Agenda item

Derbyn adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet ar weithrediad argymhellion yr Ymchwiliad Craffu.

Cofnod:

a)    Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn ymateb i argymhellion  yr Ymchwiliad Craffu Cludiant Ôl-16 i Addysg Bellach. Nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi anfon ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, ond amlinellodd yr Uwch Reolwr Ysgolion bod yr Aelod Cabinet yn diolch i aelodau’r ymchwiliad am eu gwaith trwyadl i’r maes. Ymddiheurwyd am yr oedi o gyflwyno adroddiad ac ategwyd bod y cyfle o gyflwyno  / gweithredu rhai o’r argymhellion ar gyfer Medi 2015 wedi cael ei effeithio gan gyfnod ‘purdah’. Nodwyd hefyd y bydd geiriad ac amodau Polisi Cludiant Ôl-16 yn cael ei symleiddio a’i addasu i gyfarch y newidiadau.

Eglurwyd bod yr argymhellion wedi eu rhannu i dri chategori a thrafodwyd hwy yn unigol. Rhai o’r newidiadau fydd codi un pris a dileu’r cysyniad o ddalgylch er mwyn sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth. Y gobaith yw dileu rhywfaint o’r rhwystrau. Bydd geiriad ac amodau’r Polisi Cludiant newydd yn llawer symlach a darllenadwy. Bydd hyn yn sicrhau gwell  dealltwriaeth y defnyddiwr, y darparwyr addysg ynghyd â staff llinell gymorth Galw Gwynedd.

Ychwanegwyd bod yr awydd i gydweithio gyda Phartneriaid i gyfrannu at wella’r ddarpariaeth, a bod trafodaethau gyda Grŵp Colegau Llandrillo Menai i weithredu fel asiant wedi eu cynnal. Ategwyd bod diddordeb wedi ei nodi ond dim ymrwymiad hyd yma.

 

b)    Yn manteisio ar ei hawl i siarad, cyflwynodd Mr S Chambers, Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor ei gynigion ef i’r Polisi Cludiant Ôl -16. Nodwyd y sylwadau isod:
-    Safon y gwasanaeth ac nid y pris sydd yn codi amheuaeth

-       Gorlawnder ar y bysiau - y bysiau yn codi aelodau o’r cyhoedd, disgyblion ysgol uwchradd ynghyd a myfyrwyr y Coleg - risg Iechyd a Diogwch

-       Hyblygrwydd y tocyncyfyngder o ddefnydd dwywaith y diwrnod yn cyfrannu at orlawnder

-       Defnydd ‘My Travel Pass’ -  Cynllun Llywodraeth Cymru. Pam nad yw gyrwyr bysiau yn ei dderbyn?

-       Angen trefniadau gwell ar gyfer cyfnodau tywydd drwg.

-       Awgrymu rhoi ffocws ar ansawdd ac anghenion y myfyrwyr

c)   Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

-       Bod gormod o wahaniaethau rhwng Deddfwriaeth Cymru a Lloegr   ac mai ffocws gwreiddiol yr ymchwiliad oedd edrych ar yr anghysondebau hyn. Dadleuwyd nad oedd y Cyngor dim agosach at gynorthwyo pobl o aelwydydd difreintiedig

-       Pryder nad oedd ‘My Travel Pass’ yn cael ei dderbyn

-       Angen rhoi ystyriaeth i hyblygrwydd y tocyncynnig arbrofi hyblygrwydd i’r tocyn mewn ardal benodedig

-       Nid yw codi pris y tocyn o £60 i £100 yn deg - a oes modd adolygu hyn a chynnig £80?

-       Angen ystyried bysiau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr yn unig i osgoi gorlawnder - cynnig yr angen i ymgynghori ymhellach gyda defnyddwyr

-       Angen cynnal trafodaethau pellach gyda chwmnïau cludiant cyhoeddus masnachol er mwyn ceisio atal y rhwystr o ddefnyddio tocyn unrhyw amser o’r diwrnod.

 

ch)  Cynigodd y Cynghorydd Gruffydd Williams y dylid galw ar yr Aelod Cabinet i beidio â chodi cost y tocyn o £60 i £100, a gofynnodd i hynny gael ei gofnodi. Ni eiliwyd y cynnig

 

PENDERFYNWYD:

 

a)            MYNEGI PRYDER AM YR ARAFWCH YN Y GWEITHREDU AR YR ARGYMHELLION, CROESAWU'R GWAITH SYDD YN DIGWYDD BELLACH, OND PWYSO AM WEITHREDU BUAN AR Y CYFAN O'R ARGYMHELLION YN CODI O'R YMCHWILIAD, GAN OFYN YN BENODOL I'R AELOD CABINET RHOI SYLW I :

 

i.      SAFON AC ANSAWDD Y DDARPARIAETH YN RHANNOL YN SGIL GORLENWI

 

ii.    Y CYFYNGIAD AR Y NIFER O DROEON NEU'R ADEGAU Y MAE MYFYRWYR YN CAEL DEFNYDDIO'R TOCYN AC AWGRYM BOD TRAFODAETH YN DIGWYDD GYDA DARPARWYR AM ARBROFI I GANIATÁU HYBLYGRWYDD AM GYFNOD

 

iii.   Y DEFNYDD O'R "MY TRAVEL PASS" - AMHARODRWYDD Y CWMNÏAU BWS I GYDNABOD Y DEFNYDD OHONO

 

iv.   CYSYLLTU Â LLYWODRAETH CYMRU I BWYSO AM WEITHREDU TREFN FEL SYDD YN LLOEGR I GYNORTHWYO MYFYRWYR O AELWYDYDD TLOTAF

 

b)            GOFYNNIR I'R AELOD CABINET ADRODD YN ÔL AR Y MATERION HYN CYN MEDI 2016.

 

Dogfennau ategol: