skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar yr uchod. 

 

(Copi’n amgaeedig)

COFNODION:

(a)  Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar ddigartrefedd yng Ngwynedd. 

 

(b)              Gosododd yr Uwch Reolwr Tai a Llesiant gefndir o’r maes gan nodi ei fod yn un o gyfrifoldebau statudol y Cyngor sydd wedi eu hamlinellu yn Neddf Tai (Cymru) 2014.  Croesawyd newidiadau i’r ddeddfwriaeth digartrefedd a ddaeth i rym a oedd yn caniatáu achosion fod yn agored am gyfnod llawer hirach.  Fodd bynnag roedd mwy o faich ar swyddogion ac er derbyniwyd rhywfaint o arian grant trosiannol roedd yn dod i ben 31 Mawrth 2018 a’r Llywodraeth heb ymrwymo i unrhyw grantiau pellach ar ôl hynny.  Pwysleislwyd na fyddai’r gwasanaeth wedi gallu ymdopi heb yr arian trosiannol yn sgil y newidiadau na chael cymaint o lwyddiannau atal digartrefedd.  Yn ogystal, nodwyd bod newidiadau ar y gorwel yn y drefn budd-dal a fyddai’n gosod baich ar y gwasanaeth ac yn dilyn gwaith a gomisiynwyd cyfeiriwyd at y prif ganfyddiadau o’r ymchwil hwn. Roedd y gwasanaeth yn wynebu sawl her drwy newidiadau deddfwriaethol a budd-daliadau ac wedi adnabod bod y galw wedi cynyddu a’r rhagolwg y bydd yn parhau i dyfu.  Roedd yn hanfodol ystyried sut y byddai’r gwasanaeth yn ymateb er mwyn sicrhau cynaladwyedd a’r gallu i reoli gwariant i’r dyfodol.

 

(ch)        Ar nodyn positif, nodwyd yn 2015/16 bod Gwynedd y gorau yng Nghymru o safbwynt canran a lwyddwyd i atal digartrefdd ond bydd yn gostwng eleni oherwydd colled mewn un aelod o staff.

 

(d) Rhoddwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn:

 

(i)               Nad oedd cynnydd yn y nifer o bobl a gyfeiriwyd i lety gwely a brecwast ond eu bod wedi aros yno am gyfnod hirach.  Serch hynny, roedd y gwasanaeth wedi llwyddo i’w cynnal o fewn y gyllideb.   Sicrhawyd bod y gwasanaeth yn ceisio osgoi rhoi teuluoedd gyda phlant mewn llety gwely a brecwast.  Ceisir ar bob achlysur gadw unigolion lle maent drwy negydu gyda landlordiaid.  Drwy godi treth cyngor ar ail-gartrefi hyderir y gellir ail-fuddsoddi’r arian yn y maes hwn ar gyfer cyflenwi anghenion yr unigolion. 

 

(ii)              Gofynnwyd i’r Rheolwr Digartrefedd a Tai Cefnogol anfon gwybodaeth i’r Rheolwr Aelodau fel a ganlyn:

 

·         Faint o bobl a gyfeirir i lety gwêly a brecwast

·         A ydynt yn unigolion / teuluoedd / pobl ifanc / gwryw / benyw

·         Costau ar gyfer yr uchod

 

(iii)          O safbwynt tai a lesir gan landlordiaid preifat, telir rhent ar yr un raddfa â lwfans tai lleol.

 

(iv)          Bod yr achosion yn rhai ar draws y Sir sy’n cynnwys trefi a phentrefi gwledig.

 

(v)           O safbwynt sut mae’r Cyngor yn paratoi ar gyfer y newidiadau yn y system budd-daliadau, nodwyd bod y gwasanaeth yn :

 

·         ceisio sicrhau bod unigolion yn ymwybodol o’r newidiadau

·         sicrhau bod datblygiadau eiddo yn addas

·         cydweithio gyda’r Uned Tai Gwag, a’r sector tai preifat 

·         rhoi cyngor i bobl

 

(vi)          Yn wyneb y ffaith bod cynnydd yn yr achosion, nodwyd bod pwysau ychwanegol ar y staff i ganfod llety i unigolion yn enwedig o ystyried mai stoc bychan o dai sydd ar gael ac amserlen penodol ar gyfer cyflawni’r achosion.  Nodwyd ymhellach bod y cynnydd mwyaf mewn achosion gan bobl sengl.

 

(vii)        Sicrhawyd bod y Gwasanaeth yn cydweithio’n agos gyda carchardai,  Gwasanaeth Prawf, Cymdeithasau Tai ond bod ychydig mwy o waith i’w gyflawni i roi strwythur mwy cadarn yn ei le ar gyfer cydweithio gyda’r  Bwrdd Iechyd.  

 

(viii)       Bod oddeutu 95% o’r achosion yn rhai gan bobl Gwynedd ac nid o du allan i’r Sir.

 

(ix)          Yn nghyd-destun pobl ifanc 16 oed sydd yn derbyn budd-daliadau, nodwyd nad oedd y ganran o achosion yn uchel iawn a bod cyfrifoldeb penodol i gydweithio gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol.  Nodwyd hefyd bod cydweithrediad cadarn gyda GISDA. 

 

(dd)     Yn ystod y drafodaeth ynglyn â  chynigion i gyfarch pryderon y Gwasanaeth am yr heriau sylweddol i ddarparu llety i bobl digartref yng Ngwynedd i’r dyfodol, amlygwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         A fyddai’n gost effeithiol i’r Cyngor edrych ar adeiladau ei hun a’u haddasu ar gyfer llety digartrefedd

·         Ymchwilio i adeiladu ar diroedd fyddai’n dod yn rhydd a chydweithio gyda Chymdeithasau Tai

 

Mewn ymateb i’r uchod eglurwyd bod trafodaethau yn digwydd gyda Chymdeithasau Tai ond yr anhawster a ragwelir gyda chynlluniau adeiladu tai fyddai’r amserlen o safbwynt i’r tai fod yn barod, a nifer fychan o dai sydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, nad oedd y broblem o ddiffyg darpariaeth yn unigryw i Wynedd.  Bwriedir cyflwyno adroddiad i Cabinet y Cyngor yn tynnu sylw at yr elfennau ariannol a thra’n derbyn bod newidiadau ar y gweill i’r dyfodol rhaid ceisio bod yn rhagweithiol ag sy’n bosibl.

 

          Penderfynwyd:            (a)        Derbyn, nodi, diolch am yr adroddiad a chydnabod bod y gwasanaeth yn wynebu pwysau ychwanegol yn sgil newid deddfwriaethol a newid yn y drefn budd-dal.

 

                                                (b)       Gofyn i’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyfleu dymuniad y Pwyllgor Craffu hwn i sefydlu strwythur cadarn a chydweithio cydrhwng y Cyngor â Bwrdd Iechyd Prifysol Betsi Cadwaladr  ar gyfer pobl gydag anghenion uchel sy’n cael eu rhyddhau o ysbytai i’r gymuned lle mae adnoddau llety a chefnogaeth wedi diflannu bellach.

 

                                                (c)        Ymchwilio i’r posibilrwydd o fedru cael mwy o dai addas ar gyfer anghenion pobl digartref megis:

 

·         Ystyried eiddo ym meddiant y Cyngor i’w addasu yn lety

·         Adeiladu tai o’r newydd ar diroedd sy’n dod yn rhydd

 

Dogfennau ategol: