Agenda item

Ystyried yn ehangach rôl a dylanwad yr Iaith Gymraeg ar y drefn gynllunio.

Cofnod:

a)      Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio yn ymateb i gais yr Aelodau am wybodaeth gefndirol mewn perthynas â’r drefn gynllunio a’r iaith Gymraeg. Cyfarchwyd y materion isod yn yr adroddiad.

              i.                Gosod y cyd-destun statudol o ran Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

             ii.                Egluro’r Polisi Cynllunio Cenedlaethol (TAN 20)

            iii.                Egluro’r Polisi Cynllunio Lleol Cyfredol (Y Cynllun Datblygu Unedol a’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg)

           iv.                Egluro sut mae’r Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y cyd-destun polisi cyfredol

            v.                Rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Drafft)

           vi.                Egluro sut, yng nghyd-destun gofynion TAN 20, y bydd gofyn i ni ddelio gyda’r Iaith Gymraeg wrth benderfynu ceisiadau cynllunio ar ôl i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gael ei fabwysiadu a sut mae’r Gwasanaeth yn ceisio ymateb i hyn

 

b)      Mewn ymateb i’r adroddiad, gwnaed cais am eglurder o ran gofynion  Polisi Cynllunio Cymru (TAN 20) a’r awgrym na ddylai ceisiadau cynllunio fod yn destun effaith ar yr iaith Gymraeg oherwydd y disgwylid fod hyn wedi ei wneud wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Ymatebodd yr Uwch Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd, y gallasai sefyllfa’r ‘iaith’ ar ôl mabwysiadu’r Cynllunio Datblygu Lleol fod yn wannach. O ganlyniad, bydd cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol newydd yn cael eu paratoi fel rhan o broses paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gyda bwriad rhoi blaenoriaeth i baratoi Canllaw Cynllunio Atodol sydd yn ymdrin â chymunedau cynaliadwy. Bydd y canllaw yma yn cynnwys manylder ar faterion cynllunio a’r iaith Gymraeg. Nodwyd bod pwynt tyngedfennol wedi ei gyrraedd o ran datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yng nghyd - destun llunio canllawiau priodol i roi ystyriaeth i'r iaith.

 

c)      Materion yn codi o’r drafodaeth:

              i.                Sut mae cloriannu egwyddorion ‘iaith’ ac egwyddorion ‘ymateb i’r galw am dai’?

             ii.                Sut gellid dylanwadu ar ffigyrau ‘anghenion tai’ sydd yn cael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ?

            iii.                Rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i’r iaith o fewn y drefn cynllunio.

           iv.                Rhaid sicrhau cyfiawnder i’r Iaith Gymraeg

            v.                A fydd y Canllawiau Cynllunio Atodol yn statudol?

           vi.                Rhaid cryfhau'r elfen iaith er mwyn sicrhau na fydd y Cyngor Llawn yn gwrthod y Cynllun Datblygu Lleol ar sail yr elfen yma.

          vii.                Rhaid sicrhau bod Deddfwriaeth Cymru yn gadarn

         viii.                A ddylid ystyried yr opsiwn o greu ‘Bro Cymraeger mwyn uchafu’r grym?

           ix.                A ddylid ystyried polisïau lle gellid cadw pobl leol yn lleol

 

ch)  Mewn ymateb i’r sylwadau eglurwyd bod asesiadau iaith yn rhan o  broses cynllunio Gwynedd ac yn un sydd, yn mynd tu hwnt i ofynion Llywodraeth Cymru, yn lobio am newidiadau i’r Ddeddf Cynllunio ac yn gwthio ffiniau TAN mewn cyd-destun gofynion asesiadau iaith.  Eglurwyd bod Panel Cynllunio ar y Cyd yn trafod yn chwarterol faterion cynhennus sydd yn ymwneud â effeithiau cymunedol, diwylliannol ac ieithyddol ac y bydd adroddiad yn cael ei baratoi i osod fframwaith statudol ar gyfer rhoi ystyriaethau i’r iaith. Ychwanegwyd bod swyddogion, wrth greu cynlluniau  gydag ymgeiswyr, yn amlygu unrhyw bryderon fydd yn creu effaith ar yr iaith Gymraeg.

       O ran statws y Canllawiau Cynllunio Atodol, cryfhau'r polisi Cynllunio fydd eu bwriad. Unwaith bydd y polisi wedi ei fabwysiadu, bydd y canllaw yn statudol o fewn y broses cynllunio.

 

       Mewn ymateb i ‘gryfder’ y Cynllun Datblygu Lleol nodwyd bod gan y Cyngor rôl ddylanwadol dros y blynyddoedd nesaf. Ategwyd bod yr iaith yn fater sydd yn cael ei ystyried drwy’r cyfnod ynghyd â phroffiliau diwylliannol. Er mwyn  cymeradwyo’r Cynllun bydd rhaid iddo fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar hyn o bryd, mynegwyd barn, bod y Cynllun yn un cadarn (gan gynnwys yr elfennau ieithyddol a chymunedol).

 

       Ategwyd bod cyfle yma i’r Pwyllgor Craffu ddylanwadu ar elfennau cenedlaethol a chael mewnbwn i’r Canllawiau Cynllunio Atodol.

       Diolchwyd i’r swyddogion am yr eglurder ac am y drafodaeth adeiladol a gafwyd ar y mater.

 

PENDERFYNWYD

 

CEFNOGI GWAITH Y PANEL CYNLLUNIO AR Y CYD I GEISIO SICRWYDD BOD Y CYNIGION YN Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL YN CYFARCH HER YR IAITH YN DDIGONOL AC YN CYFARCH Y GALW AM Y NIFER O DAI.

 

BOD ANGEN SICRHAU MEWNBWN Y PWYLLGOR HWN A'R PWYLLGOR IAITH YN NATBLYGIAD Y CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL NEWYDD A'R SYLW A FYDD YN CAEL EI ROI I'R IAITH YN Y CANLLAW HYNNY.

 

Dogfennau ategol: