skip to main content

Agenda item

Copi o adroddiad ynghlwm

 

 

Cofnod:

(A)  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsti Cadwaladr

 

(i) Nododd Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei fod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y mater hwn ac yn yr un modd bod gan y Bwrdd Iechyd gwestiynau i'w hateb. Tra’n cydnabod bod rhywfaint o hanes i’r mater, hyderir y bydd yr adroddiad a gyflwynir yn gosod rhesymeg y Bwrdd Iechyd o ran adolygu'r gwasanaeth, goblygiadau'r adolygiad hwnnw o ran ceisio cyrraedd pwynt lle ceir ystod well o wasanaethau ar draws Gogledd Cymru a rheiny mor effeithiol a chynaliadwy a phosibl. Hefyd, noda’r adroddiad o safbwynt symud ymlaen lle mae'r Bwrdd Iechyd yn credu y bydd y Ganolfan Iechyd newydd yn eu galluogi i ddatblygu gwasanaethau newydd fel anelir ar draws Gogledd Cymru gyfan. Nid yw'r gwasanaethau newydd hyn yn seiliedig ar welyau, ond byddent yn effeithiol ac yn gynaliadwy o fewn y clinigau arfaethedig yn y Ganolfan Iechyd newydd. Un pwynt sylfaenol y mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd ei dderbyn ydoedd eu bod wedi gwneud rhai newidiadau gan roi yr argraff y byddai rhai pethau ar waith cyn gwneud y newidiadau hynny. Roedd hyn yn gamgymeriad ar ran y Bwrdd Iechyd ond wedi dweud hynny, roedd y Prif Weithredwr o'r farn bod y rhesymeg a sefydlwyd gan y  Bwrdd Iechyd yn gadarn ac mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n dda mewn mannau eraill. Gobeithir y bydd pobl yn gweld y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei ymrwymiadau a’r darlun mwy positif o symud ymlaen pan fydd y gwasanaethau newydd yn weithredol fel rhan o'r Ganolfan Iechyd.

 

          (ii)           Cyfeiriodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin, at y strwythur arfaethedig sef ceisio cael gofal yn agosach at gartrefi unigolion drwy greu hybiau cymunedol o fewn y cymunedau.   O ran cysondeb a diogelwch i’r claf ceisir cael yr un gwasanaethau iechyd o fewn yr un amseroedd agor yn yr hybiau cymunedol ac o fewn taith 40 munud mewn cerbyd i gleifion ar draws Gogledd Cymru.  Nodwyd bod gwasanaethau pelydr-x ynghyd â gwasanaethau mân-anafiadau ar gael o 9.00 a.m. tan 5.00 p.m. ddydd Llun i ddydd Gwener yn yr hybiau cymunedol.  O safbwynt Blaenau Ffestiniog, bwriedir sefydlu canolfan integredig iechyd a gofal a fydd yn cynnwys gwasanaethau iechyd, gofal ynghyd â’r trydydd sector. Nodwyd ymhellach y bwriedir cynnal clinigau newydd yn y Ganolfan megis y galon, ysgyfaint, ehangu gwasanaethau anableddau dysgu a gofal lliniarol.

 

(i)               O ran strategaeth yn y gymuned, adroddodd Dr Sion Jones, Ymgynghorwr yng ngofal yr henoed yn Ysbyty Gwynedd, ar y ffordd ymlaen i gynnig gwasanaeth mwy personol i unigoilion yn eu cartrefi.  Nododd bod eiddilwch a niferoedd pobl hŷn yn cynyddu mewn cymunedau ac yn aml nid oedd mynediad i ysbyty yn ddelfrydol i rai o’r unigolion. Ceisir datblygu gwasanaeth i ymdrin ag unrhyw argyfwng yn y gymuned a medru darganfod eiddilwch yn gynnar.  Cyfeirwyd at esiampl lwyddiannus o drefniadau sef Model MEC (Môn Enhanced Care) gyda thîm o arweinyddion meddygol yn cynnwys un Meddyg Teulu rhan-amser, 2 nyrs ynghyd â chynorthwyddion gofal iechyd a oedd wedi gweld oddeutu 250 o gleifion yn y gymuned dros y flwyddyn diwethaf.  Hyderir y gellir ehangu’r model ar draws ardaloedd eraill yng Ngwynedd ond ei fod yn anodd oherwydd cyfyngiadau cyllidol a recriwtio.  

 

(iv) Ychwanegodd Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin bod y Bwrdd Iechyd wedi datblygu achos busnes ac yn dilyn proses ymgynghori cymeradwywyd y cynllun i ddatblygu Canolfan Integredig ym Mlaenau Ffestiniog gan Lywodraeth Cymru.  O ran yr argymhellion, penderfynwyd i gau gwelyau cleifion yn Ysbyty Coffa Ffestiniog a chytunwyd i agor chwe gwely ychwanegol yn Ysbyty Alltwen.  Dros bedair blynedd gwelwyd nifer cyfartalog y cleifion o Flaenau Ffestiniog a dderbyniwyd bob mis i Ysbyty Alltwen rhwng 5.3 ac 8 ac sydd yn unol â’r capasiti chwe gwely ychwanegol a agorwyd.  O safbwynt gofal yn y cartref darparwyd adnoddau ychwanegol sylweddol mewn nyrsio, gwasanaethau cymdeithasol, y trydydd sector a chefnogaeth weinyddol.  Yng nghyd-destun capasiti cartrefi nyrsio / preswyl, nodwyd bod prinder yn genedlaethol a rhaid edrych ar modelau gwahanol.  Sefydlwyd tri gwely yng Nghartref Gofal Preswyl Bryn Blodau i ofal camu i fyny / i lawr ac fe ddefnyddir rhain 80% o’r amser.

 

‘Roedd y gwasanaeth pelydr-x a’r gwasanaeth mân-anafiadau yn Ysbyty Coffa Ffestiniog yn anghynaladwy a bellach darparir gwasanaeth pelydr-x 5 diwrnod yr wythnos a bwrieidir ymestyn yr oriau agor gwasanaeth mân-anafiadau hyd at hanner nos 7 diwrnod yr wythnos yn Ysbyty Alltwen. 

 

(v)          Esboniodd Karen Bampfield, Arweinydd Nyrsus Cymunedol (Meirionnydd), ar yr ochr weithredol drwy nodi bod tim o staff yn gweithredu yn ardal Blaenau Ffestiniog gydag oddeutu 166 o gleifion fel rhan o’r achosion. Derbyniodd oddeutu 34 o unigolion gofal lliniarol yn y gymuned y flwyddyn diwethaf.  Nodwyd bod sgiliau’r nyrsus wedi eu uchafu i drin cleifion yn y gymuned. Pan fydd y Tim yn symud i’r Ganolfan Coffa byddent yn rhannu swyddfa gyda swddogion Gwasanaethau Cymdeithasol fel bo modd cydweithio i symud y strategaeth ymlaen.   

 

I gloi, nododd Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin bod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio symud ymlaen gydag strategaeth ar gyfer y gymuned a sicrhau gwasanaethau diogel ond drwy wneud hyn wedi gorfod lleihau y nifer o ysbytai er mwyn uwch sgilio staff.

 

 

 

Dogfennau ategol: