I ystyried cais gan
Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i
ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygwyd bod yr
ymgeisydd wedi derbyn trwydded hacni gan Cyngor Môn (15.8.17) drwy broses
cyfweld - dosbarthwyd copi o’r drwydded er gwybodaeth. Ategwyd nad oedd yr ymgeisydd
wedi troseddu ers 2008. Ei fod bellach wedi gwella ei gymeriad, yn ddyn teulu
ac yn dad i bedwar o blant.
Mewn ymateb i sylw, nododd y Rheolwr
Trwyddedu bod cynlyn dirprwyo hawliau Cyngor Sir Ynys Môn yn wahanol i
drefniadau Gwynedd, lle nad oes swyddogion Gwynedd yr hawl i wneud penderfyniad
os oes troseddau wedi eu cofnodion ar y cofnodi DBS. Amlygwyd nad oedd yr Uned
Trwyddedu yn ymwybodol bod cais am drwydded hacni wedi ei ganiatáu gan Cyngor
Sir Ynys Môn
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth wneud eu
penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau
llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Bod cyfres o
gollfarnau wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd oedd yn cynnwys troseddau
o ddefnyddio dogfen yswiriant gyda bwriad i dwyllo ym Mawrth 2003 ac am beidio
â stopio wedi damwain ym Medi 2003 wedi gyrru heb ofal a sylw digonol. Roedd yr
Is-bwyllgor o'r farn bod yr euogfarnau yma yn gyfystyr â throseddau traffig
difrifol ac yn unol â pharagraff 12.2 o bolisi'r Cyngor. Fodd bynnag, gan fod y
troseddau hyn wedi digwydd dros 5 mlynedd yn ôl, ac wedi ystyried paragraff
12.4 y polisi, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y troseddau hyn yn sail
i wrthod eich cais.
Tynnwyd sylw o
gofnod DBS o fod yn euog o yfed a gyrru yn 2004.Yn yr un modd, roedd y drosedd
yn un hanesyddol ac yn unol â pharagraff 11.1 o’r polisi, nid oedd yn sail i
wrthod y cais. Yn yr un modd, wrth drafod y drosedd o guro a ddigwyddodd yn
2007, roedd y drosedd yn un hanesyddol ac wedi ystyried paragraff 6.5 o’r
polisi, nid oedd yn sail i wrthod y cais.
Roedd y gollfarn
ddiweddaraf am gyflawni gweithred o aflonyddu (Gorffennaf 2008) yn ymddangos i gynrychiolydd
yr ymgeisydd fel un oedd wedi ei restru o dan baragraff 6.4 o’r polisi a bod
rhaid i 10 mlynedd fod wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar. Er
hynny, amlygodd y Cyfreithiwr mai paragraff 6.5 oedd yn berthnasol i’r gollfarn
o greu aflonyddwch ac felly yn unol â pharagraff 6.5 a gyda mwy na 3 blynedd
wedi mynd heibio, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na ddylai'r cofnod yma fod yn
sail i wrthod y cais.
Wedi ystyried bod gan yr ymgeisydd drwydded gyrru hacni a thrwydded
gyrru breifat gyda Cyngor Sir Ynys Môn, nad oedd unrhyw gollfarnau / rhybuddion wedi eu derbyn ers 9 mlynedd a
bod yr ymgeisydd wedi mynychu hyfforddiant ar Ddiogelu Plant ac Oedolion
Bregus, penderfynwyd bod yr ymgeisydd yn addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy
lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau trefniant
y drwydded.