Agenda item

Cais i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd a chodi annedd newydd yn ei le

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

         Cais i ddymchwel yr annedd bresennol ynghyd a chodi annedd newydd yn ei le

 

         Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y  Rheolwr Cynllunio  ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd a chodi annedd newydd yn ei le,  codi modurdy/sied storio ar y safle ynghyd a gwneud newidiadau i’r fynedfa gerbydol bresennol i’r safle ac ymestyn cwrtil presennol yr eiddo.

 

Nodwyd bod trafodaethau anffurfiol o flaen llaw wedi bod ynghylch a’r bwriad i ddymchwel ac ail-godi’r ; ac er mai anffurfiol oedd y trafodaethau, ac nad yw polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol yn berthnasol bellach; mae cyngor clir wedi ei roi ar sut i oresgyn effaith gormesol ac effaith ar fwynderau’r eiddo gerllaw ac mae’r egwyddorion cynllunio sylfaenol yma'r un mor berthnasol wrth ystyried y cais yng nghyd-destun polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn groes i’r meini prawf isod o bolisi TAI 13:

 

Tynnwyd sylw at

Maen prawf rhif 4: Tu allan i ffiniau datblygu nid oes posib cadw’r adeilad presennol trwy ei adnewyddu neu ei ymestyn a/neu gellir dangos nad yw atgyweirio’r adeilad presennol yn ymarferol yn economaidd - bod blaenoriaeth yn cael ei roi tuag at adnewyddu adeiladau cyn codi tai o’r newydd; ond yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn derbyn fod achlysuron ble nad yw hynny yn bosib. I’r perwyl hyn, nid oedd y cais gerbron yn cynnwys unrhyw dystiolaeth nad oedd yn bosib atgyweirio’r adeilad presennol yn ymarferol yn economaidd

 

Maen prawf rhif 6: Tu allan i Ardal Reoli Newid Arfordirol, dylid lleoli sydd i’w adeiladu oddi mewn i’r un ôl troed a’r adeilad presennol  oni bai y gellir dangos bod ail leoli o fewn y cwrtil yn lleihau ei effaith gweledol a’i effaith ar fwynderau lleol. Er bod y bwriedig wedi ei wthio’n ôl er mwyn lleihau ei effaith ar yr eiddo sydd wedi ei leoli yn union o’i flaen; yn groes i’r cyngor cyn cyflwyno cais a roddwyd; nodwyd bod y bwriedig wedi ei droi fel bod ei gefn (gydag agoriadau mawrion a phrif ystafelloedd e.e. lolfa fawr, cegin ac ystafelloedd gwely) yn wynebu’r eiddo cyfochrog sydd islaw, a blaen y bwriedig gydag ystafelloedd eilradd (e.e. ystafelloedd ymolchi, swyddfa ac ystafell newid) yn wynebu tir amaethyddol agored. Ystyriwyd felly nad oedd lleoliad na gosodiad y bwriedig yn ymdrechu i leihau ei effaith ar fwynderau lleol, yn benodol mwynderau presennol yr eiddo gerllaw.

 

Ystyriwyd fod uchder y bondo yn ormodol ac felly yn creu dyluniad anghymesur o ran arwynebedd y wal mewn perthynas â’r to. Golygai hyn fod y dyluniad hwn yn creu strwythur o ddyluniad sy’n anghydnaws ar fryn yn y dirwedd agored, ac sy’n arwain at effaith weledol sylweddol fwy na’r adeilad presennol. Nodwyd bod cefn y bwriedig yn cynnwys ffenestri i brif ystafelloedd ynghyd a drysau amlblyg sy’n gor-edrych cefn yr eiddo gerllaw ac iard breifat sydd wedi ei leoli union o flaen yr eiddo oedd destun y cais yma - gan greu gor-edrych annerbyniol.

 

Amlygwyd bod cyngor cyn cyflwyno cais wedi ei gynnig  yn awgrymu fod blaen a  chefn y yn cael ei droi fel bod y prif agoriadau megis y lolfa fawr wydr a’r drws patio yn wynebu’r de yn lle’r gogledd er mwyn gwneud y gorau o olau a gwres naturiol. Ar hyn o bryd ystafelloedd eilradd sydd yn wynebu’r de, sef iwtiliti, cyntedd, swyddfa, ystafell ymolchi ac un ffenestr ystafell fwyta. Byddai'r newidiadau hyn hefyd yn fodd o sicrhau gwell preifatrwydd i’r ty cyfochrog ac i’r eiddo newydd a hefyd yn gwella'r edrychiad wrth agosáu at y ty wrth ddod fyny’r ffordd gyhoeddus. Nodwyd y gall hyn newid ychydig ar drefniant mewnol ond ystyriwyd fod hyn yn gwbl bosibl heb orfod lleihau ar yr arwynebedd. Yn ogystal, awgrymwyd drwy gyngor blaenorol y byddai dod a’r bondo rywfaint yn is, ac fel oedd wedi ei gynnig gan yr asiant bryd hynny, yn fwy derbyniol na’r bondo uwch a gyflwynwyd. Cadarnhawyd nad oedd gwrthwynebiad mewn egwyddor i’r bwriad ar y sail yma ond fod modd gwella’r cynllun drwy’r awgrymiadau oedd eisoes wedi eu cynnig gan swyddogion. Ar sail yr hyn oedd wedi ei gyflwyno ystyriwyd fod y bwriad yn annerbyniol ac yn groes i’r polisïau a nodiwyd yn yr adroddiad

 

(b)       Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Ei fwriad oedd ail wneud y ty

·         Er bod trafodaethau anffurfiol wedi eu cynnal gyda’r Gwasanaeth Cynllunio, nid oedd yn deall y rhesymau dros wrthod

·         Bod y nenfwd yn isel ac felly angen addasu

·         Yn gweithio yn lleol ac eisiau byw yng nghefn gwlad Gwynedd

 

(c)       Nododd yr Aelod lleol gefnogaeth i’r cais, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

·         Derbyn bod y cynlluniau gwreiddiol yn annerbyniol ond bellach cynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno

·         Bod gormod o bwyslais argor-edrcyh

·         Nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu cyflwyno – y gymuned yn gefnogol

·         Llythyr wedi ei dderbyn gan gymdogion yn datgan nad oedd ganddynt wrthwynebiad cyn belled a bod y yn cael ei wthio yn nol

·         Croesawu gwelliant

·         Dim synnwyr i wrthod y cais

 

ch)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais gydag amodau

 

(d)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau  

          unigol

·      Croesau nad oedd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio fel ty haf

·      Angen cydweithio a chytuno ar ddyluniad addas

·      Angen ystyried llythyr y cymdogion

·      Cefnogol i’r cais – yr ymgeisydd yn gweithio yn lleol

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Uwch Reolwr  bod cyngor cadarn wedi ei gynnig i’r asiant a petai y cais yn cael ei ganiatáu byddai angen cynnwys yr amodau arferol/priodol.

 

PENDERFYNWYD:      Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

 

1.    Amser

2.    Unol gyda chynlluniau

3.    Llechi

4.    Deunyddiau

5.    Tirweddu/plannu

6.    Tynnu PD

7.    Tynnu PD ffenestri

8.    Amodau priffyrdd

9.    Tynnu llechi to'r tŷ presennol gyda llaw/tymor penodol

10.  Dim dymchwel y siediau presennol heb ganiatâd

 

Nodiadau yn ymwneud gyda’r fynedfa

Dogfennau ategol: