Cofnod:
Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Craffu holi cynrychiolwyr y Bwrdd
Iechyd.
(i)
Mewn ymateb i ymholiad
ynglyn â chysondeb y ddarpariaeth ar draws Gwynedd ac a oedd tystiolaeth i gyfiawnhau hyn, nododd Prif
Weithredwr y Bwrdd Iechyd bod hyn yn anodd i’w ateb. Esboniodd bod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio gosod y canolfannau Cymunedol er
mwyn i bobl allu cael mynediad i gyfleusterau o fewn 40 munud o amser teithio.
Mae'n anodd cymharu, ond ar yr adeg, gwnaed
y penderfyniad o ran lleoliad y canolfannau cymunedol gan y Bwrdd Iechyd
yn seiliedig ar ddwysedd poblogaeth a'r dalgylch. Nodwyd ymhellach, o ran
cofnod, y dylai'r Bwrdd Iechyd feddu ar y data gweithgaredd.
(ii)
Cyfeiriwyd at sylw wnaed mai dim ond 2 glaf ar
gyfartaledd a fynychwyd Uned Man Anafiadau Ysbyty Alltwen a gofynnwyd faint o
gleifion sydd yn mynd i Ysbyty Gwynedd Bangor.
Mewn ymateb, nodwyd ar gyfartaledd bod oddeutu 5% o’r Gorllewin yn cael
eu cyfeirio i Ysbyty Gwynedd.
Ychwanegwyd bod Metron Ysbyty Alltwen ar hyn o bryd yn tynnu allan criteria ar gyfer ymweliadau i’r Uned
Man-anafiadau ac yn edrych ar fodd i’r gwasanaeth allan o oriau gydweithio
gyda’r Uned Man-anafiadau.
(iii)
Gofynnwyd faint o hir ar gyfartaledd mae unigolion
yn aros mewn ysbytai cymunedol. Mewn
ymateb, ar gyfartaledd nodwyd mai 26.2 diwrnod yw’r arhosiad yn Ysbyty Alltwen
a rhestrwyd y ffigyrau isod dros gyfnod o bedair blynedd:
2013/14 -
29.5
2014/15 -
24.3
2015/16 - 21.3
2016/17 - 31.8
(iv)
O ystyried poblogrwydd Blaenau Ffestiniog erbyn hyn
gydag ymwelwyr yn cymryd rhan yn y gweithgareddau awyr agored sydd ar gael yn
yr ardal byddai’n synhwyrol i gael
unedau pelydr-x ac mân-anafiadau ym
Mlaenau.
Mewn
ymateb, nodwyd ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad ynglŷn â lleoliadau’r
canolfannau, ystyriwyd lefel y gweithgaredd sy'n mynd drwy'r adran fân
anafiadau bryd hynny. Tra’n cydnabod bod pethau wedi datblygu ac efallai bod
mwy o alw ond bod y gwasanaeth man-anafiadau ar gael yn Ysbyty Alltwen. Fodd
bynnag, o ran arfer gorau cyfredol wrth ymdrin ag anafiadau pen, anafiadau
soced llygaid, mae'r rhain wedi newid dros y blynyddoedd, ac felly fe'u
cyfeirir at adran damwain ac argyfwng mwy. Mae model gwasanaeth y Bwrdd Iechyd
ar hyn o bryd yn nodi y byddai cleifion yn mynd i Ysbyty Alltwen ac yna ymlaen
i Fangor, os oes angen.
(v)
Gofynnwyd a yw trigolion ardal Ysbyty Alltwen yn
cael eu hamddifadu o welyau yn yr Ysbyty o ystyried bod trigolion ardal Blaenau
Ffestiniog yn cael eu cyfeirio yno? Mewn
ymateb, cadarnhawyd bod 6 gwely ychwanegol ar gael yn Ysbyty Alltwen ar gyfer y
galw.
(vi)
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â dyfodol ysbytai
cymunedol, nodwyd mai’r bwriad ydoedd cael hybiau integredig a chydweithio
gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac eraill megis y trydydd sector, a
chanolbwyntio ar ofal yn y cartref.
(vii)
Gofynnwyd faint o straen sydd ar Ysbyty Gwynedd yn
nhermau rhyddhau gwelyau lle gwelir y gall ambell glaf fod yn mynd yn nes at gartref. Cadarnhawyd bod cydweithio gyda Ysbyty
Gwynedd i dynnu cleifion allan i’r gymuned.
Ychwanegwyd bod gan y Bwrdd Iechyd dîm aml-asiantaethol gwych yn
gweithredu ym Mlaenau Ffestiniog.
(viii)
Gofynnwyd a yw’r tai ym Mlaenau Ffestiniog yn addas
ar gyfer gofal yn y cartref ac yn benodol ar gyfer rhoi gwelyau ysbyty ynddynt
o ystyried maint rhai o’r tai, grisiau, a.y.b.
Mewn ymateb, esboniwyd bod Cydlynwyr Rhyddhau o Ysbyty yn ymchwilio i’r
hyn sydd ar gael. Fodd bynnag, roedd yn
fwriad i’r Bwrdd Iechyd edrych ymhellach i ddarpariaeth tai gofal
ychwanegol.
(ix)
Nodwyd y cyflwynwyd cais cynllunio am 26 o dai
gofal ychwanegol yn Llan Ffestiniog a gafodd ei wrthod gan awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri, a gofynnwyd a oedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd hyn i
ystyriaeth pan gaewyd Ysbyty Coffa Ffestiniog.
Mewn ymateb, nodwyd na fu i’r Bwrdd Iechyd gau’r ysbyty oherwydd yr
uchod.
(x)
Gofynnwyd petai modd newid y penderfyniad a sefydlu
Ysbyty Cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, beth fyddai’r effaith ar ysbytai neu
wasanaethau eraill o fewn Gwynedd. Mewn
ymateb, nodwyd bod lleoliadau yr hybiau
cymunedol yn seiliedig ar
bellteroedd teithio i unigolion dderbyn triniaethau h.y. taith o 40 munud. Nodwyd bod teithio o Flaenau Ffestiniog i
Ysbyty Alltwen yn 13.5 milltir oddeutu 20 munud o deithio, gyda theithiau o
Bala i Dolgellau yn fwy, Aberdaron i Bryn Beryl yn fwy ac felly byddai rhaid
i’r Bwrdd Iechyd ail-fapio y pellteroedd ar draws Wynedd gyfan. Ychwanegwyd y
byddai’r Bwrdd Iechyd yn cael anhawster i recriwtio staff ar gyfer mwy o hybiau
cymunedol na’r hyn a fwriedir sef 10. Yn
ogystal, bydd y model yn galluogi gwell gofal rhagweithiol yn y cartref i
gleifion a fydd yn osgoi iechyd unigolion i waethygu ac mewn rhai achosion yn
osgoi gorfod mynd i ysbytai.
(xi)
Cydnabuwyd nad oedd yn bosibl gofalu am bob claf yn
y cartref, ac y byddai’n rhaid mewn rhai achosion i unigolion orfod mynd i
ysbytai o’u cymunedau. Pe byddai claf
angen gofal dwys, yna byddai’n ofynnol mynd i ysbyty. Fodd bynnag, mai’n rhesymol i’r Bwrdd Iechyd
ddarparu y gwasanaeth gorau hyd eithaf ei allu a bod mwy y gellir ei wneud i
atal unigolion ddirywio a bod yn rhaid gwneud ymdrech i gael y nifer cywir o
unedau yn y lleoliadau cywir i gwrdd a’r anghenion.
(xii)
Gofynnwyd ai natur daearyddol Gwynedd oedd y
broblem ac oni fyddai’n rhesymol cael mwy o ysbytai cymunedol i ymateb i’r
anghenion? Mewn ymateb, cydnabuwyd bod
natur ddaearyddol y sir yn creu mwy o sialens i’r Bwrdd Iechyd ond rhaid
ystyried hefyd sgiliau ymarferwyr ynghyd a chloriannu yr hyn sydd ar gael yn
lleol. Teimlwyd bod y Bwrdd Iechyd wedi
ystyried yr opsiynau gorau bosib ar gyfer y lleoliadau cywir i’r hybiau
cymunedol.
Ychwanegwyd bod y
nifer o dderbyniadau i Ysbyty Alltwen wedi gostwng 34% lle gwelwyd oddeutu 97
yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn 2014/15 ac 34 yn y flwyddyn diwethaf, a hyn
oherwydd y gwasanaeth nyrsio cymuned sydd wedi ei gyflwyno ym Mlaenau
Ffestiniog ac ar gael bedair awr ar hugain 7 diwrnod o’r wythnos a’r ffaith bod
cleifion yn cael gofal yn eu cartrefi.
(xiii)
Mewn ymateb i faint o fethiannau clinigol sydd wedi
digwydd oherwydd bod Ysbyty Blaenau ar gau, nodwyd nad oedd dim methiant wedi
ei nodi yn achos Blaenau Ffestiniog.
(xiv)
Gofynnwyd sut fydd y gwasanaeth yn cymharu hefo
llefydd / ardaloedd eraill o fewn Gwynedd a sut y byddir yn mesur llwyddiant y
Ganolfan Coffa.
Nodwyd bod dipyn
go lew o glinigau yn mynd i agor a bod rheidrwydd ar y Bwrdd Iechyd i gynhyrchu
adroddiadau arfarnu i Lywodraeth Cymru ar y prosiect. Byddir hefyd drwy’r Swyddog Ymgysylltu yn
derbyn adborth gan staff y Ganolfan a’r defnyddwyr ac yn ymdrin ag unrhyw
gwynion a dderbynnir. Ychwanegwyd y
derbyniwyd llythyrau o gymeradwyaeth am y gwasanaethau sydd yna’n barod.
(xv)
Gofynnwyd a oedd tystiolaeth bod pobl wedi derbyn
triniaeth ers i’r Ysbyty gau wedi profi unrhyw
anhawster / pryder?
Mewn ymateb,
cydnabuwyd bod y cwestiwn yn anodd i’w ateb heb edrych ar yr oll gwynion. Fodd bynnag, nid oedd dim byd yn edrych yn
wahanol nag sydd mewn ardaloedd eraill yng Ngwynedd. Nodwyd ymhellach bod yr un clinigau yn bodoli
cyn i’r Ysbyty gau, ac oriau gwaith y nyrsus wedi ehangu, a’r ddarpariaeth uned
pelydr-x a mán-anafiadau ar gael yn Ysybyty Alltwen.
(xvi)
O safbwynt parch, gwasanaethau, positifrwydd, a
gwerth am arian i drigolion Blaenau Ffestiniog, nododd
Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd ei fod wedi cael y parch mwyaf posibl i bobl y
Gymuned a staff Betsi. Teimlai’n bositif pan fydd y Ganolfan newydd ar waith,
yn enwedig gyda mwy o glinigau. Nododd ei fod wedi cael profiadau mewn mannau
eraill lle cafodd heriau eu diwallu a gwerthfawrogai bwyntiau a wneir gan bobl.
Roedd 13 o leoliadau a chymerwyd y
penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd y gallai 10 ddarparu gwell gwasanaeth o fewn 40
munud o deithio i ddefnyddwyr y gwasanaeth.