Agenda item

Trafodaeth gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal a swyddogion y Cyngor yn deillio o’r cyflwyniadau uchod.

 

 

Cofnod:

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymysg Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal yn unig, amlygwyd y sylwadau canlynol:

 

(i)            Pryder ynglyn ag anawsterau teithio i Ysbyty Alltwen i gleifion a theuluoedd

 

(ii)           O’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Amddiffyn bod angen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr adolygu’r materion canlynol:    

 

·         Diffyg ymgynghori a chyfathrebu gyda thrigolion lleol a chael ffeithiau cywir oherwydd bod gwersi i’w dysgu o’r adolygiad diwethaf

·         Poblogrwydd gweithgareddau awyr agored a thwristiaeth ym Mlaenau Ffestiniog a’r posiblrwydd felly o gynnydd am wasanaethau pelydr-x a mán anafiadau

·         Cynnal adolygiad arall annibynnol gan bod yr un diwethaf bellach yn hanesyddol ac felly bod cyfle euraidd i newid y penderfyniad i gael gwelyau preswyl i gleifion yn ól / uned peldyr-x a gwasanaeth man-anafiadau sydd ei wir angen ym Mlaenau Ffestiniog

·         Anawsterau o safbwynt gofal cartref i gleifion ym Mlaenau Ffestiniog oherwydd bod llawer o’r tai yn anaddas i fedru cymryd gwelyau ysbyty 

·         Ystyried darpariaeth tai gofal ychwanegol

 

(iii)          Tra’n cydymdeimlo gyda thrigolion Blaenau Ffestiniog o golli adnodd teimlwyd rhaid bod yn realistig a bod y gwasanaeth yn gynaliadwy, diogel ac ‘run fath i weddill y Sir.

 

(iv)          Rhaid cymryd i ystyriaeth o’r 10 canolfannau gwasanaeth a weithredir bod 3 ohonynt yn Wynedd sef 30% ac efallai y byddai dadlau am bedwerydd i’w lleoli ym Mlaenau Ffestiniog yn anodd

          

            Mewn ymateb i’r sylwadau uchod:

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:

 

·         tra’n derbyn y sylwadau uchod, y byddai modd gofyn i’r Bwrdd Iechyd monitro a chasglu tystiolaeth yn rheolaidd i weld pa effaith mae’r newidiadau yn gael ar drigolion Blaenau Ffestiniog er ystyriaeth pellach gan y Pwyllgor Craffu Gofal ar ôl i’r Ganolfan Goffa agor ym mis Hydref eleni.  Drwy wneud adolygiad byddai modd cymharu’r gwasanaeth yn ardal Blaenau Ffestiniog o’i gymharu a gweddill y Sir.

·         O safbwynt diffyg recriwtio staff, cydnabuwyd bod anawsterau yn Wynedd ac yn benodol ardaloedd gwledig ac y byddai’n ddefnyddiol comisiynu darn o waith ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd i geisio cyfarch y broblem

 

 

Nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

 

·         bod rhai pryderon wedi eu lleisio yn y gorffennol ynglyn a gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus o arfordir Meirionnydd a pha mor hwylus ydoedd cyrraedd Ysbyty Alltwen ac fe wnaed arolwg bryd hynny.  Yn deillio o hyn fe wnaed addasiadau i amserlenni bysiau a sicrhau bod bysiau yn troi fyny i Ysbyty Alltwen ond efallai ei fod yn amserol i ofyn i’r Aelod Cabinet Gofal ac Aelod Cabinet Amgylchedd i gomisiynu gwaith er mwyn ail-edrych ar y ddarpariaeth.   

·         O safbwynt tai gofal ychwanegol bod symposiwm i’w gynnal ar 13 Hydref gyda Adran Tai y Cyngor / Cartrefi Cymunedol Gwynedd a Cynefin i drafod y mater hwn ac y byddai’n fuddiol rhoi gwahoddiad i gynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod yn rhan o’r trafodaethau yn ogystal

·         Er gwybodaeth, bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn comisiynu gwaith ar safleoedd preswyl / nyrsio a bod Cartref Preswyl Bryn Blodau, Llan Ffestiniog, yn un o’r catrefi o dan ystyriaeth