I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Tai,
Hamdden a Diwylliant ar dai gwag yng Ngwynedd a oedd yn cyfeirio at nifer o
fentrau o gymorth i berchnogion tai i wneud y gorau o’u heiddo.
Adroddwyd
bod y Gwasanaeth Tai wedi llwyddo i ddod a 455 o dai yn nôl i ddefnydd ac yn
sgil hyn wedi llwyddo i gartrefu 915 o bobl Gwynedd ac sydd wedi galluogi
unigolion i aros yn eu cynefinoedd.
Cafwyd
blas gweladwy, ar ffurf sleidiau, o rai o’r tai problemus yn nhrefi / pentrefi
Trawsfynydd, Maentwrog, Llan Ffestiniog, Penygroes, Bryncrug, Dolgellau,
Caernarfon, Llanbedr, Bangor, Nefyn, Llandwrog a Thywyn.
O
safbwynt parhad a dyfodol i’r arian sydd ar gael, nodwyd bod y Cyngor o ran
rhaglen cyfalaf wedi bod yn buddsoddi ac yn denu arian o ffynhonellau
eraill. Hyderir y gellir ail-fuddsoddi arian ychwanegol a ddaw drwy’r cynnydd
yn nhreth Cyngor ar ail-gartrefi at ddefnydd dibenion dod a tai gwag yn ôl i
ddefnydd.
Amlygwyd
y prif bwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
(i)
Gofynnwyd
a fyddai modd dwyn achos gorfodaeth gan gyfeirio yn benodol at dy yn Llan
Ffestiniog a oedd mewn cyflwr truenus ers blynyddoedd lawer ac wedi achosi cryn
boendod i gymdogion cyfagos.
(ii)
Mewn
ymateb, amlinellodd y Rheolwr Tai – Cyflenwad a Gorfodaeth y pwerau sydd mewn grym i’r Cyngor, gan nodi bod modd
dwyn achos gorfodaeth ar berchennog eiddo os yw’r eiddo yn effeithio ar
strwythur tŷ drws nesaf. Yn yr achos penodol hwn nid oedd yn creu effaith
strwythurol ar y ty cyfagos. Nodwyd ymhellach bod
trafodaethau ar y ty dan sylw yn mynd rhagddynt ers
blynyddoedd lawer gyda swyddogion awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac anogwyd
yr Aelod lleol i drafod y mater ymhellach gyda swyddogion y Parc oherwydd nad
oedd gan yr Uned Dai bwerau i ddatrys y mater.
O
safbwynt buddsoddiadau i berchnogion tai, nodwyd nad oedd yn ofynnol iddynt
ymgymryd â phrawf modd, ac nad oedd y buddsoddiad ar gyfer prynu tai, ond yn
hytrach gwneud gwelliannau a dod a thai yn ôl i ddefnydd. Nodwyd ymhellach y gallai prawf modd arwain
at sefyllfa a fyddai’n arafu y gwaith o ddod a thai gwag yn ôl i ddefnydd gan
bod landlordiaid yn gwneud buddsoddiad eithaf sylweddol eu hunain mewn costau
adnewyddu. Fe fyddai’r ty gwag yn rhan o gynllun lesu am gyfnod o 5 mlynedd, neu
ar gael i bobl oddi ar restr aros y Cyngor neu gleientau
Gwasanaethau Cymdeithasol.
(iii)
Gofynnwyd
beth oedd y targedau a sut y byddir yn mesur llwyddiant? Gwnaed sylw pellach bod y llogau oddeutu 8 /
9 % yn 2008 a oedd yn bolisi ffafriol ar y pryd ond a oedd y ffigyrau wedi
gostwng?
Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Tai – Cyflenwad
a Gorfodaeth y gweinyddir dau fath o fenthyciad – un mewnol a’r llall ar ran
Llywodraeth Cymru. ‘Roedd dipyn o alw am
y benthyciad ac roedd y gwasanaeth wedi ei newid yn ddiweddar gyda’r amser talu
yn ôl wedi ei ymestyn. Cadarnhawyd bod y
cynllun wedi ei lefelu allan oherwydd bod llogau wedi gostwng.
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Tai, pan y bu i’r
cynllun gychwyn llwyddwyd i ddod ag oddeutu 10 ty y
flwyddyn yn ôl i ddefnydd ond erbyn hyn bod yr allbynnau wedi cynyddu ond yr
arian wedi aros ‘run fath.
(iv)
Mewn
ymateb i faint ragwelir o arian ddaw yn ôl yn deillio o’r premiwm treth Cyngor
ar ail gartrefi, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, ei bod yn
anodd rhagweld beth fyddai yr incwm ychwanegol ond y byddai ef a’r Gwasanaeth
Tai yn cyflwyno gwybodaeth i ystyriaeth yr Aelod Cabinet i gefnogi
ail-fuddsoddi ar gyfer dibenion tai gwag. Fodd bynnag, nododd rhaid bod yn
realistig o ystyried bod pob gwasanaeth o’r Cyngor yn wynebu arbedion a
thoriadau.
(v)
O
safbwynt y ffi gweinyddol, nodwyd mai’r unigolyn sydd yn cael y benthyciad sydd
yn ei dalu yntai ymlaen llaw neu ar y benthyciad a’i
fod yn cael ei ail-gylchu ar gyfer mwy o
fuddsoddi.
(vi)
Mewn
ymateb i ymholiad ynglyn â rhesymau pam bod cyflwr
tai gwag yn waeth yng Ngwynedd, nododd y Rheolwr Tai – Cyflenwad a Gorfodaeth y
bu i’r Gwasanaeth greu holiadur oddeutu 9 mlynedd yn ôl a derbyniwyd nifer o
ymatebion a rhesymau megis bod pobl wedi etifeddu tai, wedi eu cadw o ran
teimladrwydd a’u bod wedi dirywio mewn cyflwr; eraill wedi prynu tai ac ddim
digon o arian i’w hatgyweirio i gyflwr addas.
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Tai a Llesiant bod nifer o dai yng Ngwynedd
wedi eu hadeiladu cyn 1919 gyda’r tai hynny wedi dirywio mewn cymunedau trefi
diwydiant llechi, a’r ffactor arall ydoedd diboblogi mewn rhai ardaloedd o
Wynedd.
(vii)
O
ystyried bod lefel incwm cyfartalog yn isel mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd,
gofynnwyd pam na all y Cyngor adeiladu tai a gweithreu
cynllun rhentu i brynu. Byddai modd
wedyn i’r Cyngor dderbyn rhent a threth Cyngor ac yn sgil hyn yn rhoi siawns i
bobl ifanc fedru byw yn lleol.
Mewn
ymateb, eglurwyd bod yn bosibl gweithredu’r uchod a’r gwasanaeth wedi trafod
gyda chymdeithas dai (Cynllun Tai Lleol Gwynedd) ar gyfer datblygu safleoedd yng Ngwynedd
(Waunfawr, Penygroes, Llanllyfni, Bethesda, Llanuwchllyn). Hefyd, bod y llywodraeth yn gweithredu
cynllun prynu lle mae modd prynu canran o’r ty lle
gall unigolion fod yn berchen ar rhwng 60/70%
ac yn rhentu’r gweddill. Byddai’n
rhaid i’r Cyngor fuddsoddi ar raddfa enfawr ond ar hyn o bryd nid oedd yr
adnoddau ar gael.
(viii)
Gofynnwyd
a oedd methodoleg o adnabod tai gwag ac efallai cyfle i gael sustem mwy trylwyr
gyda’r Adran Gynllunio yn chwarae rôl yn benodol ar gyfer dod a siopau gwag yn
ôl i ddefnydd.
Mewn
ymateb, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod rôl i’r Adran
Gynllunio gyfrannu ond nid i arwain ac y dylid sicrhau bod y drefn gynllunio /
gwasanaeth tai yn gweithio ochr yn ochr.
(ix)
Nodwyd
nad oedd rhestr ar gael o dai gwag i’w rannu gyda Chynghorau Cymuned / Tref yn
unol â’r Ddeddf Diogelu Data ond derbyniwyd caniatâd i rannu’r rhestr hefo
Aelodau etholedig a gwerthfawrogir unrhyw wybodaeth o dai gwag o fewn eu
wardiau nad ydynt ar y rhestr.
I gloi, nododd Aelod Cabinet Tai, Hamdden a
Diwylliant ei bod yn amlwg bod angen mwy o dai i osgoi digartrefedd a bod angen
parhau â’r gwaith gyda’r 1164 o dai gwag.
Nodwyd mai swm o arian cyfyng iawn sydd ar gael a rhaid bod yn ofalus
a’i ddefnyddio i ymateb i anghenion.
Cynigiwyd, eilwyd a phleidleiswyd yn unfrydol i gefnogi bod cyfran o’r arian
ychwanegol a ddaw o gynllun treth Cyngor ail gratrefi
yn cael ei ail-fuddsoddi i’r gwasanaeth tai gwag ar gyfer y stoc tai.
Awgrymwyd ymhellch bod
angen rheolaeth ar geisiadau drwy ystyried cynnal prawf modd ar unigolion sydd
yn gwneud ceisiadau.
Penderfynwyd: (a) Derbyn,
nodi a diolch am yr adroddiad.
(b) Gofyn i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant gyfleu
cymeradwyaeth a chefnogaeth y Pwyllgor Craffu Gofal bod unrhyw arian ychwanegol
a ddaw o’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag yn cael ei
ail-fuddsoddi i’r Gwasanaeth Tai Gwag at ddibenion dod a tai gwag yn ôl i
ddefnydd.
(c) Gofyn i’r Adran ystyried edrych ar fanylion banc ymgeiswyr pan yn
cyflwyno ceisiadau.
(ch) Bod y Gwasanaeth yn cyflwyno rhestr i Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn o
dai gwag yng Ngwynedd fel eu bod yn gallu cadw golwg yn lleol a’i ddiweddaru
fel bo angen.
Dogfennau ategol: