skip to main content

Agenda item

Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith M Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd bod gofynion cyffredinol Polisi PS3 o’r CDLl yn caniatáu cynigion isadeiledd oedd yn ceisio estyn neu wella cysylltiadau trwy gyfrwng y technolegau cyfathrebu presennol a rhai a oedd yn cael eu datblygu.

 

Eglurwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â goblygiadau datblygiad arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru oedd na ddylid bod angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw effeithiau iechyd na’r pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o flaen llaw os oedd y datblygiad yn bodloni gofynion y Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydriad Anïoneiddiol (ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma.

 

         Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn annhebygol o gael effaith amlwg hir dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr o ran effaith y datblygiad ar heneb Caer Engan, ymgynghorwyd efo CADW ac fe dderbyniwyd cadarnhad nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd yn gweithredu fel aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y gymuned leol yn pryderu am effaith negyddol y datblygiad ac yn awyddus i’w ail-leoli;

·         Bod dyletswydd i bwyllo yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda’r angen i sicrhau anghenion tymor byr a hir dymor;

·         Cyfeirio at astudiaethau ac apeliadau oedd yn dangos effeithiau ymbelydredd electro magnetig ar iechyd. Cydnabod nad oedd materion iechyd yn ystyriaeth o ran penderfynu ar y cais;

·         Pryder o ran yr effaith weledol a’i effaith ar fusnes Pant Du a oedd yn atyniad ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr;

·         Pryder y byddai mast newydd diwydiannol amlwg yn effeithio ar gais Llechi Cymru am statws Safle Treftadaeth y Byd (UNESCO);

·         Bod Grŵp Cynefin efo cynllun i ddatblygu tai ger y safle a’u bod yn gwrthwynebu’r bwriad. Gallai caniatáu’r cais atal y cynllun;

·         Yn unol â diwylliant Ffordd Gwynedd dylid gwrando ar sylwadau trigolion a gwrthod y cais yn y lleoliad yma.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn gwerthfawrogi sylw’r aelod bod y Pwyllgor yn y cyd-destun cynllunio wedi eu clymu o ran materion iechyd. Cymerodd y cyfle i dynnu sylw’r aelodau at adolygiad barnwrol gerbron yr Uchel Lys yn ddiweddar ynglŷn â heriau yn ymwneud â mast yn Ne’r Sir a’r effaith ar iechyd. Nododd bod y Cyngor wedi amddiffyn yr her yn llwyddiannus. Nododd hefyd, nad oedd tystiolaeth gerbron i wrthod ar sail iechyd a bod gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn dangos ei fod yn cyfarch y gofynion statudol. Eglurwyd pe gwrthodir y cais ar sail iechyd y byddai’n debygol y cyfeirir y cais i gyfnod cnoi cil.

 

(ch)   Cynigwyd i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd byddai maint a dyluniad y mast yn y lleoliad yma yn ddiwydiannol ei naws ac yn cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal.

 

         Eiliwyd y cynnig.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Pryder o ran effaith weledol y datblygiad a’i effaith ar fusnes Pant Du. Dylid gwrthod y cais ar sail materion economaidd yn ogystal;

·         Nad oedd y lleoliad yn addas gyda safleoedd mwy addas ar gael;

·         Yn cydnabod bod angen am signal 4G ond yn pryderu o ran maint ac edrychiad y datblygiad a’i effaith ar adeiladau cyfagos. Roedd lleoliadau eraill a fyddai’n gallu diwallu’r gofynion;

·         Ei fod yn ddatblygiad estron a fyddai’n ymwthiol ar y safle lled wledig;

·         Pryder y byddai’r bwriad yn effeithio ar ddelwedd y pentref a’i effaith ar fusnesau lleol;

·         Bod y tir wrth ymyl safle’r cais wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad tai yn y CDLl ac fe fyddai caniatáu’r cais yn rhwystr o ran datblygu tai;

·         Bod perchnogion wedi buddsoddi yn eu tai ger y safle ac fe fyddai’r datblygiad yn effeithio ar eu gwerth;

·         Bod cysylltedd yn bwysig i bobl oedd eisiau gweithio o adref felly roedd rhaid pwyso a mesur y cais. Roedd yr ymgeisydd wedi edrych ar leoliadau eraill ond ni fuasent yn caniatáu ymdriniaeth ddigonol.

 

(d)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Ni ddylid gwrthod y cais ar sail materion economaidd oherwydd ni ellir eu cyfiawnhau. Yr angen i ystyried yr angen am y ddarpariaeth a’r budd economaidd a fyddai’n deillio o’r bwriad gan y byddai’n darparu cyflenwad signal 4G;

·         Nid oedd effaith ar werth eiddo yn ystyriaeth gynllunio;

·         O ran y safle wrth ymyl a oedd wedi ei ddynodi ar gyfer tai ni ellir cymryd i ystyriaeth y dynodiad er mwyn gwrthod y cais hwn;

·         Gellir rhoi ystyriaeth i effaith weledol y strwythur o unrhyw fangre.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rheswm:

 

Byddai maint a dyluniad y mast yn y lleoliad yma yn ddiwydiannol ei naws ac yn cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal.

Dogfennau ategol: