Tŷ Castell, 18 Stryd Fawr, Caernarfon
I ystyried y cais uchod
Cofnod:
Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau
uniongyrchol ar y cais.
Ar ran yr
eiddo: Mr Roland Evans (ymgeisydd)
Eraill a wahoddwyd: Ffion
Muscroft (Swyddog Iechyd Amgylchedd, Gwarchod y
Cyhoedd – Cyngor Gwynedd)
a)
Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer Tŷ Castell, 18 Stryd Fawr, Caernarfon mewn perthynas â
chyflenwi alcohol, cerddoriaeth fyw wedi ei recordio a lluniaeth hwyr y nos.
Amlygwyd mai cerddoriaeth gefndirol yn unig oedd bwriad y gerddoriaeth wedi ei
recordio ac mai cerddoriaeth acwstig, achlysurol fydd y gerddoriaeth fyw.
Gofynnwyd hefyd am hawl i weini lluniaeth hwyr y nos ac alcohol ar ddiwrnodau
gŵyl.
Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr
adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol
bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r
rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod dau o lythyrau wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr
amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus. Tynnwyd sylw at sylwadau a
gyflwynwyd gan Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd ynghyd a sylwadau ac
argymhellion Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd. Amlygwyd bod
trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeiswyr a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a
bod cytundeb bellach i leihau'r oriau trwyddedig ac i dderbyn amodau sŵn
fel rhan o’r drwydded.
b)
Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd
cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
·
Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded.
·
Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Mewn ymateb i’r adroddiad
gofynnwyd i’r Swyddog Trwyddedu os oedd y gwrthwynebwyr yn ymwybodol o’r
addasiad i’r oriau agor. Nododd yr ymgeisydd ei fod wedi trafod y gostyngiad
mewn oriau gydag un o’r gwrthwynebwyr ac o ganlyniad roedd y gwrthwynebydd wedi
croesawu’r penderfyniad yma.
d)
Wrth
ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi
ei gyflwyno ac ategwyd y sylwadau
canlynol:
·
Bod datblygu Tŷ Castell
wedi bod yn gyfle i wireddu gweledigaeth
·
Bod yr adeilad wedi bod yn
segur ers 1994 - yn adeilad Gradd 2 gan Cadw. Adnewyddu'r adeilad yn
arwain at adfywio rhan o’r dref
·
Y bwriad yw creu bwyty tapas gyda naws Gymreig
- gyda gwinoedd a chwrw o safon a gwesty bwtic
5 ystafell yn cyflogi hyd at saith o bobl. Bydd bwriad i hyrwyddo'r Gymraeg a
defnyddio cynnyrch lleol
·
Bydd archebion bwyd yn gorffen
am 9:30pm gyda bwriad cau'r gegin am 10:30pm a chau y bwyty am hanner nos.
·
Nid oes bwriad cynnal bar
swnllyd - rhaid cyfarch disgwyliadau ac anghenion y gwesteion.
·
Hyblygrwydd oriau'r drwydded
bellach wedi ei haddasu yn realistig
·
Wedi derbyn cefnogaeth a
brwdfrydedd gan bobl leol
·
Wedi
mynychu cwrs i dderbyn Trwydded bersonol
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r diffyg o beidio gallu agor ffenestri
y bwyty, amlygwyd bod system awyru wedi ei gosod yn y gegin, seler, toiledau,
cegin a’r ystafelloedd ymolchi ynghyd a ffenestri mawr yn y llofftydd i ysgogi
awyr iach. Yn ychwanegol, yng nghyd-destun sŵn, pwysleisiwyd mai
cerddoriaeth acwstig ysgafn fydd yn cael ei chwarae ar raddfa fechan e,e ar achlysur lansio cd neu
lyfr.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwaredu gwastraff, amlygwyd bod amod wedi
ei gynnwys gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn nodi na fydd modd gwaredu
poteli a chaniau tu allan i’r adeilad trwyddedig rhwng 22:00 a 08:00.
Ychwanegodd yr ymgeisydd bod ganddynt drwydded sydd yn caniatáu cadw gwastraff
mewn cwrtil yng nghefn swyddfeydd y Cyngor Sir.
Gwnaed cais i’r ymgeisydd sicrhau y byddai'r system TCC yn cael ei
wasanaethu yn gyson a bod lluniau glan o safon ar gael i’r Heddlu a’r
Gwasanaeth Trwyddedu petai gofyn amdanynt.
Cydnabuwyd llythyrau a oedd
wedi ei derbyn yn datgan gwrthwynebiad i’r cais gan RG a SF Colclough
a Nia Dryhurst.
Nododd Swyddog Iechyd
Amgylchedd bod yr Adran yn hapus gyda’r cytundeb i ostwng yr oriau ac i’r
amodau gael eu cynnwys yn y drwydded.
e)
Wrth ystyried
y cais ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roi sylw penodol i
egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003
• Trosedd ac Anrhefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag Niwed
PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig
i oriau terfynol cynharach ac amodau
arfaethedig o ran rheoli sŵn a goleuo:
Rhoddir trwydded fel a ganlyn:
1. Caniateir cerddoriaeth fyw dan do (rhan E o’r cais), ar ddydd Llun rhwng
12:00 a 00:00, o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 18:00 a 00:00, o ddydd Gwener i
ddydd Sadwrn rhwng 12:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 12:00 a 22:00.
2. Caniateir cerddoriaeth wedi ei recordio (rhan F) dan do, o ddydd Llun i
ddydd Sadwrn rhwng 08:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 08:00 a 22:00.
3. Caniateir adloniant yn disgyn o fewn rhan H o’r cais dan do, o ddydd Llun i
ddydd Sadwrn rhwng 18:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 18:00 a 22:00.
4. Caniateir darparu lluniaeth hwyr yn nos dan do (rhan I), o ddydd Llun i
ddydd Sadwrn rhwng 23:00 a 00:00.
5. Caniateir cyflenwi alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo (rhan J), o
ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 11:00 a
22:00.
6. Mae’r oriau agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 08:00 a
00:30, ac ar ddydd Sul rhwng 08:00 a 22:30.
7. Mewn perthynas â’r holl weithgareddau trwyddedig uchod caniateir ymestyniad
o 1 awr ar yr awr derfynol ar gyfer amseroedd ansafonol, gan gynnwys
nosweithiau cyn gŵyl banc a gwyliau banc.
8. Mae’r materion sydd wedi eu cynnwys yn rhan M o’ch cais (h.y. yr atodlen weithredu)
yn cael eu hymgorffori fel amodau i’r drwydded.
9. Er llawnder, ychwanegir amod cadw clipiau teledu cylch cyfyng yn cael eu
cadw am o leiaf 28 diwrnod ac yn darparu'r rhain ar alw i’r Awdurdod Trwyddedu
a’r Heddlu.
10. Ychwanegir yr amodau rheoli sŵn a rheoli goleuo a awgrymwyd gan Iechyd
Amgylcheddol ac a gytunwyd iddynt gan yr ymgeiswyr.
Wrth ystyried sylwadau'r gwrthwynebwyr oedd yn mynegi pryder y byddai
caniatáu'r drwydded yn arwain at gynnydd mewn pobl yn ymadael â’r eiddo yn hwyr
yn y nos, ac y byddai hyn yn berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal niwsans
cyhoeddus, ni ddarparwyd eglurhad na thystiolaeth sut y byddai cynnydd mewn
pobl yn arwain yn anorfod at gynnydd mewn niwsans cyhoeddus. Nid yw bodolaeth
nifer o bobl mewn un lle ynddo’i hun yn dystiolaeth o
niwsans cyhoeddus. Gallai problemau
sŵn neu sbwriel neu broblemau tebyg mewn egwyddor arwain at niwsans
cyhoeddus, ond nid dyma oedd sail y sylwadau a gyflwynwyd.
Wrth ystyried sylwadau'r gwrthwynebwyr oedd yn mynegi pryder y byddai
rhoi’r drwydded yn arwain at gynnydd mewn problemau sŵn yn hwyr yn nos
derbyniodd yr Is Bwyllgor bod sŵn
mewn egwyddor yn gallu bod yn berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal niwsans
cyhoeddus, ond ystyriwyd y sylwadau yn rhai damcaniaethol. Ni chyflwynwyd
unrhyw dystiolaeth y byddai problem sŵn sy’n gyfystyr â niwsans cyhoeddus
yn debygol o ddigwydd petai’r drwydded yn cael ei rhoi.
Nodwyd bod Iechyd Amgylcheddol wedi cyflwyno sylwadau yn cadarnhau nad oedd
gwrthwynebiad i’r cais, ond argymhellwyd
cyfres o amodau o ran rheoli sŵn a goleuo. Roedd yr Is-bwyllgor yn derbyn
bod cytundeb rhwng yr ymgeiswyr a'r gwasanaeth, i’r amodau hyn gael eu cynnwys
ar y drwydded, petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu.
Ategwyd er gwybodaeth, y diystyriwyd sylwadau o ran ardrawiad cronnus neu “cumulative impact”. Adroddwyd nad
oedd gan y Cyngor bolisi ardrawiad cronnus ac felly roedd tu hwnt i awdurdod yr
Is-bwyllgor i wneud penderfyniad o ran cyflwyno polisi o’r fath. Byddai’n disgyn
ar y Pwyllgor Trwyddedu Canolog i benderfynu cyflwyno polisi ardrawiad cronnus,
a hynny yn dilyn tystiolaeth fyddai yn cyfiawnhau creu polisi.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i bawb
oedd yn bresennol.
Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio
i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw.
Dogfennau ategol: