen am dai gyda’u prisiau yn gyraeddadwy i bobl leol;

·         Byddai’r datblygiad bwriedig yn creu swyddi;

·         Bod y safle cyfagos i safle tai arall gyda mynediad ar droed i wasanaethau;

·         Nad oedd y tir wedi ei ddefnyddio fel rhandiroedd ers 2009;

·         Bod 21 rhandir ar safle’r Ddôl a gwnaed ymchwil o ran y galw am randir;

·         Bod yr ymgeisydd wedi cysylltu â’r Cyngor Tref ar sawl achlysur ond nid oedd eu cynnig i asesu sefyllfa draenio ar safle’r Ddôl wedi ei dderbyn;

·         Gosodwyd hysbyseb yn gofyn am ddatganiad o ddiddordeb am randir yn y wasg. Derbyniwyd 10 e-bost/llythyr yn datgan diddordeb. Credu nad oedd angen am randiroedd ar y raddfa bresennol;

·         Bod yr ymgeisydd yn awyddus i’r cais gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwn.

 

(c)     Cynigiwyd i ohirio’r cais er mwyn ystyried y wybodaeth newydd a chynnal ymweliad safle. Eiliwyd y cynnig.

 

         Nododd aelod y dylid ystyried gwybodaeth yr aelod lleol o ran llifogydd yn ogystal.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn ystyried y wybodaeth newydd a chynnal ymweliad safle.

Dogfennau ategol: