Agenda item

Newid defnydd ac ymestyn capel i greu uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Newid defnydd ac ymestyn capel i greu uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig).

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn yr AHNE a hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. 

 

         Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yng nghyswllt diogelwch ffyrdd ac oriau gwaith adeiladu.

 

Nodwyd bod polisi TWR 2 yn datgan y caniateir cynigion ar gyfer trosi adeiladau presennol yn unedau gwyliau hunan wasanaeth os ydynt o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Ystyrir fod graddfa’r bwriad yn addas ar gyfer y safle a’r lleoliad gydag ond un uned wyliau yn cael ei chreu. Nodwyd hefyd bod y lleoliad yn gyfleus gyda mynediad yn union oddi ar y ffordd sirol ddosbarth 2.

 

Nodwyd bod dyluniad yr estyniad yn eithaf cyfoes, fodd bynnag, ystyrir y byddai’r estyniad yn dderbyniol ar gyfer y safle ac ystyrir bod y deunyddiau yn rhai derbyniol.

 

Yn dilyn derbyn gwrthwynebiad gan yr Uned Drafnidiaeth oherwydd nad oedd lle i gerbyd aros oddi ar y ffordd tra agorwyd giât i’r safle a gosodiad y fynedfa, derbyniwyd cynllun diwygiedig gyda’r giât wedi ei osod fwy mewn i’r trac mynediad fel bod modd i gerbyd aros i’r giât agor oddi ar y ffordd sirol. Nodwyd yn sgil derbyn y manylion yma derbyniwyd sylwadau pellach gan yr Uned Drafnidiaeth yn datgan fod y bwriad i ail-leoli’r giât ymhellach i mewn i’r safle yn dderbyniol ac yn goresgyn rhan helaeth pryderon priffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd.

 

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, defnydd, dwysedd, dyluniad, deunyddiau, mwynderau gweledol, mwynderau preswyl a diogelwch ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn awyddus i gadw edrychiad yr adeilad fel capel a disodli’r festri a oedd ddim yn strwythurol gadarn efo estyniad modern gyda chyferbyniad rhwng yr hen a’r newydd;

·         Ni chysylltir i’r garthffos gyhoeddus;

·         Ei fod wedi prynu tir ychwanegol er mwyn galluogi symud y fynedfa i wella gwelededd;

·         Bod darpariaeth parcio ar y safle.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y cais yn gyfle perffaith i ddiogelu’r adeilad;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd gyda cheir yn parcio ar y ffordd ar ochr y teras gyferbyn â’r safle. Problemau goryrru ar y ffordd yma ac yn anodd pasio’r ceir ar y ffordd;

·         Nifer o geisiadau lle'r oedd unedau gwyliau a oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio yn troi wedyn i fod yn . A fyddai’n bosib gosod amod i gyfyngu cyfnod y gellir meddiannu’r fel uned gwyliau fel y gwneir efo meysydd carafanau?

·         A fyddai’n bosib gosod amod o ran oriau gwaith adeiladu yn unol â dymuniad gwrthwynebwyr?

 

(ch)   Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod problemau goryrru yn fater gorfodaeth i’r heddlu;

·         Ni fyddai’r bwriad yn ychwanegu’n sylweddol at symudiadau traffig a bod yr ymgeisydd wedi gwella’r fynedfa gan symud y giât er mwyn galluogi ceir i droi yn y pwynt gorau ar y ffordd. Nid oedd rheswm i wrthwynebu’r bwriad o safbwynt diogelwch ffyrdd;

·         Yr argymhellir gosod amod i gyfyngu’r uned i ddefnydd gwyliau yn unig. Eglurwyd yn dilyn penderfyniad apêl Ocean Heights Caravan Park roedd y tymor gwyliau yr unfath ac unedau gwyliau gyda thystiolaeth yn dangos bod ymwelwyr yn cyfrannu i’r economi trwy’r flwyddyn;

·         Nid oedd yn rhesymol i osod amod o ran oriau gwaith adeiladu yn unol â dymuniad gwrthwynebwyr oherwydd graddfa’r datblygiad. Mi fyddai unrhyw faterion niwsans a godir o’r datblygiad yn ystod y cyfnod adeiladu yn cael eu hystyried gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.      5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Llechi ar y to.

4.     Cytuno deunyddiau waliau allanol yr estyniad.

5.     Waliau allanol y capel i fod o liw gwyn.

6.     Cyfyngu’r uned i ddefnydd gwyliau yn unig.

7.     Tynnu hawliau a ganiateir ar gyfer ymestyn yr uned ac adeiladau cwrtil.

8.     Gwaith i’w wneud yn unol â’r argymhellion yn yr arolwg rhywogaethau gwarchodedig.

9.     Gwneud arolwg ffotograffig o’r adeilad.

10.   Mynedfa i’w hadeiladu yn unol gyda chynllun diwygiedig.

Dogfennau ategol: