Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 6 llain, tirlunio, adeiladu bloc toiledau/cawod a tanc trin
AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts
Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol
Cofnod:
Creu safle carafanau teithiol ar gyfer
6 llain, tirlunio, adeiladu bloc toiledau/cawod a thanc trin
Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd ynghyd a chais gan yr ymgeisydd
i ohirio trafod y cais. Nododd y Rheolwr Cynllunio nad
oedd rhesymau digonol dros ohirio
wedi eu cyflwyno.
O ganlyniad, ni
fyddai gohirio'r drafodaeth yn gwneud
gwahaniaeth i’r argymhelliad oherwydd bod pryderon sylfaenol o safbwynt polisi a’r effaith weledol
ar yr AHNE.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais ydoedd
i sefydlu safle carafanau teithiol i 6 uned ar gae ym Methlem,
Rhoshirwaun. Roedd y bwriad hefyd yn cynnwys adeiladu bloc toiledau ar gefn
gweithdy presennol, ynghyd a gosod system trin carthion
ac ymgymryd ag elfen o dirlunio i atgyfnerthu gwrychoedd presennol.
Amlygwyd mai safle cefn gwlad agored ydoedd yn ffinio gyda ffordd sirol
dosbarth 3 Porth Oer, o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a
Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.
Bwriedir defnyddio mynediad cerbydol sydd eisoes yn gwasanaethu’r
gweithdy a’r iard bresennol fel mynediad i’r safle.
Eglurwyd bod y safle o faint cyfyngedig a cwestiynwyd os oedd modd sicrhau
gosodiad o safon uchel. Nid oedd lle digonol i’r nifer unedau o ystyried parcio
a phebyll adlen. Nodwyd nad oedd y tirlunio presennol
yn ddigonol a chaeau agored agored tu hwnt i’r safle.
Cyfeiriwyd at y polisi sydd yn datgan na ddylai safleoedd newydd fod yn
ymwthiol i’r dirwedd. Ystyriwyd bod y safle yn amlwg yn y dirwedd fel ac y mae,
gyda’r nifer o gerbydau, peiriannau ac offer presennol o fewn yr iard yn denu
sylw a sefyll allan yn weladwy. Byddai caniatáu safle carafanau ar y safle yn
ategu at amlygrwydd y safle ac yn difrïo golygfeydd o fewn yr AHNE, sy’n
arbennig o amlwg o gyfeiriad ffordd ger Porth Oer a hefyd wrth deithio tuag at Methlem o gyfeiriad Rhydlios. Ni fyddai’r bwriad yn
cyfrannu’n gadarnhaol i dirlun ehangach yr AHNE ac felly nid yw’r bwriad yn
cwrdd â gofynion polisi AMG 1 CDLL.
b)
Amlygywd bod yr Aelod Lleol
wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn gwrthwynebu y cais.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod
y cais
PENDERFYNWYD gwrthod y cais
1.
Byddai'r safle carafanau arfaethedig, oherwydd ei
leoliad, gosodiad a gwedd yn y dirwedd, yn sefyll fel nodwedd amlwg ac ymwthiol
o fewn cefn gwlad agored gan gael effaith niweidiol ar y dirwedd a mwynderau
gweledol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'r bwriad felly yn groes i
bolisi AMG 1 a TWR 5 Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017) (fel y’i diwygiwyd gan
adroddiad yr arolygydd 30 Mehefin, 2017) a Chanllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor
Gwynedd.
2.
Ni chyflwynwyd gwybodaeth ddigonol am y dull gwaredu carthion o’r safle i
sicrhau na fydd y bwriad yn
achosi llygredd i’r amgylchedd dyfrol ac ystyrir fod y bwriad felly yn groes i
faen prawf 7 o Bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf
2017) (fel y’i diwygiwyd gan adroddiad yr arolygydd 30 Mehefin, 2017)
Dogfennau ategol: