Agenda item

Cofnod:

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr y Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

 

(i)               Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â thystiolaethu bod pobl Blaenau angen gwelyau ysbyty cymunedol uwchben yr hyn sydd ar gael yn Ysbyty Alltwen, nododd Dr Walt Evans, Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog, bod llawer iawn o unigolion yn Ysbyty Gwynedd yn aros am le yn Ysbyty Alltwen.  Ychwanegodd nad oedd hyn yn digwydd pan oedd Ysbyty Goffa Ffestiniog yn weithredol.  Yn ogystal roedd tystiolaeth bod amryw o unigolion yn cael eu hanfon i ysbytai eraill megis Dolgellau, Eryri, Bryn Beryl sydd yn golygu milltiroedd o deithio i’w teulu i’w gweld.  

 

Yn ychwanegol cyfeiriwyd at niferoedd  o unigolion o gylch Blaenau Ffestiniog a oedd mewn ysbytai / cartrefi yn Llandudno, Pentrefoelas, Llanrwst, Porthmadog, Pentrefelin ac un wedi ei hanfon, oherwydd prinder gwelyau, i Dywyn, a  bod y daith mewn bws i’w theulu yn eu gwneud yn amhosib i fynd i’w gweld. 

 

 

(ii)           Gofynnwyd pa dystiolaeth bod ardaloedd eraill yng Ngwynedd yn derbyn gwasanaeth gwell na Blaenau.

 

Ymatebodd Dr Walt Evans drwy nodi bod pob tref hefo ysbytai cymunedol a bod gwir angen ysbyty yn Blaenau, gwasanaeth pelydr-x ac uned man anafiadau.  Nodwyd bod y sefyllfa yn ddyrys iawn yn Blaenau gyda llawer o gwynion fel y gwelir o’r deisebau.  Cyfeiriwyd at restr o’r clinigau a gynigir gan y Bwrdd Iechyd i’r Ganolfan arfaethedig, ond nad oedd y clinigau hyn yn arbennig oherwydd eu bod  i fod ar gael mewn unrhyw ardal llesiant.  Yn hyn o beth felly, pa fath o ardal llesiant fyddai Blaenau Ffestiniog.

 

Cwestiynwyd sut y gellir cynnal clinig rhiwmatoleg heb gynnal uned pelydr-x. 

 

(iii)             Gofynnwyd a oedd tystiolaeth bod unrhyw unigolyn sydd wedi derbyn gwasanaeth yn Ysbyty Alltwen yn anhapus hefo’r gwasanaeth?

 

Ymatebodd aelod o’r Pwyllgor Amddiffyn drwy gyfeirio at brofiad personol lleroedd wedi gorfod chwilio am gartref nyrsio i’w mam a phe na fyddai wedi gwneud hynny byddai ei mam wedi gorfod mynd i gartref milltiroedd i ffwrdd neu hyd yn oed yn Lloegr.  Cyfeiriodd ymhellach at brofiad arall personol lle gwnaed camgymeriad yng nghofnodion y claf a phan ffoniwyd Ysbyty Gwynedd Bangor i gwyno dywedwyd mai Adran Pryderon oedd ar gael ac nid Adran Gwynion.

 

(iv)             Mewn ymateb i ymholiad o faint o lythyrau oedd heb dderbyn sylw gan y Bwrdd Iechyd, nodwyd mai cyfran fechan iawn oedd yn y pecyn a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Gofal a bod sawl llythyr heb ei gydnabod na derbyn ymateb.

 

(v)              Gofynnwyd pa bellter sy’n rhesymol i bobl deithio i ysbyty, nododd Mr Geraint Vaughan Jones y byddai’n ofynnol i bobl Dolwyddelan deithio 20 milltir i ysbyty a bod y Bwrdd Iechyd yn crybwyll taith o 40 munud sydd ddim yn berthnasol gan unrhyw Fwrdd Iechyd arall – 30 munud yw’r pellter teithio yn genedlaethol.

 

(vi)             Gofynnwyd a ydych yn ymwybodol o unrhyw ardal sydd yn cynnig lefel o wasanaeth delfrydol?

 

Mewn ymateb, nodwyd bod  ysbyty delfrydol, dibynadwy a dim cwynion wedi bodoli ym Mlaenau Ffestiniog.  Ers cau yr ysbyty a  chyfeiriwyd at lyfryn a baratowyd gyda  24 o achosion o gwynion a chopi wedi ei anfon i’r Bwrdd Iechyd ond fe’i anwybyddwyd mewn  cyfarfod ym mis Mai gyda Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd a’r Cyfarwyddwr Ardal Gorllewin.

 

Cyfeiriwyd ymhellach at broffil iechyd Blaenau Ffestiniog gan y Bwrdd Iechyd wedi ei ddyddio 5 Mehefin 2013 sef 4 mis ar ôl penderfynu cau’r ysbyty – a oedd yn datgan bod 28.5% o’r boblogaeth yn byw mewn tlodi sef yr ail gyfran uchaf yng Ngwynedd; bod cyfradd derbyniad i’r ysbyty ar gyfer unigolion dros 75 yn uwch na Gwynedd, Gogledd Cymru a Chymru ac eto roedd y Bwrdd Iechyd yn penderfynu cau ysbytai.

 

 

(vii)         Cyn terfynu, dyfynodd Dr Walt Evans at ddatganiad y Bwrdd Iechyd a oedd yn nodi “Blaenau Ffestiniog was not designated as a hub because analysis of the admissions and use of the hospital showed that the catchment care was largely confined to Blaenau Ffestiniog itself with a low level of admission from the west and little activity from the east”.  Mewn ymateb i hyn gwnaed sylw bod  Blaenau Ffestiniog yn dref gyda phoblogaeth o oddeutu 5,000.  Arferai weithio mewn practis meddygon a oedd yn gyfrifol am y cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty goffa yn ogystal â chleifion o Ddolwyddelan.   Tynnwyd sylw pellach bod meddygfa arall ym Mhenrhyndeudraeth gyda’r meddygon hynny yn mynychu Ysbyty Bronygarth, Penrhyndeudraeth.  Roedd yn amlwg bod lefel uchel o boblogaeth Blaenau yn defnyddio’r ysbyty ac felly  yn gwbl amlwg bod angen yr ysbyty yna. 

 

Cyfeirwyd ymhellach at lythyrau gan gyrff proffesiynol eraill yn gwrthwynebu’r newidiadau fel a ganlyn:

 

·                     llythyr gan Bwyllgor Lleol Meddygol (Ionawr 2013) a oedd yn datgan  “ we reject any of the current proposals to the closure of beds in North Wales, without prior thought regarding the impact of such change.  There has been no convincing argument put forward that such closure will improve patient care. It seems to be proposed as clearly a cost cutting exercise”.

·                     llythyr gan y Pwyllgor Deisebau (Mawrth 2017) a oedd yn datgan “We appreciate the rural nature of the area, and transport difficulty experienced especially by the elderly in reaching NHS sites,  We also note that there is no registered nursing homes in the area and the care home that has been used as a stepped down facility does not have the capability for such a role.  Inpatients facilities would provide this sevice.  North Wales   Local Medical Committee would fully endorse and support the campaign to alter the curent developments to include the facilities currently being withdrawn.  Also support the re-introduction of those withdrawn services as soon as possible to maintain service provision close to home as the stated policy of the Welsh Government”.

 

Gwnaed cais i anfon y llythyrau uchod i Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd.

 

(viii)         Mewn ymateb i ymholiad pa un o’r gwasanaethau y dymunir weld yn ól, nodwyd bwysigrwydd i gael gwelyau preswyl yn ôl ym Mlaenau Ffestiniog ac yna byddai’r  gwasanaeth man-anafiadau yn dod yn ei sgil.   

 

 

(D)    Ymatebodd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd i’r cwestiynau a sylwadau uchod fel a ganlyn:

 

 

(i)                      O ran y broses o ble y dylai’r canolbwyntiau fod, nid maint y boblogaeth a ystyriwyd ar yr adeg ond cyfuniad o faint y boblogaeth a’r dalgylch a oedd yn ei ddefnyddio.  Oherwydd pe bai ardal yn cael ei defnyddio mewn dalgylch ehangach, byddai gennych lai o unedau oherwydd bod pobl eisoes yn teithio yno. Gwerthfawrogir y rhesymeg yng nghyswllt Blaenau bod mwy o bobl o’r ardal leol yn defnyddio’r ysbyty, ond os edrychir ar leihau’r canolbwynt, nid yw’r rhesymeg o reidrwydd yn gweithio.

 

 

(ii)                    O ran y rhesymeg dros y newid, dywedodd y Prif Weithredwr na ellir cynnal sgiliau ac effeithiolrwydd, denu staff os ydynt dim ond yn trin ychydig o gleifion a sesiynau hanner  diwrnod.

 

 

(iii)                  Yn bersonol, nid oedd gan y Prif Weithredwr unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y cymhelliant wedi’i godi fel anffafriaeth.  Roedd yna resymeg, ac nad oedd wedi gweld tystiolaeth bod cymhelliant o anffafriaeth tuag at drigolion Blaenau Ffestiniog ond yn hytrach roedd wedi gweld tystiolaeth pam y gwnaed y newid ac iddo ef roedd yn edrych bod unigolion o fewn y Bwrdd Iechyd wedi ymgymryd a phroses resymegol mor dda ag y gallent o gofio bod lleihau nifer yr hybiau yn mynd i fod yn anodd ac yn sicr, byddai’n anodd esbonio i boblogaeth na fyddai’r ddarpariaeth ar gael yn y dyfodol.  Ni chredir bod y broses wedi ei  wneud oherwydd problem ariannol oherwydd bod mwyafrif o Fyrddau Iechyd mewn diffyg ar draws y GIG gyfan yng Nghymru a Lloegr.

 

(iv)                   O ran pobl, mae’r Bwrdd Iechyd yn cytuno, bod her o ran gwelyau nyrsio a phreswyl ond mae yna broblem ymhobman. Nid yw’r ffaith nad oes gwelyau, yn golygu y dylai pobl aros mewn gwely GIG, a rhaid cydweithio i gael yr holl welyau gwahanol i ymateb i anghenion. 

 

 

(v)                     Ni allai’r Prif Weithredwr ymateb ynglyn a’r  sefyllfa gyda thai gofal ychwanegol.

 

 

(vi)                   O ran cwynion, mae’r Bwrdd Iechyd o’r farn bod mwy o bobl yn debygol o ffonio adran pryderon yn hytrach nag adran gwynion. Serch hynny mae gan y Bwrdd Iechyd adran gwynion ac maent yn delio ag ystod eang o enghreifftiau o ran cwynion ac achosion  difrifol.

(vii)                 O ran diffyg gohebu,  cydnabuwyd bod hyn yn rhywbeth y mae angen i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro amdano. Yn yr un modd mae llawer o ohebiaeth, ac mae’r Bwrdd Iechyd wedi ail-ddatgan nifer o bethau ac mae wedi ceisio egluro’r broses a’r cymhelliant ond mae’n anodd profi cymhelliant neu cyfiawnhau yr hyn mae pobl yn gredu yw’r  cymhelliant.

 

 

(viii)               O ran bod mewn mesurau arbennig, roedd y Prif Weithredwr o’r farn nad oedd gan y Bwrdd Iechyd gysylltiad / berthynas ac ymddiriedaeth y boblogaeth yn y ffordd y dylent fod wedi ei gael. Mae’n rhywbeth y maent wedi ceisio gwella, a phe bai’r Bwrdd Iechyd yn mynd yn ôl mewn amser o ran ymgysylltu, credir y byddai wedi bod yn wahanol.


(ix)                   Mewn ymateb i’r llythyr ychwanegol a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Meddygaeth Lleol, roedd y Prif Weithredwr wedi cael sawl cyfarfod ond nid oedd y mater hwn wedi bod ar yr agenda. Fodd bynnag, cymaint ag y byddai’n wych cael 20 canolbwynt, yr her ydoedd denu meddygon teulu i swyddi.