Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Craig ab Iago
PENDERFYNWYD
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad
TRAFODAETH
Amlygwyd mai pwrpas yr
adroddiad oedd cyflwyno gwybodaeth gyfredol ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni yn y
maes gan amlinellu’r diweddaraf ar y materion hynny oedd yn cael eu cynnwys yn
y Cynllun Strategol, y mesurau perfformiad a’r diweddaraf o ran cynllun
arbedion a thoriadau.
Nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn aelod newydd i’r
Cabinet ac wedi bod yn brysur yn ymgyfarwyddo ei hun gyda gwaith y
gwasanaethau. Mynegwyd bod nifer o’r gwasanaethau yn mynd drwy gyfnod o newid
ac ailfodelu ond ei fod yn gyffredinol, yn hapus gyda’r perfformiad. Roedd yn
awyddus i weld y gwasanaethau yn parhau i lwyddo er gwaethaf yr holl heriau
fydd yn eu hwynebu yn y dyfodol agos. Ategwyd mai ei flaenoriaeth am y cyfnod
nesaf fydd sicrhau cydweithio trawsadrannol er mwyn mynd i’r afael a thlodi ac
amddifadedd.
Tynnwyd sylw at brosiect
strategol ‘Cydymdrechu yn erbyn Tlodi’ a nodwyd bod gwaith da wedi ei wneud i gynnal digwyddiadau ‘Call
efo’r Geiniog’ ar draws y Sir fel modd i drigolion Gwynedd gael gwybodaeth am
sut i gael y gorau o’u harian.
Amlygwyd pryder mewn newidiadau yn y maes lles a
budd-daliadau a’r newid i’r Credyd Cynhwysol (gweithredol o Ebrill 2018) fydd
yn debygol o effeithio oddeutu 300+ aelwyd yn y Sir. Adroddwyd bod sesiynau
wedi eu trefnu ar gyfer staff rheng flaen i rannu gwybodaeth a pharatoi ar
gyfer yr addasiadau hyn.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:
- A yw cyfrifoldebau newydd o fewn Deddfwriaeth Digartrefedd yn rhoi baich
ychwanegol ar amser staff i gadw cofnodion manwl o’r broses asesu yn ychwanegu
gwerth i’r gwasanaeth?
- Nad yw perfformiad Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn ddigonol (er yr
ystyriaeth sydd yn cael ei roi i gyfnodau trefnu a chodi estyniadau).
- Yng nghyd–destun Credwyd Cynhwysol awgrymwyd y dylid amlygu’r pryderon i’r
Aelodau Seneddol Lleol gan y gall trefniadau gweinyddu’r credyd yn ganolog gan
y Llywodraeth amlygu pryderon pellach.
- Croesawu awydd yr Aelod Cabinet i gydweithio yn drawsadrannol i ymdrin â
thlodi
- Bod angen diweddariad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr agenda Trechu
Tlodi. Ymddengys nad yw bellach yn flaenoriaeth
- Bod angen mesur effaith prosiectau megis Cyfeirio at Ymarfer a Dementia Go
wrth ystyried trosglwyddo Canolfannau Hamdden i gwmni newydd wedi ei reoli gan
y Cyngor.
Mewn ymateb i sylw am y ddarpariaeth ddigartrefedd,
amlygodd y Pennaeth Gwasanaeth bod gofynion ychwanegol gan y Llywodraeth a
Phartneriaethau ar yr Uned am wybodaeth. Derbyniwyd y sylw bod angen adolygu'r
broses o ystyried bydd cynnydd pellach a’r ofynion yr Uned o ganlyniad i
newidiadau mewn budd-daliadau.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â Trechu Tlodi,
nodwyd bod y Llywodraeth yn ail edrych ar y maes yn ei gyfanrwydd a bod y
strategaethau yn cael eu hadolygu. Awgrymwyd y byddai cyhoeddiad gan y
Llywodraeth yn Nhachwedd 2017.
Mewn ymateb i sylw am y prosiectau Cyfeirio at
Ymarfer a Dementia Go, nodwyd bod y prosiectau hyn yn bwysig iawn a bod cynnydd
yn y galw. Adroddwyd bod data yn cael ei gasglu er mwyn mesur effaith. Amlygwyd
bod y gwasanaeth yn cydweithio drwy’r Adrannau, ond bod angen dwyn perswâd ar y
Gwasanaeth Iechyd i gyfrannu. Derbyniwyd y sylw nad oedd y prosiectau o dan
sgôp Canolfannau Hamdden. Ategwyd bod yr arian sydd yn cefnogi Dementia Go yn
dod i ben ac awgrymwyd yr angen i gynnal trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru i
herio rheolau defnydd arian grant ICP.
Awdur:Iwan Trefor Jones
Dogfennau ategol: