skip to main content

Agenda item

Creu safle ar gyfer carafanau teithio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Creu safle ar gyfer carafanau teithio

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd yn cyfeirio at ddefnydd hanesyddol y safle ar gyfer 5 carafán gan aelodau'r Clwb Carafanau.

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu maes carafanau teithiol. Amlygwyd bod y safle yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer 5 carafán dan dystysgrif eithriedig Clwb Carafanau gyda bwriad o’i ddefnyddio fel safle ar gyfer lleoli 9 o garafanau teithiol gan ddefnyddio'r bloc toiledau presennol ynghyd a  phlannu coed brodorol ar derfynau'r safle ac ail leoli'r giât bresennol.

 

Amlygwyd mai'r brif ystyriaeth o safbwynt egwyddor y datblygiad oedd polisi TWR 5 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd oedd yn cymeradwyo cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol os bydd cynllun yn cydymffurfio â’r cyfan o gyfres o feini prawf.  Ni ystyriwyd  bod y cynllun yn cwrdd gyda gofynion y polisi o safbwynt ei effaith weledol ar y dirwedd.

 

Lleolir y safle mewn cefn gwlad agored y tu allan i  ffin ddatblygu ac o fewn yr AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol). Oherwydd gwrych presennol, derbynnir na fyddai'r carafanau yn weladwy iawn o’r ffordd sirol gyfochrog, fodd bynnag, fe nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn pant yn y dirwedd ac felly byddai’r carafanau yn weladwy o diroedd uwch, ac yn benodol o'r ffordd sy’n arwain o’r safle tua’r gorllewin.  Derbyniwyd sylwadau ffurfiol yr Uned AHNE yn datgan bod y safle yn amlwg o diroedd uwch o fewn yr ardal.

 

Tynnwyd sylw at y cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos bwriad i blannu coed a gwrychoedd brodorol ar hyd terfynau gorllewinol a gogleddol y safle fodd bynnag, ni ystyriwyd y byddai'r tirlunio bwriedig yn lleihau ardrawiad y datblygiad ar y tirlun mewn modd digonol a fyddai’n goresgyn pryderon am amlygrwydd y safle yn y dirwedd o fewn yr AHNE.

 

Ystyriwyd bod y cynllun yn dderbyniol dan ofynion polisi eraill, megis yr effaith ar fwynderau trigolion, materion priffyrdd ac ystyriaethau bioamrywiaeth. Fodd bynnag, byddai'r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith niweidiol sylweddol ar olygfeydd o fewn yr AHNE

 

b)         Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y maes carafanau presennol yn cael ei redeg gan deulu Cymraeg, lleol ers y 50au

·         Bod y maes carafanau yn un o safon uchel ac yn agored o’r 1af o Fawrth hyd y 31 o Hydref bob blwyddyn

·         Nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn

·         Nad oedd bwriad cynyddu maint y maes - dim ond y nifer o garafanau o 5 i 9

·         Bod y cynnydd yn ymateb i’r galw mewn nifer o ymholiadau

·         Bod y cynnydd yn ymateb i’r angen (o ystyried bod nifer y carafanau teithiol sydd yn parcio yn anghyfreithlon yn cynyddu)

·         Bod yr ymwelwyr teithiol yn cyfrannu at y gymuned leol a’r economi leol

 

c)         Nododd yr Aelod lleol gefnogaeth i’r cais, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

·      Bod y maes carafanau yn cael ei weithredu yn effeithiol yn safle taclus  a chroesawgar

·      Bod y safle mewn pant ac felly llai gweledol, wedi ei gysgodi gyda gwrychoedd gyda bwriad o blannu mwy

·      Nad oedd gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned

·      Bod llythyrau cefnogaeth wedi eu derbyn a bod Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn llongyfarch y safle

·      Bod bwriad i warchod y llwybr cyhoeddus

·      Bod y cynnydd yn ymateb i’r galw

·      Nad yw’r safle yn peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd

·      Bod y safle yn un syml a glan, yn ddiymwthiol ac yn bodloni gofynion y polisïau

·      Anogwyd y Pwyllgor Cynllunio i ganiatáu’r cais.

 

ch)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais gydag amodau

 

d)         Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Nad yw cynnydd o bedair carafán deithiol yn ymddangos yn effaith sylweddol ar yr AHNE

·         Bod nifer o feysydd carafanau i’w gweld o dir uchel yr AHNE

 

Mewn ymateb i gwestiwn cadarnhawyd y byddai caniatáu y cais yn ffurfioli defnydd y maes carafanau i unrhyw un gael aros yno ac nid at ddefnydd aelodau o’r Clwb Carafanau yn unig.

 

PENDERFYNWYD:    Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i'r amodau a ganlyn:

 

1.    Amser

2.    Unol gyda chynlluniau

3.    Nifer i’w cyfyngu/lleoli yn y man a ddangosir

4.    Mynedfa i’w gwblhau yn unol gyda’r cynlluniau cyn defnyddio’r safle carafanau teithiol

5.    Tymor/teithiol/cofrestr

6.    Dim storio

7.    Tirweddu i’w gytuno cyn cychwyn y tymor plannu

 

Nodyn: CNC a gwarchod llwybr cyhoeddus

Dogfennau ategol: