Agenda item

Gosod 1 grid gwartheg

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Gosod 1 grid gwartheg

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr ymgeiswyr yn egluro mai’r bwriad oedd cau bwlch yn y rhwystrau presennol o amgylch Comin Uwchgwyrfai er atal defaid a gwartheg rhag crwydro oddi ar y Comin i bentrefi, ffyrdd a thiroedd cyfagos.

 

Nodwyd mai’r prif bolisi cynllunio a oedd yn ymwneud â newidiadau i'r rhwydwaith cludiant oedd Polisi TRA 1 o'r CDLl. Eglurwyd bod y polisi hwn yn caniatáu gwelliannau i isadeiledd ffyrdd presennol os gellir cwrdd gyda chyfres o feini prawf gan gynnwys bod y safle a ddewisir yn cael yr ardrawiad lleiaf posib ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol, y dirwedd ac eiddo.

 

Ystyriwyd oherwydd maint eithaf bychan y datblygiad hwn, ynghyd a'i leoliad mewn ardal amaethyddol ei naws, ni fuasai'r grid ei hun na'r ffensys, giât a waliau a fyddai o'i amgylch yn ymddangos fel nodweddion anghydnaws yn y dirwedd.

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. Nodwyd na chredir y byddai'r lefelau sŵn a ddeilliai o'r grid yn debygol o fod yn arwyddocaol wahanol i'r hyn a gynhyrchir gan drafnidiaeth arferol o safbwynt ei effaith mwynderol. Fe ystyrir felly bod y cynnig yn cwrdd gyda gofynion Polisi TRA 1 o ran amddiffyn eiddo lleol a hefyd PCYFF 2 o ran amddiffyn iechyd, diogelwch a mwynderau trigolion lleol.

 

          Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i'r bwriad o safbwynt diogelwch y briffordd er yn pwysleisio ei fod yn angenrheidiol derbyn caniatâd ychwanegol trwy orchymyn dan Adran 82 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980. 

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn cynrychioli trigolion a oedd yn pryderu o ran effaith y datblygiad;

·         Nid oeddent yn erbyn yr egwyddor ond yn gwrthwynebu’r lleoliad a’i ddyluniad;

·         Pryder o ran diogelwch cerddwyr.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Pori Uwchgwyrfai, ‘roedd y gymdeithas wedi ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru a bod yr aelodau wedi arwyddo i gadarnhau y byddent yn cydymffurfio â’r gofynion;

·         Bod cynnydd o ran defnydd cerddwyr o’r Tir Comin yn hel stoc i lawr gan greu trafferth o ran rheoli stoc;

·         Byddai’r grid yn atal stoc rhag crwydro tuag at bentrefi Carmel a Groeslon.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Cynigwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle. Nododd aelod bod angen datrysiad gyda’r angen i ystyried beth fyddai’r ateb gorau. Eiliwyd y gwelliant.

 

          Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe syrthiodd.

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol i ganiatáu’r cais ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Cytuno ar union leoliad, deunyddiau a dyluniad y ffensys / waliau / giât

            

Nodiadau

Angen caniatâd dan y Ddeddf Briffyrdd i osod grid gwartheg

Angen caniatâd dan y Ddeddf Briffyrdd i ymgymryd â gwaith o fewn y briffordd

Dogfennau ategol: