I ystyried cais gan
Mr B
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y
cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd
cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y troseddau. Nododd bod rhai o’r troseddau yn rhai hanesyddol, ond bod yr un o
feddiannu a thyfu cyffur yn ganlyniad o ymweliad gan yr Heddlu ar ei eiddo mewn
perthynas ag ymchwiliad amherthnasol. Gofynnodd cynrychiolydd yr ymgeisydd
cyfres o gwestiynau i’r ymgeisydd am y troseddau ac am ei gefndir. Mynegodd yr
ymgeisydd ei fod yn awyddus i gael gwaith i gefnogi ei deulu ac ategwyd ei fod
yn berson agored a gonest gyda chymeriad da.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd
Wrth
wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
sylwadau llafar
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS oedd yn datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Bod cyfres
helaeth o gollfarnau wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd. Adnabuwyd bod
nifer o gollfarnau hanesyddol am droseddau
anonestrwydd, ond ar ôl ystyried paragraff 8.2 o bolisi'r Cyngor, a bod yr
euogfarnau hyn wedi digwydd dros 3 blynedd yn ôl, roedd yr is-bwyllgor yn
fodlon nad oedd yr euogfarnau hyn yn sail i wrthod y cais.
Ystyriwyd
bod yr ymgeisydd wedi ei ddyfarnu yn euog am droseddau oedd yn gysylltiedig â
thrais gan y Llys Ynadon yn 1997, 1998 a 2003. Wedi ystyried paragraff 6.6 o’r
Polisi ac adnabod bod mwy na 10 mlynedd wedi mynd heibio ers yr euogfarn
ddiwethaf yn 2003, roedd yr is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yr euogfarnau hyn yn
sail i wrthod y cais.
Tynnwyd
sylw hefyd at euogfarnau hanesyddol eraill o 1995, 1996 a 1998 am droseddau
moduro lle cafodd yr ymgeisydd ei wahardd ar ddau achlysur. Wedi ystyried
paragraff 12.4 a 12.11 o’r polisi, ac o
gofio bod yr euogfarnau a'r gwaharddiadau wedi digwydd 19 mlynedd yn ôl, roedd
yr is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yr euogfarnau hyn yn sail dros wrthod.
Rhoddodd
yr is-bwyllgor ystyriaeth lawn i'r gollfarn ddiweddar (4.7.17) am feddiant amffetamin dosbarth B, a chynhyrchu canabis dosbarth B,
oedd yn groes i Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Rhoddodd yr is-bwyllgor
ystyriaeth i baragraffau 9.1 a 9.2 o bolisi'r Cyngor, oedd, mewn achosion o
droseddau lluosog, yn ymwneud â thyfu neu feddiannu cyffuriau. Ategwyd bod y
polisi yn nodi y dylid gwrthod cais oni bai bod yr ymgeisydd yn rhydd o
euogfarnau am o leiaf 5 mlynedd ac felly'r paragraff yn berthnasol i’r gollfarn
yma.
Fodd
bynnag, wedi derbyn cefndir ac eglurhad llawn gan yr ymgeisydd, daeth yr
is-bwyllgor i'r casgliad i wyro oddi ar baragraff 9 yn cael ei gyfiawnhau;
·
cafodd yr ymgeisydd ei gyhuddo o drosedd o
ganlyniad i'r heddlu fod yn ymgymryd ag ymchwiliad ar y safle i gerbyd a gafodd
ei ddwyn. Gan nad oedd yr ymgeisydd ag ymrwymiad i’r cerbyd, ni chafodd ei
gyhuddo.
·
Yn ystod yr ymchwiliad, bu i’r heddlu
ddarganfod bag gwag o amffetamin yng nghyntedd
eiddo'r ymgeisydd. Bu iddo gyfaddef i’r cyhuddiad gan fod y bag ar y safle
·
Yn ystod yr un ymchwiliad bu i’r heddlu
ddarganfod un pot o ganabis ac fe gyfaddefodd yr ymgeisydd bod y cyffur yn
cael ei dyfu er lles ei dad oedd yn byw ar y safle
ac yn dioddef gyda’i iechyd.
·
Nid oedd yn gynhyrchiad ar raddfa fawr
·
Nid oedd unrhyw dystiolaeth o ddibyniaeth
O dan yr
amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor, wedi rhoi ystyriaeth
llawn i’r polisi, yn fodlon
bod y rhesymau uchod yn cyfiawnhau
bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd
ac y byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau
trefniant y drwydded.