Agenda item

I benderfynu ar eiriad terfynol argymhellion y Pwyllgor Craffu Gofal Arbennig a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017. 

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad a oedd yn cynnwys chwe argymhelliad yn deillio o drafodaeth ar y mater uchod yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gofal Arbennig a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017.

 

          Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad ydoedd cadarnhau geiriad terfynol yr argymhellion i’w cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ynghyd a Phrif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er gweithrediad.

 

Roedd gwahaniaeth barn ymysg Aelodau ynglŷn â geiriad cymal (ii) o’r argymhellion ac fe gyniwyd ac eilwyd i ddiddymu’r geiriau “amser rhesymol” a’i ddiwygio fel a ganlyn:

 

“bod y Pwyllgor yn gofyn  am adroddiad ar ddarpariaeth iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog gan asiantaeth annibynnol yn syth, i’w gyflwyno i sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal.

 

Bod y Pwyllgor Craffu’n galw ar y Bwrdd Iechyd i fonitro gwybodaeth a data mewn perthynas ag effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd cyfredol yn ardal Blaenau Ffestiniog a llesiant ei thrigolion yn rheolaidd ac i ymrwymo i addasu/newid y ddarpariaeth os oes tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.

 

Cadarnhawyd bod gweddill yr argymhellion sef (i), (iii), (iv), (v), a (vi) yn dderbyniol.

 

O safbwynt darparu adroddiad annibynnol fel awgrymir uchod, nodwyd y byddai’r Cyngor yn medru cynnig enwau ymgynghorwyr arbenigol allanol i gyflawni’n gwaith.

 

Nodwyd nad oedd Cyngor Iechyd Cymuned yn hapus nad oedd cynrychiolydd wedi derbyn gwahoddiad i’r Pwyllgor Craffu Gofal Arbennig ar gyfer y drafodaeth.

 

Penderfynwyd:                      Cyfleu yr argymhellion terfynol isod i Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phrif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsti Cadwaladr:

 

                                      

(i)               Bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i rannu’r holl wybodaeth gefndir fu’n rhan o’r penderfyniad gwreiddiol i newid darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.

(ii)              Bod y Pwyllgor yn gofyn am adroddiad ar ddarpariaeth iechyd yn

ardal Blaenau Ffestiniog gan asiantaeth annibynnol yn syth, i’w gyflwyno i sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal.  

Bod y Pwyllgor yn galw  ar  Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fonitro gwybodaeth a data mewn perthynas ag effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd cyfredol yn ardal Blaenau Ffestiniog a llesiant ei thrigolion yn rheolaidd ac i ymrwymo i addasu/newid y ddarpariaeth os oes tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.

(iii)            Yn deillio o’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Blaenau Ffestiniog am ddiffyg ymateb i ddeisebau a gohebiaeth yn y gorffennol, bod y Bwrdd yn rhoi ystyriaeth fanwl i ddiffygion ymgysylltu ac ymgynghori yn y gorffennol er mwyn gwella’u trefniadau ar gyfer y dyfodol. Anogir y Bwrdd Iechyd i gyfathrebu’n rheolaidd ac effeithiol gyda thrigolion ardal Blaenau Ffestiniog mewn perthynas â darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau iechyd lleol.

(iv)            Gofynnir i’r Aelod Cabinet Amgylchedd a’r Aelod Cabinet Gofal gomisiynu asesiad o hwylustod a hygyrchedd gwasanaethau iechyd trwy gludiant cyhoeddus a chymunedol o fewn dalgylch Ysbyty Alltwen. Tra byddai’r flaenoriaeth i’w roi ar y dalgylch yma, wedi ei gwblhau, gellir ystyried os oes budd i gynnal asesiadau tebyg mewn ardaloedd eraill.

(v)             Bod yr angen am gartrefi addas ar gyfer pobl hŷn yn cynnwys y ddarpariaeth o dai gofal ychwanegol yn ardal Blaenau Ffestiniog yn cael ei wyntyllu’n llawn ar y cyd gan yr Aelod Cabinet Gofal, Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant a’r Bwrdd Iechyd ynghyd â Phartneriaeth Tai Gwynedd.

(vi)            Bod y Pwyllgor Craffu yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd i gydweithio’n agos a chymryd camau ymarferol priodol i recriwtio staff gofal ac iechyd fel bod timau llawn yn eu lle i gynnal gwasanaethau yn ardal Blaenau Ffestiniog ac ar draws y Sir.

 

Dogfennau ategol: