skip to main content

Agenda item

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod ac eglurwyd yr edrychwyd ar y safle o gyfeiriad Lôn Pont Morgan yn ogystal.

 

         Nodwyd bod y safle ar benrhyn Abersoch, y tu allan i ffin datblygu'r pentref a thu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE). ‘Roedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yng nghyswllt dyluniad y tŷ a’r effaith ar yr AHNE. Cydnabuwyd pryderon y gwrthwynebwyr, fodd bynnag teimlir nad oedd hynny ynddo’i hun yn golygu y byddai'r bwriad yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal. Sylweddolir bod y dyluniad yn gwneud defnydd helaeth o derasau a ffenestri sylweddol, fodd bynnag noder o’r lluniau a gyflwynwyd gyda’r cais bod tai eraill gerllaw'r safle hefyd yn rhannu nodweddion pensaernïol o’r fath. Teimlir bod y lluniau, a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, yn dangos na fyddai’r adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun ac er bod edrychiad y tŷ yn wahanol, ni ystyrir y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i dirwedd ac arfordir yr AHNE. Ystyrir fod y bwriad yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr AHNE. Hefyd, oherwydd y lleoliad yn erbyn cefndir adeiledig Abersoch ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu’n sylweddol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE. 

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn.

 

Cadarnhawyd bod y ddarpariaeth parcio yn dderbyniol ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad. Nodwyd bod Llwybr Cyhoeddus gerllaw’r safle a bod angen ei ddiogelu yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad a gellir gwneud hyn drwy amod ar y caniatâd cynllunio.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Pryder o ran yr effaith ar y llwybr cyhoeddus;

·         Bod y datblygiad yn enfawr ac yn ymdebygu i westy;

·         Byddai’n weladwy o’r môr a byddai’r datblygiad yn amharu ar yr olygfa o’r Llwybr Arfordir;

·         Pryder o ran effaith datblygiadau mawr ar yr Iaith Gymraeg;

·         Pryder o ran egwyddor dymchwel a chodi tŷ;

·         Bod y datblygiad yn groes i bolisi TAI 5 Tai Marchnad Leol o’r CDLl;

·         Y cyflwynwyd y cais cyn mabwysiadu’r CDLl.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ers 31 Gorffennaf 2017 yn unol â’r CDLl. Nodwyd bod yr adroddiad yn ystyried y cais yng nghyd-destun polisïau’r CDLl. Eglurwyd bod polisi TAI 5 yn ymwneud â thai newydd lle nad oedd tŷ eisoes yn bodoli ar y safle.

 

(c)     Cynigwyd i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol gan greu datblygiad ymwthiol a fyddai’n cael effaith andwyol ar olygfeydd i mewn, allan ac ar draws yr AHNE.

 

          Eiliwyd y cynnig.

 

          Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed sylwadau’r Uned AHNE a sylwadau Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod gan yr Uned AHNE ddim gwrthwynebiad i’r bwriad ond bod y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol wedi cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu’r cais. Eglurodd bod aelodaeth y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol yn cynnwys Cynghorwyr Gwynedd a rhanddeiliaid. Pwysleisiodd nad oedd polisïau yn gwahardd datblygiadau cyfoes yn yr AHNE. Nododd os oedd yr aelodau yn credu’n gryf y byddai’r bwriad yn cael effaith arwyddocaol ar yr AHNE, pe gwrthodir y cais byddai’r aelodau neu aelod unigol yn cynorthwyo’r Cyngor os derbynnir apêl cynllunio.  

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Pryder o ran dymchwel a chodi tŷ enfawr ar y safle;

·         Bod pobl ifanc wedi eu prisio allan o’r farchnad dai leol;

·         Pryder am effaith y datblygiad ar Ben Bennar;

·         Bod maint y tŷ bwriedig dros 50% yn fwy o gymharu â’r tŷ presennol. A oedd asesiad o ran y cynnydd wedi ei gynnal?

·         A oedd y ddarpariaeth parcio yn ddigonol ar gyfer y datblygiad?

·         Ni fyddai’r tŷ bwriedig yn gweddu i’r lleoliad;

·         Bod y tŷ presennol wedi gweld dyddiau gwell felly byddai’n well ei ddisodli;

·         Bod dyluniad y tŷ bwriedig yn wahanol ond nid oedd steil dyluniad safonol yn yr ardal;

·         Croesawu’r bwriad a fyddai’n wellhad i’r safle;

·         Prin byddai’r tŷ yn weladwy o Lôn Pont Morgan;

·         Ni fyddai’r datblygiad yn amharu ar Lwybr yr Arfordir ond os oedd pryder o ran gosod ffens a fyddai’n amharu ar yr olygfa fe ddylid gosod amod i ddelio â hyn;

·         Pe gwrthodir y cais, byddai’r Cyngor yn colli apêl cynllunio.

 

Nododd aelod yr angen am ganllawiau pendant i ddelio efo’r sefyllfa ynghlwm a cheisiadau cynllunio am dai a thai gwyliau gan fod prisiau tai yn mynd allan o afael pobl leol. Ychwanegodd y dylai swyddogion wrthod y math yma o gais a’i fod yn anghyfforddus o ran y patrwm yng nghyswllt dymchwel adeiladau hŷn ac yna eu datblygu.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, eglurodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd polisi TAI 5 yn berthnasol i’r cais gerbron gan fod tŷ ar y safle yn barod ac felly mai polisi TAI 13 o’r CDLl oedd yn berthnasol.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fod yn gwerthfawrogi pryderon yr aelodau gan gydnabod bod Abersoch yn unigryw o safbwynt tai a bod polisi TAI 5 yn ceisio mynd i’r afael a’r sefyllfa, ond nad oedd polisi TAI 5 yn berthnasol i’r cais dan sylw. Eglurodd bod polisi TAI 13 yn cefnogi’r egwyddor o ran dymchwel tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le, yn ddarostyngedig i gwrdd â meini prawf perthnasol, a bod yr egwyddor o ail-adeiladu ar y safle dan sylw yn dderbyniol. Nododd mai mater i’r aelodau oedd asesu os fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar yr AHNE a byddai gofyn ar yr aelodau, pe gwrthodir y cais, i gefnogi eu penderfyniad petai  apêl cynllunio. Pwysleisiodd bod y cais wedi ei asesu yn unol â’r polisïau cynllunio cyfredol a bod y bwriad yn cynnig adeilad cynaliadwy modern gan ddefnyddio deunyddiau naturiol ac nad oedd y polisïau yn gwahardd datblygiadau o’r fath yn yr AHNE.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed costau yn deillio o apêl, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio na fyddai gwrthod y cais hwn yn creu risg arwyddocaol i’r Cyngor felly ni fyddai'n ei gyfeirio i gyfnod cnoi cil. Nododd bod risg is o ran derbyn costau yn erbyn y Cyngor pe gwrthodir y cais a pe collir apêl, fodd bynnag roedd costau ynghlwm â darparu ar gyfer apêl.

 

Nododd y cynigydd bod gwahaniaeth barn o ran dehongli effaith y datblygiad ar yr AHNE ond ei fod o’r farn y byddai’r datblygiad yn amharu ar ei osodiad a’r golygfeydd tu fewn ac allan.  Ychwanegodd ei fod yn cyd-weld â sylwadau Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn a oedd yn arbenigwyr yn y maes a’i fod yn barod i amddiffyn apêl.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r cynigydd, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod rhaid i’r aelodau bwyso a mesur cynnwys yr adroddiad ynghyd â sylwadau ymgynghorai. Nododd nad oedd yn briodol i nodi bod un ymgynghorai yn arbenigwyr a’r angen i fod yn ofalus na roddir gormod o bwysau ar sylwadau un ymgynghorai dros ymgynghorai arall. Pwysleisiodd bod angen ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd gan bwyso a mesur yn unol â’r ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rheswm:

 

Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol gan greu datblygiad ymwthiol a fyddai’n cael effaith andwyol ar olygfeydd i mewn, allan ac ar draws yr AHNE.

Dogfennau ategol: