Agenda item

Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith M Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

         Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder

 

    Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle.

 

Tynnwyd sylw at ddeiseb oedd wedi ei chyflwyno oedd yn cyfeirio ar faterion tebyg i’r hyn oedd eisoes wedi ei gyflwyno ynghyd â sylwadau ar lafar gan Gwarchod y Cyhoedd.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 3.7.17 er mwyn i’r Aelodau ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r dwyrain gyda’r canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a Chanolfan Hamdden Plas Silyn.

 

          Nodwyd o’r wybodaeth a gyflwynwyd mai’r bwriad oedd cyflawni amcan y Llywodraeth i ddarparu cyflenwad signal 4G ble nad yw’n bodoli eisoes mewn ardaloedd gwledig.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a leisiwyd ym Mhwyllgor 3.7.17, cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth ychwanegol oedd yn cyfiawnhau lleoli'r mast ar y safle penodol yma ac roedd y rhain wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Amlygwyd hefyd bod ‘Declaration of Conformity with the International Commision on Non-Ionizin Radiation Protection (ICNIRP) Public Exposure Guidelines’ wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais gerbron, oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i gydymffurfio a chanllawiau’r ‘ICNIRP’ sef canllaw cydnabyddedig ar gyfer y math yma o ddatblygiad.

 

          Derbyniwyd gwrthwynebiad ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd, ac yn benodol ar iechyd plant yn y Feithrinfa, yr Ysgol Gynradd a’r Ysgol Uwchradd gerllaw ynghyd â defnyddwyr Canolfan Hamdden Plas Silyn.

 

Er y cydnabuwyd fod pryder wedi ei godi ynglŷn ag effaith posib ar iechyd, ni ystyriwyd fod y bwriad yma yn groes i’r polisïau cenedlaethol na’r CDLL ac nad oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith posib y datblygiad.  Nodwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â goblygiadau datblygiad arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru yw na ddylid bod angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw effeithiau iechyd na’r pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o flaen llaw os yw’r datblygiad yn bodloni gofynion ICNIRP.

 

          Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Eglurwyd bod y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu 50m a 90m i ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau gwahanol a chydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol. Nodwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel yn bodoli eisoes yn yr ardal, megis polion trydan a golau stryd a gyda’r strwythur yma yn un main a syml yn y bôn, byddai yn annhebygol o gael effaith amlwg hir dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol.

 

b)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd yn gweithredu fel aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Gwrthwynebu lleoliad bwriedig y mast - awyddus adleoli mewn lle addas

·         Byddai’r mast yn creu effaith ar fwynderau gweledol ac yn rhy agos at dai, meithrinfa ysgolion a chanolfan hamdden

·         Y gymuned yn ceisio hybu balchder a gwella gwelededd y pentref – y mast yn tanseilio’r ymdrech i wella edrychiad

·         Diwallu angen am dai fforddiadwy i bobl leol drwy osod mast mor agos - byddai yn creu effaith gormesol ar y tai. (Grŵp Cynefin yn bwriadu adeiladu tai fforddiadwy yma ac yn bygwth tynnu allan os caniateir y datblygiad).

·         Byddai’r mast yn creu sŵn parhaus

·         Lleoliadau priodol eraill angen eu hystyried

·         Bod angen ystyried y Ddeddf Llesiant

·         Bod y gymuned leol yn pryderu am effaith negyddol y datblygiad ar iechyd yn enwedig iechyd y plant.

·         Cyfeirio at astudiaethau rhyngwladol ac apeliadau oedd yn dangos effeithiau ymbelydredd electroneg magneteg ar iechyd

·         Rhesymau digonol i achosi pryderon – gormod o risg i leoliad y mast

 

c)      Cymerodd yr  Uwch Gyfreithiwr y cyfle i dynnu sylw’r Aelodau at faterion diweddar oedd wedi bod gerbron yr Uchel Lys ynglŷn â heriau yn ymwneud â mastiau a’r effaith ar iechyd. Amlygwyd bod yr her wedi methu a bod yr Uchel Lys wedi bod yn gefnogol i benderfyniad y Cyngor. Nododd hefyd, gan nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno gan y gwrthwynebwyr a bod gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn dangos ei fod yn cyfarch y gofynion statudol, ni ddylid ystyried iechyd fel rheswm i wrthod y cais.

 

ch)    Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais oherwydd yr effaith ar fwynderau gweledol

 

d)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

·         Nad oedd y lleoliad yn addas

·         Y dylai’r ymgeisydd asesu safleoedd eraill

·         Nad oedd y dyluniad yn un da – angen ystyried dyluniad llai diwydiannol

·         Bod angen ystyried effaith hir dymor y mast  - y lleoliad yn un unigryw – yn rhy agos i sefydliadau oes addysg 2½ – 18 oed

·         Dim yn ymwybodol o’r effaith ar iechyd felly dylid bod yn rhagofalus;

·         Y dylid annog cwmnïau telathrebu i rannu mast

·         Byddai gwrthod y cais yn anghyfrifol ac yn groes i ganllawiau

 

dd)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bwriad Grŵp Cynefin i ddatblygu tai fforddiadwy yn yr ardal yma, cadarnhawyd na fyddai’r bwriad yma yn cael effaith ar unrhyw fwriad i ddatblygu tir cyfagos ac nad oedd y fath gais wedi ei dderbyn ar hyn o bryd.

 

e)      Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd na fyddai’r Gwasanaeth Cynllunio mewn sefyllfa i orfodi rhannu mast, ond yn sicr, fod ymarfer da yn ymwneud gyda datblygiadau o’r fath yn annog hyn.

           

f)       Pleidleisiwyd ar y cynnig i wrthod y cais, syrthiodd y cynnig ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd.

 

          Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe syrthiodd.

 

Nododd yr Uwch Gyfreithiwr y dylid gohirio'r penderfyniad ar sail bod y ddau gynnig wedi disgyn.

 

         PENDERFYNWYD gohirio’r cais

 

Dogfennau ategol: