skip to main content

Agenda item

Cofnod:

(i)               Cymerodd y Cynghorydd Glyn Daniels y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Craffu Gofal, ar ran Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog a thrigolion y Blaenau am gael y cyfle i gyflwyno eu tystiolaeth dros gael cyfleusterau iechyd yn ôl ym Mlaenau Ffestinog.

 

(ii)              Ar ran Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog, tywysodd Mr Geraint Vaughan Jones,  ar ffurf sleidiau, yr Aelodau at gefndir a thystiolaeth o sut y penderfynwyd i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog.  Tynnwyd sylw at y cyfrifoldeb ychwanegol sydd ar Gyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd o dan Ddeddf Llesiant a Gofal Cymdeithasol 2014  i roi ystyriaeth difrifol i’r llanast a greuwyd gan y Bwrdd Iechyd dros y 5 mlynedd diwethaf o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw. 

 

Gwnaed penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd yn 2008 i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog ac i adeiladu adeilad newydd a fyddai’n cynnig gwasanaeth llai effeithiol na’r hyn roedd gan drigolion Blaenau Ffestiniog a’r cylch ynghynt, a llai na’r hyn sydd yn cael ei gynnig mewn pentrefi dipyn llai na’r Blaenau a hynny o fewn Meirionnydd ei hun.

 

Pwysleiswyd na all trigolion Blaenau Ffestiniog anghofio’r gorffennol pan benderfynwyd i gau’r Ysbyty Coffa a hynny er mwyn arbed arian.

 

Aethpwyd ymlaen i esbonio cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i rym roedd Ysbyty Coffa Ffestiniog yn un o’r ysbytai gorau ac yn ysbyty coffa i 353 o hogiau ifanc a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr.  Yn 2012 roedd yna 12 o welyau mewn defnydd rheolaidd, staff nyrsio profiadol, practis meddygon sefydlog hefo 4 meddyg, meddygfeydd dwy/dair gwaith yr wythnos yn Llan Ffestiniog a Dolwyddelan; clinig ffisiotherapi, uned pelydr-x a oedd mewn defnydd rheolaidd gan y meddygon a’r cyfan ar gost o £800,000 y flwyddyn.

 

Pan bleidleisiodd y Bwrdd Iechyd yn 2013 i gau’r Ysbyty Coffa diflannodd y gwasanaethau amlinellir uchod i gyd dros nos hyd yn oed y gwasanaeth meddygon dibynadwy oedd ar gael ynghynt a hynny er gwaethaf pob protest a deiseb leol.  Erbyn heddiw, nodwyd bod practis meddygol Blaenau Ffestiniog yn ddibynnol ar “locums” sydd prin yn adnabod eu cleifion, ac ambell ddiwrnod dim ond un “locum” sydd ar gael.  ‘Roedd yn amlwg o benderfyniad y Bwrdd Iechyd nad oedd trigolion Blaenau yn haeddu yr un gwasanaeth a threfi eraill Meirionnydd, a theimlwyd yn gryf bod anffafriaeth yn erbyn ardal Blaenau Ffestiniog. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Prif Weinidog wedi datgan yn 2012 na fyddai ‘run ysbyty dan fygythiad i gau ond eto i gyd fe gynhyrchodd y Bwrdd Iechyd y strwythur arfaethedig uwchlaw yr hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog. 

 

Drwy greu yr ardaloedd llesiant yn unol á’r Ddeddf, bwriad y Bwrdd Iechyd ydoedd creu ysbyty canolbwynt yn Nolgellau, cadw a gwella Ysbyty Coffa Tywyn, adeiladu Ysbyty Alltwen i gymryd lle Ysbyty Penrhyndeudraeth, cadw Ysbyty Bryn beryl, cadw Ysbyty Gwynedd Bangor. Ond yng nghyd-destun Ucheldir Cymru, y penderfyniad ydoedd cau Ysbyty Coffa Ffestiniog a gwneud i ffwrdd a gwasanaeth Mán Anafiadau, Uned Pelydr-x, dwy feddygfa, a phwysleisiwyd wrth y Pwyllgor Craffu mai dyma yr unig ardal yng Ngwynedd sydd heb gartref nyrsio o gwbl ynddi hi. 

 

Yn ôl yn 2012, y nod ydoedd “yr hyn sy’n bwysig yw bod pobl leol yn gwneud penderfyniadau lleol ynglyn a gofal iechyd yn lleol” ond pwysleisiwyd na fu unrhyw gytundeb arnynt yn lleol.

 

Cyfeiriwyd at ddeisebau arwyddwyd gan gannoedd o unigolion yn erbyn cau’r Ysbyty Coffa a oedd yn cynnwys 5 meddyg, 2 nyrs i gynrychioli staff yr Ysbyty, 4 cynghorydd sir, cadeirydd y Cyngor Tref, Ysgrifennydd Cyngor Cymuned Dolwyddelan, cadeiryddion cynghorau cymuned Trawsfynydd a Maentwrog, cadeirydd cwmni seren, Cadeiryddion Cyfeillion yr Ysbyty Coffa a’r Pwyllgor Amddiffyn, ond anwybyddwyd y deisebau gan y Bwrdd Iechyd.  Cyfeirwyd at ymateb gan Gadeirydd y Bwrdd Iechyd i’r ddeiseb a oedd yn sarhad ar ddeallusrwydd trigolion Blaenau a’r cylch.

 

Yn 2015 galwyd am refferendwm gyda chanlyniad y bleidlais yn unfrydol i’w gynnal, a bu i 52% o’r etholaeth fwrw pleidlais gyda 99.6% ohonynt yn datgan o blaid ail-agor yr ysbyty coffa ym Mlaenau Ffestiniog hefo gwelyau i gleifion, uned man-anafiadau a gwasanaeth pelydr-x, ond fe anwybyddwyd hyn yn llwyr.

 

Cyfeiriwyd at restr o wasanaethau iechyd sydd ar gael yn Nolgellau,  Tywyn a Ffestiniog a thynnwyd sylw bod ardal Blaenau yn derbyn 15 o wasanaethau yn llai na Dolgellau a 13 yn llai na Thywyn ac o ystyried bod poblogaeth Blaenau yng nghyfrifiad 2011 yn 4,875 o’i gymharau a 3,264 yn Nhywyn a 2,688 yn Nolgellau.

 

Tynnwyd sylw at dudalen a gynhyrchwyd gan y Bwrdd Iechyd dyddiedig Gorffennaf 2017, a oedd yn rhestru hyd at 36 o wasanaethau newydd fyddai ar gael yn y Ganolfan Coffa ond prysurwyd i nodi bod 23 ohonynt ym Mlaenau Ffestiniog yn barod cyn yr ad-drefnu.  Cwestiynwyd pwy fyddai’n gyfrifol am dalu am y gwasanaethau hyn. 

 

Cyfeiriwyd at gyflwyniad y Bwrdd Iechyd yn gynharach yn ystod y cyfarfod hwn lle roeddynt yn cyfiawnhau cau Ysbyty Coffa Ffestiniog a chwestiynwyd pam y bu i’r Bwrdd Iechyd gynnal arolwg yn Ffestiniog yn unig, pam targedu trydedd dref fwyaf Gwynedd, ardal sydd wedi dioddef di-weithdra a cholli gwasanaethau.  Ni chafodd arolwg ei gynnal mewn ardaloedd eraill ac felly teimlwyd yn gryf bod anffafriaeth bwriadol i’r ardal.  Pwysleiswyd nad oedd y Pwyllgor Amddiffyn yn gwarafun ysbytai mewn llefydd eraill ond yn hytrach gofyn pam nad oedd Blaenau Ffestiniog ac Ucheldir Cymru yn haeddu’r un gwasanaethau o ystyried ei ddioddefaint.  

 

Apeliwyd ar gael yr Ysbyty Coffa yn ól a mater bach fyddai addasu un o’r ystafelloedd yn y Ganolfan newydd i greu ward ar gyfer trigolion Ucheldir Cymru. 

 

 

 

Dogfennau ategol: